Gyda thristwch y clywsom am farwolaeth Y Parchedig Wynn Vittle, Caerfyrddin, oedd yn un o gymwynaswyr ffyddlon Cristnogaeth 21 o’r dechrau. Bydd llawer o’i gyd-Gymry yn cofio amdano fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cymorth Cristnogol am ymron i 18 mlynedd o 1972 ymlaen. Yn frodor o Ben-caer, Sir Benfro, bu’n weinidog yn ardal Pen-y-groes, Sir Gaerfyrddin, cyn symud i Gaerdydd gyda’i swydd o fewn Cymorth Cristnogol. Yn ddiweddarach, dychwelodd i’r weinidogaeth fugeiliol, gan ymgartrefu yn Llangynnwr.
Byddai ei negeseuon ar gyfer e-fwletin C21 bob amser yn heriol a phryfoclyd, ond yn arddangos arddeliad didwyll o blaid tegwch a chyfiawnder ym mhob maes. Yn rhinwedd ei swydd, cafodd gyfle i gyfarfod rhai o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, megis Desmond Tutu, Ellen Kuzwayo a Beyers Naude, a gwnaeth hynny argraff ddofn arno.
Roedd mynnu tegwch i’r rhai oedd dan orthrwm, am ba reswm bynnag, yn ganolog i’w ffydd a’i awydd am weld undod Cristnogol. Credai’n gryf mewn gweithredu ein ffydd yn ein cymunedau. “Trwy hyn”, meddai, grymusir ein hargyhoeddiadau, yn hytrach nag eistedd yn sydêt yn ein capeli, ymhell “o sŵn y boen sydd yn y byd”, gan fynd ȃ phrofiadau “pen y mynydd” i'r dyffryn i gefnogi pobol gyda’u pryderon a’u problemau.
Byddai bob amser yn ymfalchïo yn y modd y bu i Gymorth Cristnogol hybu achos eciwmeniaeth yng Nghymru, a daw hynny i’r amlwg yn ei gyfrol werthfawr ‘Ehangu Gorwelion’ sy’n adrodd hanes Cymorth Cristnogol, a gyhoeddwyd yn 2014.
Yn ei neges olaf ar gyfer yr e-fwletin, a gyhoeddwyd yn 2018, mae’n galw arnom i beidio â digalonni wrth weld cynifer o gapeli’n cau eu drysau; ac yn awgrymu efallai mai celloedd bychain o Gristnogion yw’r ffordd ymlaen. Yn ei eiriau ei hun:
“A ddylem ddigalonni gyda’r niferoedd yn lleihau a’r capeli’n cau? Er mor anodd yw derbyn hyn, rhaid argyhoeddi’n hunain nad yw cau capeli yn ddiwedd ar Gristnogaeth yn ein gwlad. Cyflawnodd y capeli eu diben i’w hoes a’u cyfnod. Onid celloedd bychain fu hadau’r ffydd yng Nghymru ddoe cyn adeiladu’n capeli? Yn nyddiau’r lleihad yn rhengoedd mwyafrif o’n heglwysi, ai celloedd bychain effeithiol yw’r ffordd ymlaen i weithredu’n ffydd?”
Roedd Wynn yn amlwg yn credu mewn wynebu heriau a chofleidio newid. Rydym yn cofio’n annwyl amdano a’i aml gymwynasau, ac yn cydymdeimlo’n fawr gydag Arwel, Meinir a’r teulu i gyd.
Comentarios