top of page

Cofio


Roedd un o sylwadau António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ddydd Llun diwethaf yn hynod o berthnasol i’r modd y dethlir Sul y Cofio, neu’r ‘Rememberence Weekend’ fel y disgrifiwyd ef ar newyddion y cyfryngau gydol yr wythnos diwethaf. Digwyddiad ‘sanctaidd’ yn ôl aelodau o’r llywodraeth.


Dyfynnodd Guterres wraig o Israel oedd wedi colli mab yn y drychineb ar Hydref 7fed: “Pan fyddwch yn cyfyngu’ch dicter i gydymdeimlo â phlant un ochr yn unig yn y gyflafan, yna mae’ch cwmpawd moesol wedi ei dorri a’ch dyngarwch wedi peidio”.


Onid cydymdeimlo â’n hochor ‘ni’ yn unig a wneir ar Sul y Cofio, gyda’r pabi coch yn cael y sylw i gyd? A’r pabi gwyn yn cael ei alltudio’n llwyr?


Pwrpas y pabi coch, yn ôl y Lleng Brydeinig, yw ‘cofio gyda balchder am aelodau ein lluoedd arfog a laddwyd yn yr holl ryfeloedd a ymladdwyd gan y wladwriaeth hon’. Golyga hynny eu bod yn cofio gyda balchder gyfraniad yr imperialwyr a ddinistriodd genhedloedd eraill, cofio gyda balchder cyfraniad pobl i ryfeloedd anghyfreithlon, ac yn y blaen.


Cadarnheir y math hwn o gofio gan gais y llywodraeth a’r heddlu i drefnwyr y protestiadau i beidio a’u cynnal y penwythnos hwn. Sylfaen eu cais yw bod Tachwedd 11eg yn ddiwrnod pan fo’r genedl (sic) yn cofio’u colledion eu hunain, mae’n ddiwrnod sanctaidd! Cofio am un ochr yn unig.


Y diffyg uniaethu hwn â cholledion cenhedloedd eraill, yn enwedig y gelynion, sy’n gyfrifol am dwf aruthrol mewn gwrth-Semitiaeth ac Islamophobia dros yr wythnosau diwethaf. Nid yw cefnogwyr mwyaf brwd Israel yn gallu cydymdeimlo gyda dioddefwyr Palesteina ac nid yw cefnogwyr Palesteina’n gallu cydymdeimlo gyda’r Israeliaid sy’n dioddef. Cofio am un ochr yn unig.


Ac mae’r Lleng Brydeinig a’i babi coch yn gofyn i ni roi blaenoriaeth i’r rhai a ddioddefodd ar un ochr yn unig. Rydym ninnau’n cyfrannu at hybu’r meddylfryd hwnnw drwy ein tawedogrwydd. Fel disgyblion i Iesu o Nasareth mae’n holl-bwysig inni ei gymryd Ef o ddifrif gan gyhoeddi’r gwirionedd sylfaenol:


BU IESU FARW ER MWYN ACHUB Y BYD.

BU IESU FARW DROS BAWB YN DDI-WAHÂN.


Cyfodwyd Iesu fore’r trydydd dydd i gyhoeddi taw y Creawdwr yw tarddle’r gwirionedd hwnnw ac mai ei ffordd Ef o weithredu yw ffordd tangnefedd Iesu o Nasareth.


Golyga hynny bod yr un gwerth i’r Israeliad a’r Palestiniad yng ngolwg Duw. Felly hefyd Wcrainiad a Rwsiad – a phob cenedl arall. Nid oes ffafriaeth.


Ymateb Pedr, wrth iddo ddod i sylweddoliad tebyg i hyn (dan amgylchiadau pur wahanol) pan oedd ar aelwyd Cornelius y milwr Rhufeinig, gelyn-ddyn yr Iddewon, symbol o ormes ac anghyfiawnder, oedd: “Ar fy ngwir, rwy’n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth, ond bod y sawl ym mhob cenedl sy’n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef. Y gair hwn a anfonodd i blant Israel, gan gyhoeddi Efengyl tangnefedd drwy Iesu Grist; ef yw Arglwydd pawb.”


Yn yr ysbryd hwnnw y dylem ‘gofio’. Ac os gwisgo pabi, dylem wisgo pabi sy’n dangos cydymdeimlad gyda’r sawl ym mhob cenedl sydd wedi dioddef, ac sy’n dal i ddioddef, ac wylo gyda Iesu am nad ydym yn adnabod Ffordd Tangnefedd.



Guto Prys ap Gwynfor

bottom of page