top of page

Cadw Gwŷl a chadw trefn.


 Ychydig wythnosau'n ôl  bu Gethin Evans  y Crynwr yn ein hatgoffa bod pob dydd yn sagrafen llawenydd i ni, a bod George Fox  yn ei gyfnod ef o wrthryfel yn erbyn yr eglwys wladol gynt yn ystyried bod gwyliau arbennig yn eilunaddoliaeth. Ffarwel i Nadolig, Gwener y Groglith, Sul y Pasg a’r Sulgwyn.  

 

 Y trafferth yw mai  creaduriaid sy’n byw ym myd amser ydyn ni sy’n ffaelu cofio popeth na thalu sylw llwyr i bethau sydd gennym i ddiolch amdanynt. Diau mai dyna pam y datblygodd y fath beth â blwyddyn ‘eglwysig'. yn y canrifoedd cynnar  Mae agwedd y mwyafrif llethol o ymneilltuwyr yn cytuno â’r Crynwyr. 

 

Ond eleni ar Wŷl Ddewi bum yn  datgan ,’Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch crêd, a gwnewch y pethau bychain hefyd”.Diau  y byddai rhai yn tybio mai un o’r pethau bychain fyddai defnyddio llithiadur. Ond rwy’n awgrymu bod defnyddio llithiadur yn ffordd o gadw’n ffydd a’n crêd, ac felly’n un o’r pethau mawrion!  Llithiadur ? Dyma’r  rhestr darlleniadau y mae eglwyswyr yn ei defnyddio (gyda gwahanol raddau o ufudd-dod,) ar Sul, Gŵyl a Gwaith. Mae’n fater o bwys mewn cyfnod pan fo ymosodiadau tra anwybodus yn cael eu gwneud ar y Beibl gan anffyddwyr. Mantais  y llithiadur yw ei fod yn ein gorfodi i weithio trwy’r ysgrythurau ac ymlafnio i wneud synnwyr perthnasol ohono. Cafodd y llithiadur cydenwadol  adnewyddiedig  (Revised Common Lectionary) ei lunio yn nechrau’r ganrif ddiwethaf gan ddychwelyd at arfer yr eglwys fore . Mae’n para  dros dair blynedd, sy’n peri talu sylw i’r efengylau cyfolwg yn eu tro, a sylwi ar y gwahanol bwyslais sydd ynddynt.  

 

Yn wyneb anwybodaeth ysgrythurol  oni ddylem wneud ein gorau glas i weithio'n ffordd yn gyson trwy wahanol bwyslais a chynnwys y ffydd a pheidio â dibynnu'n llwyr ar hoff ddarnau?  Mae darllen o’r Hen Destament a’r Newydd gyda’i gilydd hefyd yn dangos y cysylltiad a’r gwahaniaeth rhwng y ddau. Oni ddylai gynulleidfa fedru dibynnu ar bregeth i weithio ar ddarlleniadau, ystyried newyddion y dydd  ac amgylchiadau’r gymuned, ac yna tynnu’r ddau at ei gilydd yn ddealladwy a diddorol. Onid felly y gall y geiriau droi yn Air inni heddiw?  

 

Mae’n debyg ein bod yn perthyn i’r gyfundrefn enwadol y mae ei gwendidau yn fwyaf goddefadwy gennym.  Cas gan lawer weddiau gosodedig. Cas gan eraill y weddi ‘o’r frest’.  Ond un rhodd y gall yr eglwys esgobol ei chynnig yn hyderus i bawb ( heb orfodi!!) yw’r llithiadur, canllaw i ddeall, gwerthfawrogi a 'chadw ffydd a chrêd'.

O’r Adfent i’r Pentecost mae'n mynd â ni drwy fywyd a gweinidogaeth Iesu. O  Fehefin i ddiwedd Tachwedd  cawn ein harwain trwy  ddysgeidiaeth Iesu ac oblygiadau hynny i'n ffordd o fyw ninnau. 

Y ddadl yn erbyn  yw ein bod i ymateb i brocio'r Ysbryd Glan a  phregethu broffwydol i’r cwmni ar y Sul.  Byddai'n braf meddwl bod hynny'n digwydd. Yn hynod aml mae’r llithiadur yn awgrymu’r union Air sydd ei hangen! 

 

  A dylai pob dydd ,wrth gwrs, fod yn sagrafen llawenydd i ni i gyd.

 

Enid R Morgan.

 


       

 

 

bottom of page