top of page
Search

Carolau Heddwch

  • Dec 14, 2025
  • 2 min read

Daeth tua phump ar hugain o bobl ynghyd o flaen giatiau RAF Fali pnawn dydd Mercher diwethaf i ganu carolau ac i herio’r ffaith bod gan gwmni arfau mwyaf Israel, sef Elbit Systems, ganolfan yno.

 

Hefyd, gwrthwynebwyd fod gan yr RAF rôl flaenllaw yn cefnogi’r hil-laddiad sy’n parhau i ddigwydd ar Lain Gasa ac ar y Lan Orllewinol. Roedd y brotest wedi cael ei threfnu yn dilyn rhai digwyddiadau diweddar pan fu'r heddlu’n aflonyddu arnom wrth i ni ymarfer ein hawl i sefyll a chodi llais dros heddwch.

 

Digwydd bod, chawsom ni ddim gwrthwynebiad gan yr heddlu yn y Fali. (Roeddent wedi dod i sicrhau na fyddai unrhyw wrth-brotest yn tarfu arnom, meddan nhw). Yr unig wrth-brotest gawsom ni oedd pedair o awyrennau’r RAF yn gwneud cymaint o sŵn ag oedd yn bosib iddyn nhw ei wneud, a hynny ar yr union adeg yr oeddem wedi cytuno i ddechrau canu, gan godi a glanio a chylchu uwch ein pennau gydol yr amser y buom yno. Wnaeth yr heddlu ddim ymyrryd i’w atal nhw, wrth gwrs!

 

Nid canu geiriau traddodiadol y carolau wnaethom ni chwaith. Mae cynifer ohonom yn ei chael hi’n anodd canu am dawelwch a sancteiddrwydd glân y preseb a ninnau’n cofio i Iesu gael ei eni ym myd Herod. Diolch i Gôr Gobaith, Aberystwyth, am gael geiriau amgen i’w defnyddio. Efallai y byddwch chithau’n falch o’u derbyn a’u defnyddio hefyd.

 

I Orwedd mewn Pabell

 

I orwedd mewn pabell mewn peryg dirfawr

gan fomiau llu Israel yn syrthio i’r llawr,

rhieni a’u baban yn ofni y bedd

a’r byd mewn tawelwch yn cysgu mewn hedd.

 

Dim stop ar y lladd ers y cadoediad chwaith

dros bum cant ‘di marw ers hynny, mae’n ffaith.

Y milwyr yn saethu, a’r llwgu o hyd,

arweinwyr byd grymus yn gwylio yn fud.

 

Mae milwyr cas Herod yn brwydro o hyd

gan ’nafu plant bychain, diniwed i gyd.

Rhaid sefyll gyda’n gilydd, a gweiddi fel un,

‘Cadoediad a heddwch i holl deulu dyn’.

 

O Deued Cyfiawnder

 

O deuwch ffyddloniaid, pawb a gâr gyfiawnder,

O sylwch, O sylwch ar Balesteina.

Gwelwch y wlad a'i phlant sydd dan feddiannaeth.

O dewch nac anwybyddwn, O dewch nac anwybyddwn,

O dewch nac anwybyddwn, cyhoeddwn i'r byd.

 

Canwn, genhedloedd, canwn mewn digofaint;

Cefnogwn ni holl bobl Palesteina.

Canwn, 'Cyfiawnder, rhyddid rhag gorthrymder'.

O dewch nac anwybyddwn, O dewch nac anwybyddwn,

O dewch nac anwybyddwn, cyhoeddwn i'r byd.

 

Mae criw’r wylnos yng Nghaernarfon wedi gosod preseb o flaen Capel y Maes eto eleni. Nid baban yn y rwbel fel gwnaethom ni'r llynedd a’r flwyddyn cynt – ond pabell seml a geiriau amgen ‘I orwedd mewn preseb’ o’i flaen. Dyma rywbeth arall y gallech ei efelychu hefyd efallai.

 

Tra mae ‘Tommy Robinson’ yn ceisio hawlio’r Nadolig i’r asgell dde eithafol, mae angen i ni wneud popeth fedrwn ni i rymuso’r neges o heddwch, gobaith a llawenydd y Nadolig hwn. Mae Duw, Emaniwel, yn dod i ganol llanast llwyr ein byd – hyd yn oed heddiw!


Anna Jane Evans

14 Rhagfyr 2025

 
 
 

Comments


bottom of page