Cristnogaeth ar Waith
- 2 days ago
- 2 min read
Gwelais lun trawiadol yn y papur o’r Arlywydd Trump yn gweddïo. Neu, a bod yn fanwl gywir, yn cyd-weddïo gyda tua dwsin o weinidogion eglwysi Efengylaidd America yn y Tŷ Gwyn. Roedd ei lygaid ar gau, golwg dangnefeddus ar ei wyneb, yn dal dwylo dau weinidog o boptu tra roedd y lleill fel pe baent yn ei fendithio.
Wn i ddim beth oedd testun y weddi neu’r gweddïau wrth i America ac Israel fomio Iran yn llwch a chwythu’r Aiatola yn chwilfriw. Ond mae’n dda gwybod bod gwleidydd mwyaf dylanwadol y byd yn Gristion pybyr. Diau ei fod wedi darllen pennod 6 o Efengyl Mathew rywdro – ond heb ei chofio.
“A pheidiwch a gweddïo fel y rhai sy’n gwneud sioe o’u crefydd. Maen nhw wrth eu bodd pan mae pobl yn edrych arnyn nhw… Pan fyddi di’n gweddïo, dos i ystafell o’r golwg, cau y drws a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti…Wedyn bydd dy Dad, sy’n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. Dyma sut dylech weddïo: Ein Tad…..Dyn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd.”
Yng nghylch yr Arlywydd mae criw da o Gristnogion eraill. J.D. Vance, er enghraifft, a roddodd y comedian o Iwcrain, yr Arlywydd Zelenskyy, yn ei le mor gelfydd. Fel ’na mae trin pobol. A Christion mwy ymosodol fyth yw Pete Hegseth, pennaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn gynt a ail enwyd yn Weinyddiaeth Ryfel. Mae ganddo groes Jerwsalem fel tatw ar ei frest, mae’n debyg, sef clwstwr o bum croes sy’n cael eu cysylltu â chyfnod y Croesgadau. Mae’n edmygydd mawr o’r Croesgadau. Wrth y croesau mae tatw arall o gleddyf a’r geiriau Lladin, Deus Vult, sef Duw a’i myn. Yn wahanol i’w fos mae Mr Hegseth yn gapelwr cyson ac yn edmygydd o’r Pastor Douglas Williams sydd a syniadau digon tebyg i Fwslemiaid Ffwndamentalaidd am le’r fenyw mewn priodas a chymdeithas. Dylent gael sgwrs rywdro.
Disgrifiodd Hegseth yr ymosodiadau ar Iran fel, “Death and destruction from the sky all day long…America is winning - decisively, devastatingly and without mercy.” Mae’n rhaid gen i fod Mathew wedi camglywed neu gamddehongli’r Bregeth ar y Mynydd. Neu, tybed a yw Mr Hegseth wedi camddeall? All y ddau ddim bod yn iawn.
“Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cant hwy etifeddu’r ddaear.
Gwyn eu byd y rhai trugarog oherwydd cant hwy dderbyn trugaredd.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr oherwydd cant hwy eu galw’n feibion Duw.”
Alun Ffred
22 Mawrth 2026

Comments