Mae ambell ddarlun yn aros gyda ni, yn gwrthod ein gadael. Mae rhai hyd yn oed yn datblygu i fod yn echel y mae meddyliau newydd yn troi o’i chwmpas. Darlun felly sydd wedi ymsefydlu yn fy meddwl ers i mi glywed ar y radio yn ddiweddar am arfer sydd wedi datblygu ymhlith menywod ifanc ar draws dinas Tehran, fel rhan o’r ymateb i farwolaeth Mahsa Amini yn nalfa’r heddlu fis Medi diwethaf.
Tua naw o’r gloch bob nos, mae cartrefi yn diffodd eu goleuadau ac yn agor eu ffenestri. Os oes balconi ganddynt, byddant yn mynd allan a gorwedd lawr rhag iddynt gael eu gweld gan gymdogion sydd o bosib yn cefnogi’r gyfundrefn. Yna, bydd un llais yn dechrau bloeddio i’r düwch, yn galw am ryddid a chyfiawnder i bobl Iran. Gwaeddant, “Mae gan bob un sy’n marw fil o leisiau tu ôl iddi” a “Dyma’r rhybudd olaf. Os ydych chi’n parhau i ladd, byddwn yn codi yn eich erbyn”.
Weithiau bydd bloedd yn cael ei hatseinio gan rywun mewn stryd gyfagos. Adeg arall bydd un person yn dechrau gwaedd ac un arall yn ei gorffen. Erbyn hyn, mae menywod a dynion o bob oed wedi ymuno â hwy; ac er nad ydynt yn gallu gweld ei gilydd oherwydd y tywyllwch, dwedant eu bod yn profi rhyddhad mawr a nerth aruthrol wrth uno fel un llais yn erbyn eu gorthrwm.
Mae dewrder a dyfeisgarwch pobl Tehran yn wyneb anghyfiawnder yn peri rhyfeddod mawr i mi. Dywed Iago yn adnodau 3-4 pennod gyntaf ei lyfr bod wynebu treialon yn “meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati trwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth!”. Rhaid taw dyma’r cryfder sy’n ysbrydoli merched Iran i losgi eu hijabs a thorri eu gwallt yn gynddeiriog yn y strydoedd, gan wybod yn iawn beth yw’r gosb am eu gweithredoedd.
Caiff dicter ei ystyried yn aml fel teimlad negyddol, sy’n gallu ein chwerwi a’n troi yn sur, ond mae’r awdur Ffrengig Stéphane Hessel yn dweud yn ei lyfryn Indignez-vous! (Byddwch ddig!) pa mor werthfawr yw cael rheswm i fod yn ddig. Dywed mai dyna fydd yn rhoi y cryfder i ni weithredu a chyfrannu at lif hanes y byd, llif sy’n arwain at fwy o gyfiawnder a mwy o ryddid. Ei ddicter tuag at y Natsïaid a’i sbardunodd ef i godi llais, er y gwyddai mai cael ei anfon i’r gwersylloedd crynhoi fyddai ei gosb.
Mae’n bwysig felly ein bod yn cadw’r darlun o bobl Tehran ar y balconi liw nos yn amlwg yn ein gweddïau. At hynny, bod ein dicter am eu sefyllfa yn ein harwain i gadw difaterwch draw a gweithredu. Sut? Gallwn ysgrifennu fel unigolion ac eglwysi at ein cynrychiolwyr gwleidyddol a gofyn iddynt gefnogi hawliau merched Iran yn gyhoeddus. Gallwn arwyddo deiseb i gefnogi ymgyrch Amnest Ryngwladol yn Iran. Gallwn wneud cyfraniad ariannol i fudiadau sy’n hyrwyddo hawliau yno. Gallwn ddarllen yn ehangach a chadw’n wybodus am eu sefyllfa, rhannu’r hyn a ddysgwn yn ein hoedfaon, yna defnyddio pob cyfle a chyfrwng i ledu’r wybodaeth yn eang. Rhaid i ni fod yn ddig a throi ein dicter yn weithred a fydd yn dwyn gobaith i’r rhai nad oes ganddynt lais yn ein byd.
I ddathlu 75 mlynedd o weithio yn erbyn anghyfiawnder, cyhoeddodd Cymorth Cristnogol lyfr o weddïau ym 2021 o’r enw Rage and Hope: 75 Prayers for a Better World. Bydd y llyfr yn ein helpu fel Cristnogion i gysylltu ein ffydd â materion byd-eang sy’n peri gofid ar hyn o bryd ac wrth edrych i’r dyfodol. Mae’r rhagair yn gorffen gyda gwahoddiad i ni: “We hope and pray that you will rage as we rage, and hope as we hope; standing together as the people of God for a better world.”
Comments