top of page
Search

Colli Annette - y pianydd angerddol

  • garethioan1
  • Jun 1
  • 2 min read

Pan oeddwn ar fin rhoi e-fwletin cyntaf mis Mehefin at ei gilydd, clywais y newydd ysgytwol fod Annette Bryn Parri wedi’n gadael, ac aeth popeth arall o’m meddwl. Roedd Annette yn un o’r bobol hynny oedd wrth galon y gymuned a’r diwylliant Cymraeg, a hynny ers cyfnod ei harddegau. Y cof cyntaf sydd gen i ohoni yw fel cyfeilydd mewn cyfarfod bach yng Nghanolfan Waunfawr nôl yn y 70au, a hithau’n ferch ysgol ar y pryd. Roedd sȏn eisoes yn y fro am y ferch ifanc o Ddeiniolen oedd yn bianydd arbennig, a byth ers hynny, bu Annette yn rhan annatod o ddiwylliant cerddorol ei bro, ac yn ddiweddarach, Cymru gyfan.

 

Ac wrth glywed am ei marw annhymig, mae rhywun yn hel meddyliau ac yn raddol sylweddoli gymaint y mae pobol fel Annette yn greiddiol i’n bywydau, i’n hadloniant ond hefyd i’n bywyd a’n diwylliant ysbrydol. Roedd Annette yn berson emosiynol iawn, ac yr oedd ei theimladau yn amlwg yn ei gwaith, yn ei chanu gyda’i chwiorydd, yn y caneuon a gyfansoddodd, ond yn bennaf oll yn ei chyfeiliant a’i gwaith offerynnol. Roedd yn chwarae’r piano â’i holl enaid - does dim ffordd arall o’i ddisgrifio. I Annette, doedd dim modd canu’r piano yn ddiafael a ffwrdd â hi; roedd rhaid ymroi iddi â’i holl galon, a rhoi’r cyfan oedd ganddi i’r gwaith.

 

A dyna pam y bernais y byddai talu teyrnged i Annette yn addas ar gyfer e-fwletin Cristnogaeth 21. Mewn capel ac eglwys, mewn priodas ac angladd, mewn neuaddau rhwysgfawr a chanolfannau pentre’, mewn ysgol a choleg, mewn stiwdio ac eisteddfod, rhoddai Annette o’i gorau bob amser, gan ennyn ymateb gan bob cynulleidfa. Does dim rhyfedd fod cerddoriaeth a rhan mor ganolog yn ein crefydd - mae yna rai teimladau na fedrir eu mynegi ond trwy gerddoriaeth. A phan drawyd Annette â sawl profedigaeth yn ystod ei bywyd, ei hymateb greddfol oedd mynegi ei theimladau drwy gyfansoddi cân neu ddarn i’r piano, fel y gwnaeth pan gollodd ei hannwyl ŵr Gwyn ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

Ac os oedd yna achos neu elusen angen cefnogaeth, roedd Annette bob amser yn barod ei chyfraniad, a does neb a all fesur faint o arian a gododd hi dros y blynyddoedd. Bob amser yn hael gyda’i thalent a’i hymroddiad, a phob amser yn barod â’i gwên a’i hanogaeth hael. Bydd cannoedd o gantorion o bob oed, ac o sawl man yng Nghymru, yn gweld y golled ar ei hôl, a bydd disgyblion di-ri’ a hyfforddwyd ganddi mewn ysgol a choleg a Chanolfan William Mathias yn cofio’n annwyl amdani.

 

Wrth i doriadau mewn addysg gerddorol frathu mwyfwy, rhaid inni sylweddoli bod y golled yn llawer mwy na cholled addysgol. Mae’n tlodi ein bywyd ysbrydol fel cenedl hefyd. Coffa da am Annette, a diolch iddi am ein diddanu a’n hysbrydoli dros y blynyddoedd gyda’r fath angerdd.

 

Dafydd Iwan

1 Mehefin 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page