Byrstio Swigen
- garethioan1
- Nov 2
- 3 min read
Rydw i ‘di bod yn pendroni. Tybed a oedd yr her a wynebodd ein cyndeidiau i ddilyn ‘Ffordd yr Iesu’ yn haws nag y mae i ni heddiw?
Pan roedd pobl yn byw o fewn eu ‘milltir sgwâr’; pan nad oedd ganddyn nhw bapurau newydd, newyddion teledu pedair awr ar hugain, cyfryngau cymdeithasol na llawer o ymwybyddiaeth o’r hyn oedd yn digwydd hanner can milltir i ffwrdd - heb sôn am ochr arall y byd - roedd ‘gwneud y pethau bychain’ o fewn eu cymuned efallai’n fwy hylaw i bobl na’r baich mae bywyd mewn pentref byd-eang yn ei lwytho arnom heddiw.
Rydw i ‘di bod yn eistedd yn yr ardd ar ddiwrnodau heulog - neu yn y conservatory os oedd oerni’r Hydref yn pigo - yn sgwennu ychydig... yn darllen nofelau... yn gwrando ar gerddoriaeth. Weithiau, os nad oedd y sgwennu’n mynd yn dda, byswn yn pobi bara neu gacennau i fy mam-yng-nghyfraith nawdeg oed sy’n hoff iawn o bethau melys. Dyna derfynau cyfforddus fy swigen! Ydw, dwi wedi maldodi fy hun mewn cysur breintiedig, gan gadw cymaint o’r byd tu allan at hyd braich ers peth amser bellach – a gweddïo’n bennaf na fydd fy swigen yn byrstio.
Ond mae’r erchyllterau’n treiddio i mewn weithiau: yr hil-laddiad yn Gaza, y ffasgiaeth yn UDA, annynolrwydd Rwsia, sibrydion maleisus Reform yng Nghymru, cynnydd yr AfD yma yn yr Almaen a’r ôl-pedlo ar hawliau LGBTQ+ ar draws gormod o’r byd. Byddaf yn postio fy mhrotest ar y cyfryngau cymdeithasol – ac yna rydw i’n teimlo’n hunanfodlon, fy mod i wedi gwneud fy ‘ngweithred dda am y diwrnod’.
Ond yn yr wythnosau diwethaf o foddhad, mae ‘Ffordd Iesu’ yn sibrwd o archif fy nghof. Mae’n ail adrodd yr adnodau Beiblaidd hynny a ddysgais yn blentyn yng nghapeli Park Road a Chaersalem yn Abermaw a’r gwersi diwinyddiaeth gyda Robert McAfee Brown ddegawdau yn ôl yn y coleg diwinyddol yn Berkeley. Mae’r atgofion hyn yn ceisio, yn faleisus, i bigo’r swigen. Ac maen nhw, wrth gwrs, yn ei phigo!
Rwy’n ddigon gonest i gydnabod fy ymdrechion hunanol fy hun i gynnal fy hunangadwraeth yng nghysgodion llwm yr oes newydd hon o ddrwg, gan wrthod gwrando ar newyddion y teledu neu sganio adroddiadau’r wasg fyd-eang ar y rhyngrwyd er mwyn gwarchod fy iechyd meddwl a’m lles fy hun. Ond mae fy swigen o hunan-fodlonrwydd, os byddaf yn ymdroi ynddo’n rhy hir, yn creu ei anhwylder ei hun mewn un sy’n credu mai dim ond fy nwylo i a’ch dwylo chi all wneud gwaith Duw yn y byd.
Felly rwy’n gweddïo o’r newydd, nid i amddiffyn fy swigen, ond am ddealltwriaeth glir, ddiduedd... am ddoethineb tosturiol a grymusol a all fy nhrawsnewid... am arweiniad yn wyneb yr hyn sy’n ymddangos yn llethol ac anorchfygol. Ac yfory efallai y caf fy symud i ymuno â phrotest... teimlo rheidrwydd i ysgrifennu at fy Aelod Seneddol... derbyn gwahoddiad i ysgrifennu erthygl... neu hyd yn oed i roi fy mywyd fy hun dros heddwch trwy gyfiawnder.
Ond heddiw? Byddaf yn treulio oriau’n tynnu’r chwyn oddi ar yr hanner can metr o balmant sy’n ffinio â blaen ein tŷ fel y gall y bobl sy’n mynd heibio brofi eiliadau byr o lawenydd a chael eu hudo i heddwch gan y gwenyn yn y lafant wrth iddynt fynd o gwmpas eu busnes... jest neud y pethau bychain... a chofio fod Duw yn ein canfod ni lle’r ydym ni.
John Sam Jones
2 Tachwedd 2025

Comments