Croeso i wefan newydd Cristnogaeth21. Hyderwn ei bod yn ffres a chyfoes ei diwyg a’i chynnwys.
Yma ar y ddalen ‘Blog’ byddwch yn medru darllen yr e-fwletinau wythnosol C21. Byddwn hefyd yn cyhoeddi pytiau o newyddion yno, ynghyd â chyhoeddiadau ynghylch ein digwyddiadau ac ati.
Bydd yr adran ‘Adnoddau’ yn tyfu’n raddol wrth i ni ddatblygu deunydd darllen ac addoli newydd; a byddwn yn gosod rhai datganiadau cyffredinol o dro i dro ar agweddau o bolisi, diwinyddiaeth a materion cyfoes ar y ddalen ‘Datganiadau’.
Bu’r hen wefan yn ffynhonnell gyfoethog o erthyglau a deunyddiau darllen, yn enwedig drwy gyfrwng y cylchgrawn digidol, Agora. Bydd modd cyrchu ôl-rifynnau o Agora drwy’r botwm perthnasol ar hafan y wefan. Yn wir, mae’r hen wefan yn ei chyfanrwydd ar gael i ni o hyd drwy’r ddolen www.c21.cymru
Elusen wirfoddol yw C21 ac rydym yn gwerthfawrogi pob cefnogaeth, gan gynnwys cyfraniadau ariannol. Mae cyfarwyddyd ar sut i gyfrannu at goffrau’r elusen ar y wefan newydd hefyd.
Cofiwch hefyd am ein dalen Facebook (Cristnogaeth21 | Facebook) a’r cyfrif Trydar @Cristnogaeth21.
Hyderwn y bydd y wefan newydd yn cynnig llwyfan a hwb newydd i ni drafod a dehongli ein ffydd Gristnogol mewn modd radical, rhyddfrydig a blaengar.
Comments