top of page

Byw’r freuddwyd

Gwyddom fod gan ‘grefydd’ a Christnogaeth ddelwedd digon gwael ar y cyfan: criw o hen bobl hunangyfiawn yn cwrdd mewn adeilad anghyffyrddus i wrando ar hen bregethwr diflas yn siarad am bethau sych a chanu emynau yn araf iawn. Dyna un disgrifiad rwyf wedi ei glywed droeon, a rhaid cyfaddef bod y farn honno heb fod ymhell o’i lle mewn ambell i fan. Ond gwyddom hefyd fod yna gynulleidfaoedd bywiog, sy’n fwrlwm o weithgareddau, sy’n byw eu ffydd ac yn gwneud lles mawr o fewn eu cymunedau a’r byd ehangach.

 

Wrth deithio o amgylch y Deyrnas Unedig rwy’n gweld a phrofi esiamplau o’r ddwy ddelwedd yn gyson. Rhaid derbyn fod yna gynulleidfaoedd sy’n ddifywyd, yn gwneud dim ond cwrdd ar y Sul i gynnal oedfa, a hynny’n aml heb fod yn wythnosol. Cynulleidfaoedd sy’n heneiddio, wedi rhedeg allan o syniadau, brwdfrydedd ac egni, gan weld dim ar gyfer y dyfodol ond marwolaeth yr achos a chau’r adeilad.

 

Mae’r gwahaniaeth rhwng y ddwy fath o gynulleidfa i’w gweld yn amlwg, ond beth am y rhesymau sydd wedi arwain at y gwahaniaeth yma? Medrwn restri cant a mil ohonynt gan gynnwys prinder gweinidogion, prinder arian, adeiladau sy’n gostus o ran y cyllid, yr amser a’r egni sy’n mynd i’w cynnal, diffyg diddordeb, newid cymdeithasol, ac yn y blaen.

 

 A phan mae cynulleidfa yn dechrau lleihau a’r cyfan yn mynd yn faich ar y swyddogion a’r aelodau, mae yna gyfnod o geisio denu aelodau newydd i helpu rhannu’r baich. Mae yna gyfarfodydd a holiaduron a ffurflenni gwerthuso a gofyn am syniadau. Ond erbyn hynny mae’n medru bod yn rhy hwyr i gynllunio ffordd gadarnhaol ymlaen. Wrth gwrs, nid chwilio am aelodau i’n helpu ni sydd ei angen. Rhaid cofio nad yw’n ddyletswydd ar y gymuned leol na’r enwad i gadw unrhyw gapel nac eglwys ar agor.

 

Felly, beth mae’r cynulleidfaoedd bywiog yn ei wneud sy’n wahanol? Yr hyn yr wyf i wedi  sylwi arno yw bod ‘na fwy o gwestiynau yn cael eu gofyn yn gyson a hefyd bod yna fwy o deimlad o berthyn ymysg yr aelodau.

 

Pan fo llais pawb yn cael ei glywed yn rheolaidd, pan fo’r un sylw yn cael ei roi i syniadau pawb, p’un ai ydyn nhw’n aelodau traddodiadol sy’n cyfrannu’n ariannol neu’n bobol sydd â chysylltiad llai ffurfiol â’r eglwys, mae yna fwy o ymdeimlad o berthyn, o falchder ac o frwdfrydedd. Maent yn berchen ar freuddwyd a gweledigaeth ac maent yn eu rhannu â phawb.

 

Nid oes cymaint o angen am ffurflenni a chyfarfodydd pan fo pawb yn rhannu’r un freuddwyd. A dyna un ffordd o drawsnewid. Breuddwydiwch, rhannwch – a chofiwch nad oedd gan Martin Luther King gynllun. Roedd ganddo freuddwyd a thrwy ei rhannu mi ddaeth yn wirionedd.

 

 

Melda Grantham

 

Comments


bottom of page