Crist y Garddwr
- garethioan1
- Jun 15
- 3 min read
Wrth fynd yn hŷn, mae’n frwydr gynyddol i gynnal brwdfrydedd; ac heb frwdfrydedd, does dim llawer o lewyrch ar ddim.
Ond un gweithgaredd sy’n llwyddo i ddeffro tipyn o frwdfrydedd ynof fi yw garddio. Peidiwch â nghamddeall i – dydw i fawr o arddwr mewn gwirionedd, ond mae rhoi cynnig ar dyfu ychydig o lysiau yn rhoi boddhad mawr i ddyn. Yn wir, mae’n rheswm da dros godi yn y bore i weld beth sy’n digwydd yn yr ardd. Sut olwg sydd ar wlydd y tatws erbyn hyn? Oes yna flodau newydd arnyn nhw? Ydi’r ffa dringo wedi cydio yn y ffyn? Ac oes yna fwy o domatos wedi ffurfio? Mae yna foddhad go iawn mewn teimlo bod rhywun yn cydweithio gyda byd natur i greu bywyd newydd, a dyw hynny ddim yn rhy bell o gredu bod dyn yn llwyddo i gydweithio gyda’r Creawdwr ei hun.
Nid damwain yw hi fod Iesu wedi tynnu sawl tro ar fyd y garddwr i gyflwyno’i neges. Yr enghraifft amlwg yw dameg yr heuwr, dameg sydd mi gredaf i yn dod yn fwy perthnasol bob dydd wrth i gyfryngau cyfathrebu ein byd ni amlhau mewn nifer a dirywio mewn ansawdd. Dameg yw hon a ddylai fod yn flaenllaw ar gwricwlwm pob cwrs ar newyddiaduraeth a chyfathrebu cyhoeddus. Prif wers y ddameg mae’n siŵr yw mai mewn tir da, wedi ei baratoi’n ofalus, y mae’r gobaith gorau i’r neges wreiddio a dwyn ffrwyth.
Ond heddiw, gan amled y cyfryngau 24/7 a’u negeseuon yn hedfan ar bob awel blith draphlith, does dim cyfle i ystyried ydyn nhw’n dweud y gwir ai peidio. Ac mae ‘fake news’ cystal, os nad gwell, na’r gwirionedd. Byddaf yn aml yn meddwl beth yn union y mae’r geiriau ar y pecyn hadau yn ei feddwl wrth ‘well-prepared soil’. Mae Iesu yn dyfynnu proffwydoliaeth Eseia: “ Er gwrando a gwrando, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim. Canys brasawyd deall y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a’u llygaid wedi cau”. Roedd Eseia yn amlwg yn gweld Trump a Farage yn dod o bell.
Mae dameg yr efrau yn yr ŷd eto’n dangos ymdeimlad ymarferol o fyd y garddwr-amaethwr. Hadau da a heuwyd, ond tyfodd efrau yn gymysg â’r ŷd; “Gawn ni fynd i dynnu’r efrau?”, meddai’r gweision. “Na, peidiwch, rhag ichi ddiwreiddio’r ŷd”, meddai’r amaethwr. “Gadewch i’r cyfan dyfu, ac yna casglwch yr efrau i’w llosgi”. Wrth egluro’r ddameg hon, mae Iesu yn creu darlun creulon o glir o’r modd y caiff dilynwyr y diafol eu cosbi yn Nydd y Farn. Doedd dim cyfaddawd ym meddwl Iesu pan soniai am y da a’r drwg. Cawsom ein rhybuddio!
Ond fy hoff ddameg gan Iesu o fyd natur yw dameg yr hedyn mwstard. Hon yw dameg y dechreuadau bach a’r gobaith mawr; ac imi mae’n tynnu’r holl greadigaeth, holl ryfeddod byd natur yn ei amrywiaeth gogoneddus i mewn i’w neges rymus. Yr hedyn mwstard yw’r ‘lleiaf o’r hoff hadau’ meddai Iesu, ond mae’n tyfu i fod yn goeden ganghennog mor fawr fel y gall holl adar y nefoedd nythu yn ei chysgod. Hon yw’r alwad gryfaf a gawn gan Iesu i ddod at ein gilydd i gyfrannu yn ei fuddugoliaeth ef, ac i weld undod y greadigaeth, a’r ddynoliaeth gyfan.
Yng ngeiriau Waldo,
‘Mae rhwydwaith dirgel Duw
Yn cydio pob dyn byw,
Cymod a chyflawn we,
Myfi, Tydi, Efe’.
Dafydd Iwan
15 Mehefin 2025
Comments