Cofio'n Cyfri.
Yn ddiweddar, yma, ym Mhorthmadog, bûm yn ymwneud â gweithgaredd i nodi canmlwyddiant marwolaeth Eifion Wyn. A hynny yn peri i mi holi am natur a gwerth cofio.
Cofio, yng nghyswllt Eifion Wyn, ganu’r emyn ‘Dod ar fy mhen dy sanctaidd law, O dyner Fab y Dyn’ pan oeddwn blentyn. Emyn braidd yn sentimental, efallai, er hynod gofiadwy. Llipa braidd, hefyd, o’i gymharu â gwytnwch emynau mawrion Pantycelyn ac Ann Griffiths. Oes a wnelo hynny â’r gwahaniaeth yn y profiad crefyddol rhyngddynt, efallai? Profiad Eifion Wyn yn deillio o grefydd ei gyfnod oedd yn ymylu ar sentiment, y ryddfrydiaeth a oedd wedi colli ryw ruddin mewnol, tra’r oedd profiad Williams ac Ann yn tarddu o ddaeargryn yn y galon.
Serch hynny, yr oedd yn dra gwerthfawr cofio Eifion Wyn a chanu eto ei emynau.
Perygl ein hoes ni yw difrïo cofio, ac yn enwedig yn grefyddol. Rydan ni’n chwilio am y newydd o hyd. A phan ddaw’r ‘newydd honedig’ hwnnw, fe sylweddolwn ei fod wedi digwydd o’r blaen, ac nad yw’n tynnu’r tyrfaoedd fel y disgwylid iddo’i wneud.
Felly dychwelwn at y cofio. Rhoi sail i rywbeth a wna cofio. Heb fedru cofio, y mae fy mywyd yn simsanu. Nid bod yn gaeth i’r gorffennol yw cofio. Y mae caethiwed i’r gorffennol yn ddifӓol. Dyma un o nodweddion ffasgiaeth gyda llaw. Ond gweld, yn y cofio, y pethau a’r bobl sydd wedi f’arwain at yr hyn yr wyf heddiw. A bod y bobl a’r pethau yna o hyd ynof, mewn ffurf gwahanol. Yn yr ystyr yna, nid oes dim yn marw ond yn hytrach yn newid lle a siâp. Beth bynnag a ddaw i’n rhan yn grefyddol, a hynny ar drothwy ugain mlynedd o C21, rhaid i unrhyw ‘newydd’ gynnwys cofio iach: diwinyddion y gorffennol yn cyd-fyw â syniadau cyfoes; adeiladau crefyddol gynt yn cydfynd hefo unrhyw leoliadau newydd; iaith grefyddol nad yw wedi dyddio o gwbl yn bodoli hefo esboniadau heddiw ohoni.
Beth bynnag fydd yr emynau cyfoes, yno hefyd bydd ‘Dod ar fy mhen dy sanctaidd law…’
Carys Lake

Comments