Gyda llofruddio’r unarddeg yng ngwersyll ffoaduriaid Jenin ar Ionawr 26ain a’r diwrnod canlynol – Dydd Cofio’r Holocost – llofruddio saith tu allan i synagog yn Jerwslaem, cawsom ein hatgoffa eto fyth am wleidyddiaeth ‘llygaid am lygaid’ rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid.Gwaethygu mae’r sefyllfa. Pwy na fyddai am fod yn rhan o alar byd eang o gofio llofruddio chwe miliwn o Iddewon ( ac eraill ) ar ddaear Ewrop Gristnogol ? Mae gwefan y Cofio (www.hmd.org.uk) , y wybodaeth a’r deunydd , yn un arbennig iawn. Hil-laddiad yw’r gair arall am holocost.
Mae’r wefan yn rhoi sylw hefyd i eraill wynebodd hil laddiad ac yn dal i wneud hynny heddiw – ac os nad hil-laddiad yna yr hil-chwalfa sy’n arwain i hil-laddiad. Bellach mae Cyngrair Rhyngwladol o 31 o wledydd ( e.e. Rwanda,Bosnia a Darfur ) yn rhan o‘r Cofio ar Ionawr 27. Mae’r Rohingya yn Myanmar ( miloedd wedi eu lladd a 700,000 wedi dianc i wersylloedd ffoaduriaid ym Mangladesh) a’r Uyghur yn China yn mynd drwy’r un profiad heddiw.
Tristwch y Cofio yw nad yw’n cynnwys y Palestiniaid. Mae’n hawdd deall hynny, oherwydd i wladwriaeth Israel, gelynion yw’r Palestiniaid ac iddynt hwy mae ‘gwrth-semitiaeth’ yn cynnwys pwy bynnag sy’n bygwth diogelwch Israel . Ac i Israel mae hynny’n golygu y Palestiniaid.
Wedi Datganiad annoeth ond dealladwy Balfour 1917 yn galw am wlad ddiogel i’r Iddewon yn Israel , bu blynyddoedd o wrthdaro yn arwain i gynllun y Cenhedloedd Unedig i rannu’r wlad rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid , cynllun â arweiniodd yn 1948 i 750,000 o Balestiniaiad ddod yn ffoaduriaid tros nos wrth iddynt gael eu symud trwy drais pan ddinistriwyd 400 o’u pentrefi. Mae’r enw Deir Yassin yn dwyn atgofion o’r gyflafan . ‘Nakba’yw gair y Palestiniaid am y gyflafan – trychineb.
Ers hynny cenedl o ffoaduriaid yw’r Palestiniaid yn hiraethu am gael dychwelyd adra. Yn Rhagfyr 1948 cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig ddatganiad ‘fod gan ffoaduriad sydd am ddychwel yn ôl i’w cynefin yr hawl i wneud hynny’. Er i’r C.U. gyhoeddi cynllun yn rhannu y wlad rhwng yr Iddewon a’r Palestiniaid, anwybyddu hynny wnaeth Israel a daeth meddiannu tir y Palestiniaid yn rhan allweddol o bolisi’r wlad.
Mae’r Palestiniaid yn genedl o 6.6 miliwn o ffoaduriaid gyda 4.6 miliwn ohonynt yn byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Gasa, yr Iorddonen ,Libanus a Syria ac mae tua 60,000 o Balestiniaid wedi eu symud o’u cartrefi ar y Llain Orllewinol wrth i Israel feddiannu mwy a mwy o’u tai a’u tiroedd i fod yn gartref i genhedlaeth newydd o Israeliaid. Nid oes yr un genedl arall yn y byd wedi bod yn ffoaduriaid am gyfnod mor faith â’r Palestiniaid. Rhwng 1948-2021 lladdwyd 31,000 ohonynt yn yr ymdrech i ddychwelyd a dinistrwyd miloedd o gartrefi. Lladdwyd 231 a 50 o blant yn 2022.
Yn eu tlodi affwysol a’r cyfyngu llwyr ar eu bywydau does ryfedd bod Palestiniaid yn magu a meithrin terfysgwyr/gwrthryfelwyr di-gyfaddawd sydd yn ceisio’n ofer i wrthsefyll grym militaraidd a chyfoeth mawr Israel. Ond y Palestiniaid cyffredin sy’n dioddef fwyaf. Mae’r gobaith i’r Israeliaid a’r Palestiniaid fyw ochr yn ochr, yn gymdogion yn yr un wlad, mor anhebygol ag erioed. Dyna ddagrau y Tir Sanctaidd,neu yng ngeiriau Pantycelyn, Tir Emaniwel. Ac nid ydym wedi sôn am y Cristnogion yn yr argyfwng hwn.
Cofiwch y Palestiniaid a’r Israeliaid.... yn 2023.
Comments