Mae Crynwyr Cymraeg yn gyfarfod ar-lein a sefydlwyd gan gyfarfod Pwllheli a’r Bala yn ystod y Clo i roi cyfle i Grynwyr sy’n medru’r Gymraeg i gyd addoli ac i gadw cysylltiad tra fo’r byd i gyd ar gau.
Mae’r patrwm wedi bod yn eithaf llwyddiannus, yn cyfarfod ar y nos Iau cyntaf a’r trydydd o’r mis ar Zoom. Gyda’r addoliad yn cychwyn am 7.30yh, mae gwahoddiad i bawb sydd eisiau ymuno o 7 o’r gloch ymlaen am sgwrs.
Mae llwyddiant addoliad yn gwella os yw’r rhai sy’n mynychu yn gyfarwydd â’i gilydd ac wedi hen arfer bod yng nghwmni ei gilydd. Mae hynny’n fwy felly gydag addoliad Crynwrol lle nad oes patrwm penodol i addoliad. Mae’r cyfarfodydd ar-lein wedi gweithio er nad ydym yn yr un gofod, a’r cyfarfod, bellach, yn ddigwyddiad cyson ym mywydau rhai ohonom.
Cawn hanner awr o addoliad distaw - gydag ambell un yn cyfrannu - ddim bob tro - o’u profiad i ysbryd y cyfarfod. O bryd i’w gilydd fe fyddwn yn clywed cerdd, yn gweld delwedd neu yn adrodd stori sydd yn sbarduno ysbrydol - yn creu adwaith y gallwn ymateb arno. Awn ymlaen wedyn i gael sgwrs a rhoi mynegiant i faterion oedd yn codi o weinidogaeth.
Bu’r cyfarfod yn gyfrwng hefyd i gynnal sgwrs drwy’r Gymraeg am Grynwriaeth yn gyson - rhywbeth y bydd cyfarfod Pwllheli a’r Bala yn medru gwneud yn hollol naturiol, ond dyw hyn ddim yn bosib i bawb. Mae addolwyr cyson ledled Cymru, ac eraill yn ymuno o Lundain a Chaer-wynt, a dinasoedd eraill.
Ein bwriad yr hydref a’r gaeaf hwn yw ymestyn hefyd i gynnal nifer o sgyrsiau byr ar-lein am Grynwriaeth, ein hanes, ein tystiolaeth, ein dull o addoli ynghyd â gogwydd bersonol ambell unigolyn ar fywyd ysbrydol a’n hymateb i newyddion a chyflwr y byd.
Mae croeso mawr i unrhyw un i fod yn rhan o’r cyfarfod - unwaith, yn achlysurol neu’n gyson, fel y mynnwch. Peidiwch bod yn swil.
Os am wybod mwy mae gennym safle we crynwyrcymraeg.org a chyfeiriad e-bost crynwyrcymraeg@gmail.com. I’r sawl sy’n dilyn Twitter edrychwch am @crynwyrcymraeg.
Comments