Carwch eich gelynion
- Apr 12
- 2 min read
O dro i dro byddaf yn cael fy nghyfareddu gan ddarn o ryddiaith neu farddoniaeth, a'r gyfaredd yn peri imi ddiolch i Dduw fod y geiriau wedi gafael ynof. Mae'r profiad weithiau fel golchiad o buredigaeth, a bydd fy enaid yn lanach o'i blegid. Profiadau gwahanol iawn i hynny a gefais rai wythnosau yn ôl wrth wrando ar lefarwyr amlwg yr Unol Daleithiau yn sôn am y rhyfeloedd yn y Dwyrain Canol.
Un o'r mwyaf caboledig ei datganiadau yw Karoline Leavitt, llefarydd y Tŷ Gwyn. Lle byddai honno fel arfer yn ofalus ei sylwadau, fe welwyd hithau yn llithro. Wedi rhyw druth am ddegawdau o ddioddef ymosodiadau beirniadol Iran ar Trump, pa ryfedd, meddai hi, eu bod hwythau yn Iran bellach yn cael talu am y beirniadu, a thalu â gwaed. Roedd clywed rhywun yn cyfiawnhau lladd miloedd mewn ffordd mor gignoeth yn peri arswyd i mi.
Yr un arswyd a deimlais ar yr ail o Fawrth pan glywais Pete Hegseth, Ysgrifennydd Rhyfel yr Unol Daleithiau, yn datgan: "Ni fwriadwyd erioed i hwn fod yn rhyfel teg. Yr ydym yn eu bwrw hwy tra maent ar lawr. A dyna yn union fel y dylai hi fod." Ymhen rhai dyddiau yr oedd wrthi eto yn yr un cywair ymffrostgar. "Mae America yn ennill" meddai," ac yn fuan iawn fe fyddant oll yn gwybod hynny. Y mae storfeydd ein harfau yn llawn; y mae ein penderfyniad fel y dur. Felly mae llif amser yn eiddo i ni, a ni yn unig all ei reoli."
Geiriau tebyg a glywyd gan yr Arlywydd ei hun. Ddechrau mis Mawrth, cyhoeddai fod buddugoliaeth America yn anochel gan orchymyn i fyddin a heddlu Iran ildio eu harfau a'u hawdurdod yn ddiymdroi.
Roedd clywed yr holl agweddau hunangyfiawn a gwaedlyd a chreulon hyn, yn gymysg â'r newyddion o ddydd i ddydd, yn codi cyfog arnaf ac yn fy arswydo. A'r cwestiwn i mi mewn argyfwng fel hwn oedd, at bwy y medraf droi am ymwared? Mae'n siwr y medrwch chi ateb y cwestiwn drosoch chi eich hun. Fy ateb i oedd troi i'r Bregeth ar y mynydd. Yn y fan honno yn y Beibl fe welir y geiriau "Carwch eich gelynion," a " Gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt." Fe welwn ar unwaith ein bod mewn byd gwahanol hollol. Byd sydd wedi troi cefn ar gasineb, wedi troi cefn ar ddialedd, troi cefn ar drais. Fan hyn fe welwn y drws yn agor ac yn ein gwahodd i fyd goleuni a chariad. Ydych chi am ei mentro hi?
Clywaf rai yn ateb: "Dywedwch hynny wrth Putin, dwedwch yr adnod hon wrth arweinwyr China, dywedwch hyn wrth Donald Trump. Fe fyddent i gyd yn chwerthin yn eich wyneb, ac yn dweud, 'Paid â bod yn blentynnaidd. Ni sy'n gwybod pa fodd mae'r byd yn byw ac yn meddwl.'"
Ond y gwir am arweinwyr mawr y byd yw nad ydynt wedi rhoi cynnig ar ffordd Iesu. Ac mae Iesu heddiw yn disgwyl i weld pwy sy'n mynd i roi cynnig arni, ac agor drws ar fyd newydd yn llawn heddwch a chariad.
John Gwilym Jones 12 Ebrill 2026

Comments