Chwifiwn ein baneri…?
- cristnogaeth21
- Sep 28
- 2 min read
Updated: Sep 30
Chi’n cofio canu’r emyn yna yn y cwrdd plant a’r Gymanfa slawer dydd? Un o’r ffefrynnau ynghyd â ‘Dring i fyny yma,’ ac ‘Mae popeth yn dda.’ Y ddau olaf, wrth gwrs, wedi cael bywyd newydd, diolch i’r diweddar Dewi Pws. Emynau hoffus, hwylus a chanadwy o gyfnod diniweidrwydd.
Doeddwn i ddim wedi meddwl amdano ers blynyddoedd, tan pnawn Sul dwethaf wrth deithio i gynnal oedfa. Roeddwn i yn Ne Ddwyrain Lloegr, o fewn talgylch yr M25, a dyma ddod ar eu traws nhw. Bron pob polyn lamp, ynghyd â chartrefi ar bob ochr o’r ffordd, yn arddangos baner Jac yr Undeb neu San Siôr. Rown i wedi darllen am y ffenomen hon yn y papurau ac wedi gweld lluniau ar y teledu, ond roedd gyrru trwyddynt yn brofiad arall! Na, doedd neb yno’n protestio, na’n ymddwyn yn fygythiol neu’n gweiddi sloganau, ond roedd presenoldeb y baneri yn ddigon i beri amesmwythyd. A bu’r profiad yn troi yn y meddwl am weddill y dydd.
Wedi cyrraedd adref y noson honno dyma afael mewn copi o Golwg oedd wrth ochr y gwely, a throi, fel fydda’i wastad yn ei wneud, at golofn Manon Steffan Ross. Yn rhyfedd iawn, ‘Baneri’ oedd ei thestun, ac yn ei ffordd unigryw ei hun dyma Manon yn llwyddo i fynd i galon y mater.
‘Beth oedd pwynt baner?’ yw’r cwestiwn mae hi’n ei adael gyda ni ar y diwedd.
Dyma gofio am brofiad arall gyda baneri tua deuddeg mlynedd yn ôl ar daith i Balestina. Treulio peth amser yn hen ddinas Jerwsalem, ac wrth gerdded trwy’r strydoedd cul yn yr ardal Foslemaidd/Arminaidd, sylwi ar sawl tŷ oedd yn chwifio baner Israel. Eglurwyd wrthym mai Iddewon oedd y perchnogion ond doedd neb yn byw yn y tai. Cyfle oeddent i wneud ‘datganiad’ am eu hawl hwy i’r ddinas! Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach ar y Lan Orllewinol roedd y ‘datganiadau’ yn bloeddio eu presenoldeb o’r trefedigaethau anghyfreithlon ar y bryniau, gyda baneri di-ri Israel, ‘yn chwifio yn yr awel iach’!
Onid dyna’r gwir am y baneri welais i brynhawn Sul neu’r rhai a welwyd yn y protestiadau diweddar? Gwladgarwch? Balchder cenedlaethol? Go brin! Datganiad ydynt o’n ‘hawl ni ar y wlad hon a does dim croeso i unrhyw estron yma!’
Bues i’n crafu mhen am sbel yn ceisio cofio gweddill yr emyn, oherwydd rown i’n siwr bod rhywbeth yno oedd yn berthnasol i’r mater yma. A chofiais y linell nesaf, ‘Pan fo sŵn anwiredd wedi llenwi’r tir, canwn uwch y llygredd…..’ Gallai fod wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer ein cyfnod ni. Y celwydd di-flewyn ar dafod a glywir yn gyson am fewnfudwyr a cheiswyr lloches gan wleidyddion a sylwebyddion, ac fel dwedodd Rowan Williams mewn erthygl yn ddiweddar, ‘Collective blame and indiscriminate violence are always the beginning of real moral corruption.’
Ie, ‘canwn uwch y llygredd.’ Codwn lais i herio’r celwydd gan sefyll gyda’r tlawd, y bregus, yr anghenus, y rhai sydd ar y cyrrion, y rhai sy’n cael eu hamau a’u gwrthod. A ‘chwifiwn ein baneri’, gan ddatgan a gweithredu’r cariad a’r tosturi, y croeso a’r derbyniad sydd gan Dduw i bawb, fel y dangoswyd yn Iesu.
Robin Samuel
28 Medi 2025

Comments