Capeli ar werth!

Beth sy’n gyffredin rhwng un o storïau cyfredol Pobl y Cwm a phentref Hermon, Sir Benfro? Yr ateb syml yw: capeli ar werth. Mae Megan yn fawr ei gofid oherwydd y si fod Seilo, Cwrtmynach, yn cael ei droi’n fflatiau moethus a’r fynwent yn faes parcio ar gyfer trigolion y fflatiau hynny. Ei phrif ofid yw y gallai’r un peth ddigwydd i gapel Bethania.


Roedd y sefyllfa hon yn gyffredin cyn y pandemig ond ers hynny mae’n ymddangos fod cau capeli yn digwydd yn fwy cyson, e.e. sylwadau yn y grŵp ‘Y Capel’ ar Facebook. Nid yw gofid Megan yn anghyffredin ac onid y gwir yw fod llawer gormod o gapeli ac eglwysi ar hyn o bryd. Mae’r niferoedd sy’n addoli yn y Gymraeg yn lleihau ac mae capeli yn wynebu costau sylweddol a chynyddol. Hwyrach ein bod yn medi'r hyn heuwyd yn nyddiau’r cystadlu ynghylch pwy oedd â’r capel mwyaf a’r organ orau!


Mewn ambell i dref mae mwy nac un capel yn yr un stryd a’u cyflwr strwythurol yn amrywio. A allwn mewn gwirionedd gyfiawnhau gwario degau o filoedd o bunnau’n adnewyddu adeilad neu ei ‘batcho’ pan gallai dau gapel ymneilltuol ymuno neu rannu adeilad? Bron na ddwedwn ei fod yn anfoesol ac yn groes i’r efengyl i ystyried y fath wariant yn y dyddiau sydd ohoni. Ar y llaw arall, nid yw rhannu adeilad neu uno’n sicrhau ffyniant nac eglwys fyw – ond fe fyddai mwy o aelodau yno i ysgwyddo’r cyfrifoldebau.


Buddiol ystyried ymateb treiddgar yr Arglwydd Iesu wrth y wraig o Samaria wrth iddi godi’r sgwarnog o ble dylid addoli. Nid y lle sy’n bwysig ond yr ysbryd (Ioan 4:21-24). Dyna wyddai ein cyndadau ymneilltuol wrth iddynt addoli mewn ogofau, ysguboriau a thai tafarn. Yn y pendraw, er bod cael adeilad wedi ei gysegru yn hyfryd, nid yw’n rheidrwydd. Cofied mai mewn goruwch ystafell y dathlwyd y cymun cyntaf!


Cofied hefyd, bod yr academïau ymneilltuol i oedolion yng Nghymru’n bodoli dwy ganrif cyn ein colegau sefydliadol cyfoes, e.e. Academi Brynllywarch, Llangynwyd ac un Ystrad Wallter yn Llanymddyfri. Nid mewn adeiladau moethus y lleolwyd y rhain ond, yn aml, ar ffermydd. Roedd yr addysg gafodd Williams Pantycelyn yn academi Llwyn-llwyd yn un eang fel mae ei esboniad byw o’r aurora yn dangos.


‘Fe’m gwahoddwyd allan o’m tŷ gyda brys a dychryn ; yr oedd... yr holl wybren yn dawnsio, ac yn chwareu trwy ei gilydd ... Rhai a geisiasant ddywedyd mae’r gelfyddyd newydd o electricty sydd yn dehongli’r peth oreu ...’


Diolch am weledigaeth arweinwyr y fenter o droi Capel Brynmyrnach yn adnodd cymunedol a dwy fflat ar gyfer pobl leol ym mhentref Hermon. Dyma ddefnydd goleuedig o’n capeli diangen a byddai’n braf gweld hyn yn digwydd yn amlach ar draws Cymru.


Wrth gwrs, yr eglwys leol yw ffocws yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr a’r gynulleidfa sy’n gallu penderfynu sut i werthu’r capel a beth dylid ei wneud efo’r arian. Braf darllen am Fedyddwyr Llanrug yn rhoi’r arian mewn cronfa i gynnal gweithiwr plant ac ieuenctid yn yr ardal, gan arwain at ail fuddsoddi yn y gymuned. Mae’r Eglwys Bresbyteraidd yn fwy cymhleth o ran rheoli eiddo ond trwy’r gyfundrefn honno byddai modd ystyried cydweithio â chymdeithas tai ar lefel genedlaethol i sicrhau fflatiau i bobl leol ar raddfa eang.


Er bod yr hyn sy’n digwydd i’n capeli yn dristwch rhaid i ni beidio â chysylltu addoli ag adeiladau’n ormodol. Enghraifft lwyddiannus o hyn yw Eglwys Ebeneser, Caerdydd, a werthodd ei chapel yng nghanol y ddinas, gan ddewis peidio prynu adeilad arall. Yn hytrach maen nhw’n llogi adeiladau’n wythnosol. Trwy hynny maent wedi rhyddhau’r eglwys i ganolbwyntio ar ei chenhadaeth, yn hytrach na chael ei llethu gan ofalon adeiladau.


Byddai’n dda casglu enghreifftiau eraill o arfer da. Beth amdani C21?