“Does dim Duw yn yr awyr; mae Duw yng nghalonnau’r rhai sy’n caru glesni’r awyr.”
“Mae’r byd yn rhy fach i ddim ond brawdoliaeth.”
Dyna gonglfeini cred Cymro oedd, dri chwarter canrif yn ôl, yn cael ei ystyried yn un o weinidogion mwya’ dylanwadol yr Unol Daleithiau; ffigwr amlyca’r Undodiaid yng ngogledd America ac un o bregethwyr mwya’ radical ei ddydd.
Ychydig iawn o Gymry, sy’n gwybod am A. Powell Davies, heb sôn am ei gofio, ond mae’r hyn oedd ganddo i’w ddweud am fyd yr ysbryd ac am berthnasau rhyngwladol yn arbennig o berthnasol heddiw.
Adeg Gŵyl Ddewi, mae’n werth nodi bod ei syniadau am wladgarwch yn debyg i eiddo Jacob Davies yn ei emynau mawr. Mae teimladau pawb at eu gwlad yn debyg i’n teimladau ni at Gymru a’r cariad at yr hyn sydd wrth ein traed ydi syflaen ein cariad at y ddynoliaeth a’r byd.
Bywgraffiad o Arthur Powell Davies sydd gen i acw a chasgliad o ddarnau o’i bregethau, ei erthyglau a’i lyfrau. Maen nhw’n creu darlun o ddyn llym ei feddwl; llym ei ddadansoddiad, llym ei resymeg a llym iawn tuag ato’i hun. Doedd dim lle iddo fo na neb arall guddio rhag craffter ei ymennydd.
Yn Birkenhead yr oedd wedi’i eni, yn 1902, a’i fagu, ond roedd ei dad a’i fam yn Gymry ac yntau’n ymwybodol iawn o hynny. Dylanwad mawr arno fo oedd teulu ei fam o ardal Bwcle yn Sir y Fflint – man gwyliau haf bob blwyddyn a chrochan o syniadau lle'r oedd dadlau mawr am grefydd a gwleidyddiaeth.
Fel ei dad, mi ddechreuodd yn Wesle a dod yn weinidog ar gapel yn Llundain ac wedyn yr Unol Daleithiau – hynny am ei fod yn chwilio am Fethodistiaeth fwy rhydd, ar ôl troi yn erbyn dogma a chredo yn ystod ei gyfnod yn hyfforddi yng Ngholeg Richmond, ac oherwydd y dynfa ryfeddol oedd ganddo at y syniad o ‘America’.
Mae’n anodd i ni heddiw ddeall ei gred ddisygog y byddai’r Unol Daleithiau’n arwain y ffordd i sefydlu democratiaeth ryddfrydol fyd-eang, gan orchfygu comiwnyddiaeth a phob unbennaeth ormesol arall ond, fel efo’i grefydd, mynd yn ôl at y seiliau yr oedd. America’r datganiad annibyniaeth – pob dyn yn gyfartal ac yn berchen ar hawliau disigl – oedd ei Unol Daleithiau o, yn union fel yr oedd ei grefydd yn codi o garu cymydog a’r Rheol Aur.
Oherwydd hynny, dw i’n sicr y byddai wedi gwaredu at America Trump. Mi fflangellodd ei gyd-Americaniaid yn 1945 am loddesta adeg Diolchgarwch tra oedd Ewrop yn llwgu. Mi ymladdodd yn erbyn apartheid yr Unol Daleithiau a thros achosion blaengar fel cynllunio teulu. Roedd ei bregeth ola’, yn 1957, am helynt Little Rock.
Roedd Undodiaeth yn arfer diffinio ei hun yn erbyn yr eglwysi traddodiadol. Tra gwnaeth Powell Davies hynny, roedd o hefyd yn dangos pam fod ei fath o grefydd ysbrydol yn cynnig ffordd ymlaen i fyd na fedrai gredu rhai o’r hen athrawiaethau.
Nid opsiwn hawdd ydi rhyddid meddwl, ond gorfodaeth ysbrydol a moesol i weithredu.
Dylan Iorwerth
2 Mawrth 2025
Comentários