top of page

Cloriau

Digwyddodd dau neu dri o bethau'r wythnos hon sydd wedi clymu yn ei gilydd yn fy mhen i.

 

Ddechrau’r wythnos bûm mewn hyfforddiant ynglŷn â chynhyrchu llyfrau. Dim i’w wneud â’u hysgrifennu nhw na’u golygu nhw ond yn hytrach eu cynhyrchu nhw. Y mathau gwahanol o bapur: lliw, trwch, maint, pwysau. Y rhwymiad. Y dyluniad. A sut oedd hyn oll yn dod at ei gilydd i greu llyfr oedd yn tynnu’r llygaid, yn denu cwsmeriaid ac a fyddai, yn y pen draw, yn ogystal â chynnwys da, yn rhoi profiad gwerth chweil i’r darllenydd.

 

‘Nid wrth ei big mae prynu cyffylog’, medden ni. ‘Nid wrth ei glawr mae barnu llyfr,’ medden hwythau. Ond er bod gwirionedd yn hynny ar y naill law, ar y llaw arall does dim yn bellach o’r gwir. Neu, o leiaf, gellir dweud mai wrth ei glawr mae prynu llyfr, beth bynnag fo’r farn amdano drannoeth.

 

Erfyn marchnata yw clawr llyfr. Abwyd i’r llygad. Neges wedi ei dylunio’n grefftus i ddweud mewn amrantiad, ‘mae hwn yn llyfr ditectif’, ‘mae hwn yn rhamant’, ‘mae hwn yn llyfr ffeithiol dibynadwy’. Os ydy’r awdur ‘wedi cyrraedd’ bydd yr enw’n fwy na theitl y llyfr. Byddwch yn gwybod cyn ei godi beth i’w ddisgwyl. O fachu yn yr abwyd a’i godi, bydd broliant da, mewn llai na hanner can gair, wedi dweud wrthych chi beth yw’r llyfr a’ch argyhoeddi ei fod yn werth pob ceiniog o bris y clawr. Ac i ffwrdd a chi at y til i dalu.

 

Erbyn diwedd yr wythnos cefais fy machau ar Madws, Sioned Wyn Roberts. Cyhoeddiad diweddaraf Gwasg y Bwthyn. Roeddwn wedi gweld llun ohono ar Facebook. Roedd yr abwyd eisoes wedi cydio. Roedd ei glawr trawiadol, ei ddarluniau cain a’r patrymau hyfryd ac ymylon allanol y llyfr wedi ei werthu: hook, line and sinker. O’n i’n methu aros i gael fy machau arno. Fe fydd yn addurn yn llyfrgell unrhyw un.

 

Rhwng y naill beth a’r llall fe fûm yn trafod ‘Y Dyfodol’ o ran gweinidogaeth leol gyda chriw o ffrindiau. Roedd hi’n drafodaeth ddiddorol, yn cytuno cant y cant ar bwysigrwydd y genhadaeth ond yn pendilio o ran y weledigaeth, yr awydd i warchod a’r awydd i fentro.

 

Mae’r cyfan yn gwlwm yn fy mhen.

 

Mae gormod o lyfrau da i’w cael nad oes digon yn gwybod amdanyn nhw am nad ydy’r clawr wedi ennyn diddordeb yn  lle cyntaf. Rydyn ni i gyd yn gwybod fod y stori sydd gennym ni i’w hadrodd gyda’r orau a’r bwysicaf sydd wedi ei hadrodd erioed. Ond sut ydyn ni’n cyflwyno’r stori honno? Rhwng cloriau ‘bible-black’, chwedl Dylan Thomas? Neu a yw’r cloriau’n abwyd sy’n tynnu llygaid newydd, llygaid nad ydy teitl moel ar glawr plaen yn golygu dim iddyn nhw, neu’n waeth byth yn adrodd neges wahanol iawn i’r un y gwyddon ni sydd rhwng y cloriau?

 

Ein cloriau ni yw’n muriau ni, ein gofodau ni, rhain sy’n tynnu’r llygad ac yn dweud ‘welwch chi ni’, ‘mae’n werth treulio amser yn fa’ma’, yn gwahodd i mewn. Yr abwyd sy’n bachu. (Ac os gaf i gymysgu delweddau, rhain yw'r llwyfannau i’r gweithredoedd yr adnabyddir ni wrthyn nhw.)

 

Roedd yna fenter a gweledigaeth y tu ôl i glawr a dyluniad Madws, dwi bellach hanner ffordd drwy’r stori a dydy honno ddim yn siomi chwaith!


Arwel 'Rocet' Jones


2/6/24

 

Comments


bottom of page