top of page
Search

Byw ar wahan gyda'n gilydd

  • 6 days ago
  • 2 min read

Dro nôl yn yr Eidal cefais y drefn gan offeiriad o Urdd Dominic oherwydd fy mod wedi derbyn y Cymun yn y ffordd ‘anhywir’.(Yn Ewrop byddaf yn derbyn Y Cymun yn rheolaidd yn yr eglwysi Catholig.) Derbyniais yn y ‘dull’ Anglicanaidd. Rhuthrodd y dyn allan o’i festri ar ddiwedd yr Offeren, a thrwy gyfuniad o symudiadau llaw a fy ngallu ciami iawn i i ddeall ambell air Eidaleg, gwnaeth ei bwynt yn ymosodol braidd. Flynyddoedd yn ôl byddwn wedi mynd o ngho’ hefo’r ffasiwn agwedd offeiriad-ganolog. Ond nid bellach. Fel y dywedir yn yr iaith fain ‘water off a duck’s back’, erbyn hyn.

Yn yr un cywair, gwelaf y Cristionogion Trumpaidd yn America yn haeru fod y POTUS yn un o’r etholedigion. Y Cyrus, Babilonaidd cyfoes. Yr un dŵr, yr un chwadan?

Eto fyth, y dyhead mawr Cymraeg ein bod y tu mewn i’r eglwys ‘anghywir’: nid y chwech neu saith, neu lai, pob un dros oed yr Addewid, ar foreau Sul yn y capeli a’r eglwysi, ond yr eglwys ‘gywir’ llawn plant a phobl ifanc, a deallusrwydd diwinyddol na welwyd mo’i fath ymysg y dosbarth canol, proffesiynol y dymunwn eu cael ond am ryw reswm odiaf fyw nad ydynt yna. Mm! Dŵr a chwadan arall?

Licio neu beidio y mae pob un o’r uchod yn rhan o eglwys Iesu Grist ar y ddaear. Rydym yn ddwfn berthyn iddynt. Er dymuno eglwys arall. Rhywbeth bler yw’r eglwys, ac a fu erioed. Ar bob cyfrif, gwrthwynebwn rai o’r safbwyntiau ac agweddau meddwl hyn. Ond peidiwn fyth a cheisio eglwys ‘bur’.  Donatiaeth yw peth felly, y gwrthwynebodd Awstin Fawr ef mor ffyrnig. A chyplysu hynny hefo ymadrodd Cyprian, esgob Carthage yn y Drydedd Ganrif: ‘extra Ecclesiam nulla salus.’ ‘Nid oes iachawdwriaeth tu allan i’r eglwys.’ Yr eglwys fel ag y mae hi, nid yr un yn fy nychymyg. Eglwys bechadurus sy’n llwyr ddibynnol ar Ras Ei Phen. Nid delwedd o eglwys ond un hefo pobl go iawn, hefo côd post go iawn.

Ar bob cyfrif, diwygier hi. Mae diwygiad yn rhan anatod o fod yn eglwys. A cheisio darbwyllo yr Offeiriad o’i go’ hefo Cymro’n yr Eidal, y penboethyn MAGA, a’r ddwy neu dair sy’n llawn anobaith am y dyfodol, fod y weledigaeth Gristionogol yn lletach a dyfnach na hyn. Ond ar yr un pryd ein bod yn yr un Ecclesia â hwy. Nid tebyg at eu tebyg yw craidd eciwmeniaeth-mae’n debyg mai dyna pam y torrodd i lawr yn yr ynysoedd hyn. Ond sut mae cyd-fyw hefo’r un nad yw’n debyg i mi.  Nid drwy gynllun a dogfen-o na!, un arall eto fyth-nid pwyllgor neu gynhadledd. Ond drwy ddirnad fod delw Duw yn fy ngwrthwynebydd fel ynof finnau.

Sut beth yw edrych ar Donald Trump a gweld delw Duw yn y dyn? Wel……


Aled Jones Williams

 

Cofiwch am ein trafodaeth agored ar Zoom ar 29 Mehefin. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni yn ei wneud? Beth yw ein cynlluniau?

Dewch i ddysgu mwy am C21 ac ymuno yn y sgwrs.

 Gallwch gofrestru trwy ateb i’r neges hon.

 

 

Gyda’n cofion.Cristnogaeth 21

 

 
 
 

1 Comment


Miriam Tiller
Miriam Tiller
4 days ago

The idea of embracing a flawed, real church rather than seeking a perfect one resonates deeply. Unity despite differences is key. pagsasanay sa excel online

Like
bottom of page