top of page
Search

Cerdded Stryd Gobaith

  • 10 hours ago
  • 3 min read

Tra’n sefyll yn ninas Lerpwl yn ddiweddar cefais gyfle i ymweld â Hope Street, ei cherdded a phrofi rhywbeth o’r egni bywiol, dirgel hwnnw a ddaw i’r pererin wrth gamu ar hyd llwybrau’r seintiau.

Nid syndod hynny, â chofio hanes y stryd nid anenwog hon, yn arbennig felly, ei chysylltiadau â rhai o ddigwyddiadau mwyaf cynhyrfus y ddinas yn chwarter ola’r ganrif ddiwethaf a’r modd y daeth yn llwybr cymod a heddwch i bobl ar chwal dan orthrwm  tlodi ac anghyfiawnder.

Go brin i’r masnachwr William Hope (1757-1827) a roes ei enw iddi, erioed ddychmygu pa mor arwyddocal fyddai’r enw stryd i genedlaethau diweddarach. Yn 2013 cafodd ei henwi gan The Academy of Urbanism yn stryd orau y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon a rhoddi iddi’r teitl, The Great Street. A mawr yw yn wir!

Go brin i neb ei cherdded yn drymach na’r ddau y gwelir cofeb hynod o hardd ac addas iddynt tua’i chanol, yng ngolwg y ddwy gadeirlan, sef yr Esgob David Sheppard a’r Archesgob Derek Worlock. Steps Along Hope Street, yw teitl cyfrol hunangofiannol Sheppard, camau a gymerodd ar y cyd â’i gyfaill Worlock, a chlywir tystiolaeth y ddau i’r cydweithio daionus fu rhyngddynt yn y cyfrolau a gyhoeddwyd ganddynt ar y cyd, Better Together – Christian Partnership in a Hurt City, a With Hope in our Hearts – God’s reconciling love in a ground breaking partnership. Teg nodi hefyd eu partneriaeth letach â gweinidogion ymneilltuol y ddinas a’u gwerthfawrogiad o’r cydweithio fu rhyngddynt.


I ddinas ddolurus y galwyd y ddau yng nghanol yr 1970au a gweld ohonynt bryd hynny gymunedau’n gwegian dan bwysau anghyfiawnder a thlodi enbyd, daear aeddfed i feithrin chwerwedd a thrais, yn enwedig o gofio’r teyrngarwch llwythol cadarn a fodolai yno. Ar ben hynny, roedd difaterwch yr awdurdodau lleol a’r llywodraeth, yn ddinesig a chenedlaethol, yn wyneb amgylchiadau byw truenus y dosbarth gweithiol, a gyfrannodd gymaint dros y blynyddoedd at ffyniant y ddinas, yn sarhad llwyr arnynt. Bu’r 1980au’n flynyddoedd anodd i’r ddinas a chollwyd dagrau lawer; Terfysg Toxteth 1981, Streic y Glowyr 1984, Trychinebau Stadiwm Heysel 1985 a Stadiwm Hillsborough 1989.


O gofio bod yna “geffylau i gyrsiau” does dim amheuaeth mai dyma’r arweinwyr oedd eu hangen ar Lerpwl eu dydd ac nid gormod dweud bod elfen ragluniaethol gref yn eu symudiad yno, yn gymaint â bo’r ddau yn ymgorffori’r neges a gyflwynwyd ganddynt.


Yn feddiannol ar ffydd bersonol ddofn a bywyd ysbrydol disgybledig a chadarn, gweledigaeth o ddyfodiad y Deyrnas yn Iesu oedd eu gyriant a’u  cynhaliaeth. Er eu magwraeth freiniol roedd ganddynt ers yn ifanc iawn gydwybod gymdeithasol effro iawn yn ogystal â’r dewrder i’w gosod ar waith. Diddorol nodi mai cefnder i Sheppard oedd sylfaenydd yr elusen Toc H ac i fam Worlock fod yn un o’r “suffragettes.”  


Eu cymwynas fwya’n sicr oedd eu llwyddiant digamsyniol i dystio’n rymus, yn eu bywyd personol a phroffesiynol, i’r cariad sy’n pontio’r pellter rhwng pobloedd a’i gilydd a’u galluogi i gyd-gerdded mewn cyfeillgarwch bywiol ar hyd y stryd a elwir Gobaith.


Trannoeth yr etholiad ac wrth ddisgwyl llywodraeth newydd i’n harwain, a hynny mewn cyfnod anodd a heriol, bygythiol a brawychus ar draws y wlad a’r byd, yn wir,  cofiwn, yng ngoleuni hanes dau o saint ein hoes ni, plant Duw – y tangnefeddwyr,  am ein galwad i gyhoeddi a byw Efengyl y Deyrnas.


Dyfrig Rees 10 Mai 2026

 
 
 

1 Comment


jonesth
an hour ago

Diolch i Dyfrig am y neges hwn - daeth nôl ag atgofion. Cefais y fraint fawr o gynrychioli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg mewn gwasanaeth arbennig yn Lerpwl adeg sefydlu Cyngor Eglwysi Prydain ac Iwerddon (CCBI) ar 8 Medi 1990. Cynhaliwyd rhan gyntaf y gwasanaeth yng Nghadeirlan yr Anglicaniaid cyn i'r gynnulleidfa gerdded Stryd Gobaith i'r Eglwys Gadeiriol Gatholig. Dau beth rwy'n cofio am yr bererindod honno: roeddwn i wedi cael fy rhoi i gerdded gyda John Bell o Gymuned Iona a rhywfodd John a finnau oedd ar y blaen yn cerdded tu nôl Archesgob Runcie a Cardinal Hume. Ar y daith ar hyd Stryd Gobaith roedd Ian Paisely a'i gefnogwyr o nifer o eglwysi uniongred Protestannaidd a'r grwpiau Oren …

Edited
Like
bottom of page