top of page

Codi Twrw

Mae’n ddyddiau swnllyd. Byth ers i Rishi Sunak gyhoeddi etholiad cyffredinol i Senedd San Steffan ni fu taw ar y twrw. Mae pob cyfrwng cyhoeddus yn llawn o’r drafodaeth etholiadol – teledu, radio, gwefannau, podlediadau, papurau, cylchgronau a holl blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol cyfoes. Does dim dianc rhag dadwrdd y gwleidyddion a’r newyddiadurwyr, y sylwebwyr a’r panelwyr. Efallai eich bod chi bellach wedi cael llond bol ac wedi troi clust fyddar i’r holl ddadlau a ffraeo. Oes angen chwe wythnos i gynnal etholiad?

 

Mae’n anodd i ddim na neb arall gael eu clywed uwch sŵn y drin ar hyn o bryd – waeth beth yw eu cri. Felly fu hi yn hanes yr orymdaith Adferer Natur Nawr (Restore Nature Now) pa ddiwrnod. Gorymdeithiodd dros 60,000 o bobl yn cynrychioli 350 o fudiadau cadwraethol drwy Lundain ar 22 Mehefin i dynnu sylw at yr argyfwng sy’n wynebu byd natur. Prin codi i’r wyneb wnaeth y stori honno. Ar lefel Gymreig wedyn ni fu fawr sôn chwaith am y miloedd a orymdeithiodd drwy Gaerfyrddin yn enw Yes Cymru ar yr un prynhawn. Cafwyd ychydig mwy o sylw i weithred feiddgar aelodau Just Stop Oil yn gwasgaru powdwr oren yng Nghôr y Cewri tridiau ynghynt. Mae beiddgarwch yn ‘torri trwyddo’, i ddefnyddio’r ffras newyddiadurol gyfredol.

 

Yng nghanol maniffestos, pamffledi a sloganau’r pleidiau gwleidyddol mae rhai o fewn y gymdeithas sifil yn ceisio cael at wraidd a sylwedd y polisïau amrywiol ac yn rhoi cynnig ar bwyso a mesur priodoleddau ymgeiswyr lleol trwy gyfarfodydd etholiadol - hustings. Yma yng Ngheredigion cynhelir y rhain gan amlaf gan undebau’r ffermwyr, grwpiau pwyso amrywiol ac undebau’r myfyrwyr.

 

Fodd bynnag, braf hefyd oedd sylwi i Eglwys Sant Mihangel, Aberystwyth, gynnal cyfarfod etholiadol ar 27 Mehefin. Dwi’n dweud ‘braf’ am mai tawedog iawn fu’r holl enwadau yn yr ymgyrch etholiadol hon. Hyd y gwn i, does dim siw na miw wedi ei godi gan unrhyw un o’r enwadau ynghylch y materion a ddylai fod yn ffocws i’n darpar wneuthurwyr polisi. Nawr, efallai mai methu cael eu clywed uwch y dadwrdd maen nhw, fel nifer o gyrff sifil eraill. Ond mae’r tawelwch yn drawiadol.

 

Mae rhywun yn deall, wrth gwrs, na all unrhyw enwad neu eglwys ochri gyda phlaid wleidyddol benodol. Ond tra’r ydyn ni, pobl y gwledydd hyn, yn trafod i ba gyfeiriadau polisi y dylai’r wladwriaeth anelu am y cyfnod nesaf, onid oes gan ein henwadau a’n heglwysi ddyletswydd i amlygu rhai blaenoriaethau? Onid oes gan yr Eglwys rhywbeth i’w ddweud ynghylch stiwardiaeth amgylcheddol, tlodi plant, costau byw a banciau bwyd, iechyd a lles, delio â ffoaduriaid, cymorth i wledydd tramor a llu o faterion eraill? Pwy sy’n amlygu gwerthoedd craidd yr Efengyl – tosturi a thrugaredd, cydraddoldeb a chyfiawnder, heddwch a thangnefedd – yn yr ymgyrch hon? Ble mae’n maniffestos ni fel enwadau ac eglwysi? Ble mae maniffesto C21?

  

Tra bod y pleidiau gwleidyddol yn ceisio troi’r Deyrnas Gyfunol yn goch neu’n las, yn felen neu’n werdd – neu’n ceisio sefyll cornel cenhedloedd penodol – oni ddylai Eglwys Crist fod yn hyglyw uwch y dwndwr? Oni ddylai’r Eglwys gael ei chlywed yn glir yn cyhoeddi’r hyn a adnabu Waldo fel ‘Teyrnas gref, a’i rhaith yw cydymdeimlad maith’?

 

Mae’n rhy hwyr ar gyfer yr etholiad hwn mae’n siŵr. Ond pan ddaw’r etholiad nesaf beth am i ni godi ychydig o dwrw yn enw Crist a chariad adfywiol Duw.

 

 

Gareth Ioan

30 Mehefin 2024

 

Comentarios


bottom of page