top of page

Croeso!

Croeso i e-fwletin yr wythnos hon. ‘Croeso’. Gair cyfarwydd iawn. Dyma’r gair sy’n cael ei ddefnyddio ar ddechrau pob oedfa. Croeso i’r rhai sy’n bresennol. Croeso i’r rhai sydd wedi gwneud yr ymdrech i ddod draw i’r capel neu’r eglwys. Weithiau mae’n ymddangos yn fwy o ddiolch nag o groeso. Wrth ddefnyddio’r gair ‘croeso’ beth ydyn ni’n ei feddwl? Pa mor ddidwyll yw ein croeso ni mewn gwirionedd? Neu ai gair sy’n cael ei or-ddefnyddio yn ddifeddwl yw ein croeso ni?


Yn sicr mae yna groeso i’r aelodau a’r rhai sy’n rhan o’r gynulleidfa. Mae yna groeso i ymwelwyr hefyd cyn belled â’u bod yn bobl debyg iawn i ni sydd heb fod yn bwriadu amharu ar ein trefn gysurus. Ond a oes yna wir groeso ym mhob un o’n capeli a’n heglwysi ni i bawb?


Sut fyddwn ni yn dangos ein croeso yn ogystal â’i ddatgan? Ble mae’r dystiolaeth ein bod ni’n groesawgar i bawb? Medrwch ddadlau ein bod yn cynnwys pawb yn yr addoliad, yn darparu offer i helpu’r rhai sy’n drwm eu clyw, sydd angen llyfr emynau print bras neu sydd angen cymorth i ddringo’r grisiau. Mae ein croeso ni yn un da ar yr olwg gyntaf.


Ond, mae yna un bwlch mawr yng nghroeso’r mwyafrif o gapeli yng Nghymru. Faint ohonom sy’n cynnig yr un croeso i bawb trwy ddal trwydded i briodi cyplau o’r un rhyw? Mae’r nifer yn gywilyddus o fach. Trwy eithrio aelodau’r gymuned LHDTC+ o dderbyn yr hawl dynol sylfaenol o briodi o fewn ein hadeiladau rydym yn dangos yn glir nad yw’r croeso yn un cyfartal i bawb. Mae hyn nid yn unig yn achosi poen a siom i rai o’n haelodau, ond yn cyflwyno delwedd ddi-groeso o grefydd yn gyffredinol.


Dengys canlyniadau’r cyfrifiad diwethaf bod y nifer o bobl sy’n cyfrif ei hunain yn grefyddol wedi cwympo’n aruthrol yn ddiweddar ac mae capeli’n cau ar hyd a lled y wlad yn wythnosol. Ydy hi’n bryd nawr i ni ystyried sut fath o groeso ydyn ni ei gynnig? Ydy dweud ein bod yn fodlon bendithio’r uniad ond heb ei gydnabod fel priodas yn dangos rhagrith creulon sy’n tanlinelli’r gwahaniaeth rhwng gwahanol grwpiau hyd yn oed yn fwy? Ydy’r ffaith bod nifer o gapeli nad sy’n gwrthwynebu’n benodol, ond sydd heb ffwdanu mynd ati i wneud cais am y drwydded yn adlewyrchiad o’n difaterwch a’n diffyg gofal am eraill?


Rwy’n erfyn arnoch heddiw i roi o’r naill ochr eich trafodaethau am drefniadau’r Gymanfa Ganu, gohiriwch eich cyfarfod ynglŷn â phaentio’r festri a thorri’r fynwent a rhowch eich sylw i rywbeth sy’n wirioneddol bwysig. Trafodwch pam nad oes yr un croeso i bawb yn eich capel chi. Trafodwch pam eich bod yn eithrio rhai pobl ac yn eu hatal rhag derbyn yr un hawliau a breintiau â phawb arall. Trafodwch beth mae hyn yn ei ddweud am eich cynulleidfa; ac ewch ati i lenwi’r ffurflenni fydd yn eich galluogi i ddatgan yn onest bod yna groeso diffuant i bawb o fewn muriau eich addoldy chi.


bottom of page