top of page
Search

Canu yn yr Ysbryd

  • cristnogaeth21
  • Sep 14
  • 3 min read

Updated: Sep 30

Ennyd

“ Ysbaid fer (ond weithiau gryn ysbaid) o amser, talm o amser, adeg hwylus (i gyflawni rhywbeth), cyfle.” Geiriadur Prifysgol Cymru

Gall ennyd fod yn fyr, mor fyr fel bod modd iddo basio heibio heb inni sylweddoli. Weithiau mae’n ddrws yn agor, rhodd annisgwyl, profiad i’w drysori. Ar adeg arall ymddengys wrth inni brofi gweithred fechan gan arall - gair caredig, gwên, neu neges destun sy’n codi calon. Ac fe all yr ennyd fach honno fod yn agoriad llygad neu’n gymhelliad inni fod yn bobl gwell. Yn aml, fe ddywed rhywbeth pwysig am ein sefyllfa, am ein perthynas ag eraill, am ein ffydd, ac am Dduw. Mewn gair, gall ein hysbrydoli.

 

Yr Ysbryd Beth sydd â wnelo’r Ysbryd Glân â hyn? Sut allwn wybod mai’r Ysbryd yn wir yw’r grym sy’n creu’r ennyd-foment? Ac oes modd inni fod yn ddall i’r Ysbryd? Dyma rai o’r ymholiadau oedd yn codi yn fy meddwl wrth baratoi am sesiwn Cristnogaeth 21 Canu yn yr Ysbryd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng nghwmni Lleuwen Steffan a Dafydd Iwan. Cawsom sgwrs ddifyr i rag-gynllunio cyn fis Awst, ond eto roedd y tri ohonom o’r unfarn y dylem roi cyfle i’r Ysbryd ein cynnal. Ac felly y bu mi gredaf. Calonogol oedd gweld bod cynulleidfa dda wedi teimlo’r awydd i ddod i’r Stiwdio ar y maes i gefnogi’r math yma o sesiwn.


Grym y Gân

Mae Dafydd a Lleuwen yn gyfansoddwyr, yn ogystal ag yn gantorion, sydd wedi cyfansoddi caneuon ‘ysbrydol’ arbennig. Cytunwyd pa mor hanfodol yw mynd dan groen cân wrth berfformio, a hynny wedyn yn gallu creu ymdeimlad o’r Ysbryd yn y gwrandäwr. Mae’r ffydd Gristnogol yn rhywbeth byw a chanu yn arf cadarnhaol sy’n gallu symud pobl. Rhannodd Dafydd ei brofiad o fod mewn angladd yn ddiweddar a’i fod wedi’i synnu nad oedd neb yno’n canu, yn enwedig o gofio mai ‘Calon Lân’ oedd y gân. Beth ddywed hynny am ein cymdeithas, tybed?

 Un peth a ddaeth yn glir o’r trafod oedd ein bod yn gytûn nad grym i’w gau mewn bocs yw’r Ysbryd. Nid nyni, na neb arall, sy’n rheoli pryd y daw i’r fei ’chwaith! Fel y dywedodd Lleuwen, gall ddod ger ein bron mewn goslef llais hudolus, drwy ystum perfformiwr, neu wrth deimlo’r wefr tra’n cyd-ganu. Daw atom hefyd wrth brofi rhin y gân a deall ei neges o’r herwydd.

 

Geirfa Newydd

Trafodwyd yr angen i ailddarganfod ystyr Cristnogaeth a chreu cyfleon a geirfa newydd. Gwyddom fel y gall y termau diwinyddol arferol beri tramgwydd i rai a bod geiriau fel ‘pechod’, ‘rhagluniaeth’, a hyd yn oed ‘gras’, wedi mynd yn ddieithr i gynifer. Gallwn, gyda’n gilydd, ddarganfod ffordd o allu trafod materion ffydd mewn dull ffres a pherthnasol. Mae’r angen am rym yr Ysbryd yn hynny o beth mor gryf ag erioed.

 

Ennyd

Cawsom ‘dalm o amser’ yn yr Eisteddfod i deimlo’r Ysbryd yn ein symbylu ymlaen. Fe geisiais fy ngorau i hwyluso’r drafodaeth, ond yr Ysbryd yw’r Hwylusydd gorau heb os. Efallai mai nawr yw’r ‘adeg hwylus i gyflawni rhywbeth’? Daliwn ar bob cyfle, oherwydd hwyrach mai nyni yw’r rhai sy’n cael ein hannog gan yr Ysbryd i agor drysau newydd. Ni, drwy’r Ysbryd, yw’r rhai all gyflwyno cyfleon i Gymry heddiw i drafod ffydd mewn ffordd gyffrous. Byddwn hyderus felly oherwydd ‘dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i’n gwneud ni’n gryf’ (2 Timotheus 1:7).


Gyda diolch i Lleuwen Steffan a Dafydd Iwan am ein hysbrydoli yn yr Eisteddfod eleni, ac i’r Ysbryd am ein gwresogi unwaith yn rhagor. Melys moes mwy!


Sian Meinir

14 Medi 2025

 

 
 
 

Comments


bottom of page