Canolfannau data
Wyddoch chi fod sawl ardal yng Nghymru wedi ei dynodi yn barth twf AI? Eisoes mae 10 o Ganolfannau Data naill ai wedi eu sefydlu, ar y gweill neu yn yr arfaeth.
Mae cwmnïau technegol mawr fel Microsoft a Vantage tu ôl i nifer o’r datblygiadau yma a thrwy’r dynodiad maent yn osgoi llawer o ofynion cynllunio arferol. Yn ddiweddar, cawsom wybod am gais cwmni Gwelyfenai Cyf – cwmni sydd wedi ei leoli yn Swydd Buckingham - i adeiladu canolfan ddata enfawr ar lannau’r Fenai. Mae dros 15,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i wrthod y cais am sawl rheswm.
Byddai’r safle o faint 57 cae pêl-droed a’r adeiladau talaf tua 30 metr o uchder. Dyma ardal o harddwch naturiol eithriadol a byddai’r datblygiad yn hagru’r dirwedd leol am genedlaethau i ddod. I redeg y ganolfan byddai angen: 450 MW o drydan sy’n cyfateb i ddefnydd blynyddol chwarter holl gartrefi’n gwlad, 12 miliwn litr o ddŵr y dydd sy’n cyfateb i ddefnydd teulu o 4 am 97 mlynedd. Pan na fyddai digon o drydan ar gael byddai’r ganolfan yn dibynnu ar eneraduron diesel.
Mae potensial amlwg ar gyfer effeithiau niweidiol, llygredd awyr o hymian 24 awr y peiriannau, llygredd allyriadau ocsidau nitrogen o’r diesel, creu prinder dŵr yn lleol a biliau ynni uwch ynghyd â llygredd o waredu’r dŵr a ddefnyddiwyd yn gymysg gyda chemegau, niwed hirdymor i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Eisoes, plediodd cwmni arall sy’n perthyn i Peter O’Dowd, un o gyfarwyddwyr Gwelyfenai, yn euog i chwe trosedd amgylcheddol.
Mae’r pryderon uchod yn rhai global a cheir mwy a mwy o dystiolaeth am sut mae canolfannau data yn amharu ar les ac iechyd trigolion lleol. Ar raglen deledu ‘In Case You Missed It’, ceir hanes ymgyrch yn erbyn cynllun i godi canolfan ddata fawr ar gyrion Caerdydd, cais ar safle lle darperir gwasanaeth parcio a theithio allweddol ar gyfer staff a chleifion i Ysbyty’r Waun.
Rhan o’r ddadl o blaid y ceisiadau yw’r honiad y daw cannoedd o swyddi. Ond, mae lle i amau
hirhoedledd y gyflogaeth ynghyd â natur ac ansawdd y swyddi hynny.
Yn amlwg, does dim gwadu bod y mwyafrif ohonom yn ddefnyddwyr data a chymylau rhithiol yn ein bywydau pob dydd. Gan fod pob chwiliad, rhaglen deledu ar lein, trosglwyddiad banc, ymholiad AI, cofnodion iechyd a gofal ayb yn dibynnu ar ganolfannau data i’w storio a’u prosesu, mae’r wladwriaeth yn eu hadnabod fel ‘seilwaith cenedlaethol hanfodol’. Rhagwelir y bydd nifer y canolfannau data ar draws y byd yn cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.
Felly, nawr yw’r amser i holi: ar ba gost?
Mae mynediad at wybodaeth o bob math ar gynnydd ond a ydym yn nes neu yn bellach oddi wrth y gwirionedd? Onid oes lle i ochel rhag gorddibyniaeth ar wasanaethau data digidol sydd yn nwylo corfforaethau enfawr? Hyn heb sôn am rôl canolfannau data yn lledu gwybodaeth ffug; eu rhan yn ymestyn gwyliadwriaeth ar unigolion a grwpiau; eu rôl yn prosesu data at bwrpasau’r diwydiant arfau a rhyfela; a chanlyniadau pellgyrhaeddol risgiau camddefnydd data ac ymosodiadau seiber.
Hei lwc i’r ymgyrchwyr sy’n tynnu sylw at y pryderon. Mae Cymru yn sgil bob yma dir cymharol rad ac adnoddau naturiol helaeth yn darged hawdd i geisiadau cynllunio pellach.
Sian Howys
27 Medi 2026
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y pwnc hwn, ynghyd â map perthnasol, yng nghylchgrawn y Sefydliad Materion Cymreig:

Comments