Mae diwrnod neu ddau mewn ysbyty yn gallu bod yn brofiad gwerth chweil. Hynny yw, os nad yw eich clefyd yn un difrifol.
Mi ges i gyfle’n ddiweddar i brofi croeso un o adrannau prysuraf Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Betsi druan! Gwraig dda o ardal y Bala sydd wedi ei cael ei difenwi gannoedd o weithiau bellach, gydag ambell i Aelod o Senedd Cymru yn galw’r gwasanaeth a enwid er cof amdani yn ‘wasanaeth Trydydd Byd’, (ble bynnag mae’r Trydydd Byd erbyn hyn). Bu rhai yn galw am ail-enwi’r Bwrdd gan iddo gael ei bardduo gymaint. Mae’r Bwrdd, fel y gwyddom, o dan ‘fesurau arbennig’ y Senedd. Mae hynny yn ei hun yn codi amheuon a ddylai rhywun fentro i gynteddau’r fath awdurdod.
Ond profiad hollol wahanol ges i. Yr welais i oedd criw o bobl ifanc a hŷn wrthi’n ddyfal ddydd a nos, nos a dydd, yn cynnal a gofalu a thrin eu cleifion. A’r cleifion hynny wrth gwrs yn dod o bob man, yn wych a gwachul, yn dawedog a swnllyd, pob un mewn argyfwng o ryw fath, ac yn gwerthfawrogi’r gofal a dderbynnir, er gwaetha’r aros hirfaith i weld y meddyg. (Gyda llaw, dydw i ddim yn hoff o ddefnyddio’r gair ‘diflino’ wrth ddisgrifio gwaith nyrsys a meddygon. Y ffaith syml yw eu bod nhw’n blino ond eu bod yn llwyddo, fel arfer, i guddio hynny).
Na, doedd hi ddim yn berffaith yno. Ond mi welais ddigon i adfer fy ffydd yn ein nyrsys a’n doctoriaid; ac i adfer fy edmygedd o’u ymroddiad llwyr i’r alwedigaeth a ddewiswyd ganddynt. Ac efallai mai’r peth pwysicaf imi oedd nad oedd arlliw o ymffrost na hunan-dosturi yn agwedd y staff. Roedd prinder adnoddau yn dod i’r amlwg o dro i dro. Ond canolbwyntio ar wneud y gorau o’r hyn oedd ganddynt oedd eu blaenoriaeth, heb gŵyn na sioe.
Doedd Iesu byth yn gwneud sioe o’i waith yn gwella cleifion. Roedd yn gwneud yr hyn oedd yn rhaid er mwyn ateb angen y dioddefwr. Ond os oedd modd defnyddio hynny i atgoffa’r awdurdodau o’u dyletswydd, yna doedd Iesu ddim yn un i golli cyfle.
Yn ôl Efengyl Luc, pan aeth Iesu i gartref un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth ‘am bryd o fwyd’ ddylen ni ddim synnu eu bod ‘a’u llygaid arno’! Gofynnodd yn blwmp ac yn blaen i athrawon y Gyfraith a’r Phariseaid:
“A yw’n gyfreithlon iachau ar y Saboth ai nid yw?” Ond ni ddywedasant hwy ddim. Yna cymerodd y claf a’i iachau a’i anfon ymaith. Ac meddai wrthynt: “Pe bai mab neu ych unrhyw un ohonoch yn syrthio i bydew, oni byddech yn ei dynnu allan ar unwaith, hyd yn oed ar y dydd Saboth?” Ni allent gynnig unrhyw ateb i hyn”. (Luc 14: 3-6, BCND),
Dyma Iesu Grist ar ei fwyaf uniongyrchol, yn gwneud ei bwynt heb flewyn ar ei dafod. Ac mae’n werth sylwi ar y frawddeg swta, “Yna cymerodd y claf a’i iachau a’i anfon ymaith”. Doedd Iesu ddim yn dymuno i’r claf aros o gwmpas fel rhyw esiampl o’i waith da. Roedd wedi ei wella, a dyna ben.
Mae sawl enghraifft arall o hyn, lle mae Iesu yn rhybuddio unrhyw un oedd yn dyst i’r gwella i beidio sôn wrth neb. Nid gwella cleifion er mwyn creu argraff oedd Iesu ond cyfarfod angen yr anghenus; ac ynn sicr nid er mwyn ennyn clod a sylw cyhoeddus. Efallai mai’r enghraifft orau yw iachau merch Jairus. Wedi iddi gael ei hadfer a chodi ar ei thraed, meddai Iesu: “A rhoddodd ef orchymyn pendant iddynt nad oedd neb i gael gwybod hyn, a dywedodd am roi iddi rywbeth i’w fwyta”.
Wrth wylio staff ymroddedig staff yr ‘A&E’ cefais y teimlad sicr fod y gwaith yn parhau, a bod ysbryd Iesu yn fyw.
Dafydd Iwan.
Comentarios