Fues i erioed yn ffan mawr o Gymanfa Ganu. Dyna fi wedi cyfaddef hynny.
Dw i wastad wedi gweld cymanfaoedd canu yn rhyw grair o oes a fu. Mae cysgod Fictorianaidd Ieuan Gwyllt ar y cyfan on’d o’s e? Bydd nifer yn rhannu fy atgofion am gymanfaoedd plentyndod a’r dilladau newydd a brynwyd ar gyfer yr achlysur. Oedd, mi roedd y Gymanfa yn ddiwrnod a gryn arwyddocâd yn y calendr blynyddol yn 60au a 70au y ganrif o’r blaen. Ond heddiw?!
Mae canu cynulleidfaol yn parhau’n boblogaidd, wrth gwrs. Dyna yw prif arlwy crefyddol ein sianeli teledu prif-ffrwd. DCDC a Songs of Praise yw bron yr unig raglenni crefyddol ar ein tonfeddi arferol. Os na chawn drafod a diwinydda’n gyhoeddus o leiaf fe gawn ni ganu cysurlon. A dyna chi’r Eisteddfod Genedlaethol wedyn lle mae’r Gymanfa yn dal ei thir yn syndod (hyd yma) wrth i’r ŵyl honno esblygu a thrawsnewid. Am ba hyd sgwn i?
Un agwedd ar fy niffyg sêl dros Gymanfa oedd fy anhawster i weld unrhyw ddefosiwn ystyrlon yn yr oedfaon. Mawl? Clod? Ie, siŵr. Ond doedd cymanfa byth yn cynnig defosiwn i mi. Perfformans oedd e – ar sawl cyfrif. Doedd e ddim yn twtsh â'r enaid. A pheidiwch dechrau sôn am gynnwys yr emynau! Pa werth sydd mewn morio canu diwinyddiaeth Galfinaidd oesau a fu, nad oes gan y mwyafrif o gantorion cymanfaoedd heddiw y gafael lleiaf ar y termau tywyll a odlir mewn mydr ynddynt?
Ond. Ie, ond. Dw i’n dechrau newid fy nghân. Dw i wedi symud chi’n gweld. Dw i wedi symud i ardal lle mae’r Gymanfa Ganu yn parhau i fod yn achlysur eglwysig a chymunedol o bwys. Mae ‘na gôr sylweddol o gantorion galluog a phrofiadol yn dod ynghyd ar ei gyfer. Ry’n ni wedi bod yn ymarfer nawr ers wythnosau. Mae’n flin ‘da fi – cynnal ‘rihyrsals’. (Mae’n rhaid parchu’r jargon). Ac o roi cyfeiriadaeth Galfinaidd (o bob gwedd) rhai o’r emynau o’r neilltu mae ‘na fendith rhyfeddol i’w gael yn yr ymarferion.
Mae’r cyfoeth yn y traddodiad – yn y modd mae cenedlaethau o deuluoedd yn y fro hon wedi cael eu trwytho i gydganu a chydsymud mewn cytgord a chynghanedd. Maen nhw’n sgilgar a chelfydd yn eu mynegiant cerddorol. Mae yna angerdd a balchder yn y perfformiad. Mae yno hwyl. Mae yno fawl. Mae yno Ysbryd. Ac mae’r canu – serch fy rhagfarnau – yn medru bod yn eneiniedig, yn medru bod yn sensitif o ddefosiynol.
Felly – i unrhyw un sy’n cynnal ‘rihyrsal’ yr hydref hwn dyma weddi fechan gan ffan newydd y gallwch ei defnyddio yn eich oedfa o ymarfer. Cenwch yn llafar i’r Arglwydd!
Gweddi ar gyfer Rihyrsal Gymanfa
Dduw cytgord a chynghanedd,
bydd gyda ni yn yr oedfa hon
wrth i ni ganu mawl i’th enw di.
Bydded i’n melodïau swynol gyfryngu ein clod i ti.
Bydded i’n cytganau fod yn salmau o ddiolchgarwch.
Boed i seiniau dwys y cyweiriau lleddf
ein cynorthwyo i nesáu at dy ddirgelwch di.
Er mai ymarfer yr ydym
ar gyfer ein Cymanfa Ganu ymhen ychydig o wythnosau,
Bydded i ni gofio dy fod ti gyda ni yn y paratoi a’r cymhwyso,
a’n bod ni’n cydweithio ac yn cydweithredu gyda’n gilydd yn y gwaith
dan arweiniad dy Ysbryd Glân.
Diolchwn am ddawn a thalent y cyfansoddwyr.
Diolch am awen a chrefft y beirdd a’r emynwyr.
Diolch am ddoniau’r rhai sy’n ein harwain a’n dysgu heno
ac am y sail gadarn a roddir i ni gan y cyfeilyddion.
Boed i ni gyflawni ein gwaith er clod a mawl i ti,
gan werthfawrogi’r cyfle i ganu yn llawen i ti,
Dduw pob creadigrwydd,
ac i’n Harglwydd,
Iesu o Nasareth.
Amen
Comentarios