top of page

Clywed, Gwrando, Cofio, Meddwl a Siarad

Dwi’n gwisgo pabi gwyn yn yr wythnosau yn arwain lan at Sul y Cofio. Byddai’n meddwl yn aml am beth ryn ni’n ei gofio go iawn. Erbyn hyn does 'na ddim llawer o bobl yn cofio teulu agos a laddwyd yn y ddau ryfel byd. Ydan ni’n cofio am y cannoedd sydd wedi eu lladd, eu hanafu yn gorfforol a meddyliol yn y myrdd o ryfeloedd ers hynny? Dyw’r rhyfeloedd diweddar ddim wedi amharu ar ein bywydau cyfforddus ni, neu o leiaf ddim ar fy mywyd braf i, i’r un graddau. Ynghanol yr holl orchest, ydan ni’n dysgu o’r holl gofio gwag blynyddol yma?


Ges i fy ngeni flynyddoedd ar ôl diwedd yr ail ryfel byd a be darfodd ar fy mywyd braf, saff, i ym Mhen Llŷn oedd y Cuban Missile Crisis yn 1962 a finnau’n 12 oed. Ro’n i wedi dychryn ac wedi sylweddoli fel plentyn mai nid fy rhieni oedd â rheolaeth dros fy nyfodol. Ymateb fy nhad oedd dweud y byddai fy nghenhedlaeth i lawer yn gallach a dewrach na’i genhedlaeth ef ac y dylem wrthod mynd i ryfel. Flynyddoedd yn ddiweddarach ymateb fy nhad yng nghyfraith, ar Sul y cofio, oedd peidio â chofio ei gyfnod fel ‘dessert rat’. Yr erchyllterau a’r colledion roedd e wedi bod yn rhan ohonynt.

Wrth wisgo pabi gwyn mae hi mor anodd cyfleu yn llafar ac yn gyhoeddus y parch at y rhai diniwed a gollwyd, a thrallod y teuluoedd. Pabi gwyn i gofio pob dioddefwr rhyfel; pabi gwyn i herio militariaeth; pabi gwyn i adeiladu diwylliant o heddwch.

Does bosib mai dysgu a cheisio dod a phobl ynghyd ddylem ni wneud o’r holl gofio yma. Dysgu am ffolineb arweinyddion gwledydd. Sylweddoli mai ni, mewn gwladwriaethau democrataidd sy’n gyfrifol am roi pŵer i’n harweinyddion, mai ni sy’n fud wrth i’n cynrychiolwyr gwleidyddol ni a’n gweisg ni hau hadau casineb rhwng pobloedd a gwledydd.


Ces anrheg o lyfryn yn ddiweddar o’r Ganolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Those who listen change the world. Yn ganolog i’w neges gan gyn-enillwyr Gwobr Heddwch Nobel ydy deialog. Ar y wyneb sgwrs yw deialog, ffurf o gyfathrebu, ond mae gwir ddeialog yn arwain at rywbeth mwy na sgwrs. Mae’n fodd o wella cyfathrebu rhwng pobl, o ddatrys gwrthdaro ac i archwilio rhagfarnau dwfn. Gall arwain at ddatrys problemau ymhob cylch o fywyd.


Ar hyn o bryd dwi’n ymwneud a chynnal sesiynau addysg heddwch mewn ysgolion cynradd. Un o’r sesiynau ydy ystyried sut ryn ni’n cyfathrebu a chael y plant i sylweddoli'r ffordd orau o gyfathrebu. Mewn sefyllfaoedd anodd, gall y drefn o gyfathrebu arwain at gydweithio. Mae clywed yn arwain at wrando yn arwain at gofio yn arwain at feddwl yn arwain at siarad. Gall y rhai sy’n gwrando newid y byd.

bottom of page