Un o gymeriadau mwyaf ddiddorol y weinidogaeth Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf oedd Idwal Jones, awdur straeon Gari Tryfan. I fy nghenhedlaeth i, roedd gwrando ar benodau cyfresi Gari Tryfan ar y radio yn un o uchafbwyntiau’r wythnos: rhuthro adre o’r ‘Band of Hope’ ac eistedd mor agos i’r set radio a phosib rhag colli yr un smic o’r cyffro.
Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, trodd Idwal Jones fwyfwy at fyd menter a busnes: cyhoeddi llyfrau Gari Tryfan ar ei liwt ei hun, dechrau busnes ffotograffiaeth a chardiau i ymwelwyr, ac arbrofi gyda chasetiau i anfon ei bregethau i gapeli na fedrai fod yn bresennol ynddyn nhw. Roedd yn llawn syniadau, ac yn gweld y datblygiadau cyfoes yn gyfle i arbrofi mewn sawl maes. A hynny ddechreuodd wneud imi feddwl am berthynas neges Iesu Grist a byd busnes.
Yn ei ffurf fwyaf amrwd, pwrpas rhedeg busnes yw gwneud elw, a’n tuedd ni Gristnogion yn y gorffennol oedd troi ‘elw’ yn air budr – fel pe bai rhyw rinwedd yn perthyn i redeg busnes ar golled! Rhaid i fusnes wneud elw i gadw i fynd, ac i ail-fuddsoddi er mwyn datblygu. Ond os yw busnes yn methu, yna agwedd y cyfalafwr llwyddiannus yw derbyn y golled a chychwyn eto, gan ddysgu o’r camgymeriadau a wnaed.
Mae wedi cael ei ddweud droeon mai un gwahaniaeth rhwng Cymry a Saeson yw bod y Saeson wedi dysgu trwy brofiad sut mae troi methiant mewn busnes yn llwyddiant, tra bod y Cymry yn methu dygymod â’r syniad o fethiant a mynd i ddyled. Mae’r person busnes hyderus yn gwybod bod rhaid mynd i ddyled er mwyn buddsoddi yn y dyfodol, ac y mae peth gwir yn y syniad ein bod ni’r Cymry yn rhy ddihyder, ac wedi ein trwytho yn y syniad bod mynd i ddyled yn beth drwg yn ei hanfod.
Ond lle mae pobl fusnes yn ei cholli hi yw pan fo gwneud elw yn dod o flaen popeth arall – a gwneud elw ar draul pawb a phopeth yn iawn. A’r peryg mawr y dyddiau hyn yw ein bod yn byw o dan gyfundrefn sy’n credu mai ‘tyfu’r economi’ yw prif nod bodolaeth gwlad. Ac i’r busnes unigol, mae hwnnw yn golygu gwneud mwy o elw eleni na’r llynedd. Mae pob ystyriaeth arall yn eilradd.
A dyma lle mae byd busnes yn chwalu egwyddorion Cristnogol. I’r Cristion pobol ac ansawdd bywyd pobol sy’n bwysig. Ac os yw gwneud elw yn golygu sarnu bywydau pobol a sathru ar eu hawliau dynol sylfaenol, dyna lle mae byd busnes yn colli’r ffordd. Llinyn mesur llwyddiant unrhyw gwmni neu gorff neu fusnes yn ôl egwyddor Crist yw ei fod yn gwella ansawdd bywyd pobol.
Gadewch inni yn fyr i ystyried tair enghraifft o fywyd cyfoes i ategu hyn: (i) campau ystrywgar tywyll y gyfres Succession, sydd wedi ei seilio’n fras ar yrfa Rupert Murdoch, cyfaill Donald Trump; (ii) chwalfa’r CBI o ganlyniad i gamymddwyn dybryd rhai o’i staff; a (iii) y modd y cafodd Noel Thomas, Gaerwen, ac eraill eu trin mor warthus gan Swyddfa’r Post.
Mae hanes Noel yn awr ar glawr yn y llyfr Llythyr Noel (Gwasg y Bwthyn), ac os oes rhywbeth sy’n dangos dyfnder pechodau’r byd corfforaethol yn glir, hanes arswydus Noel a’i gyfeillion diniwed yw hynny.
Comments