“Byddwch chwi’n berffaith!”
- cristnogaeth21
- Jan 18
- 3 min read
“Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.” Dyma un o orchmynion mwyaf heriol Iesu, yn ei bregeth ar y mynydd, a dwi wedi bod yn myfyrio arno yn ddiweddar. A hynny oherwydd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd bresennol ces i’r fraint o fedyddio pedwar person ifanc yn y Tabernacl. Fel rhan o’r paratoi mae’r pump ohonom wedi cwrdd yn rheolaidd i drafod beth mae’n ei olygu i fod yn Gristion – a chododd y gair ‘rhyddid’. I fi, mae bod yn Gristion yn golygu bod yn rhydd. Wedi’r cwbl, dywedodd Iesu, “os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.” Ac mae trywydd naratif y Beibl yn un o gaethiwed i ryddid – y trywydd mawr o Genesis i lyfr y Datguddiad, hefyd y trywydd llai yn stori’r Exodus.
Felly ces i fy synnu braidd pan wnaeth un o’r pedwar anghytuno’n llwyr. “I fi”, meddai, “nid rhyddid yw Cristnogaeth. Mae Cristnogaeth yn golygu dilyn llawer o reolau: paid ag ysmygu, paid ag yfed, paid â dweud celwydd, ayyb. Ac mae’r rheolau hyn yn wych achos eu bod nhw’n ein cadw ni’n saff.”
Mae’n siom fawr i fi ein bod ni fel Cristnogion wedi rhoi’r argraff yma i bobl. Mae’n debyg bod 613 gorchymyn yn y gyfraith Iddewig, ac wrth gwrs mae’r deg gorchymyn mawr yna hefyd. Ond disgyblion Iesu Grist ydyn ni, a dim ond dwy reol oedd gyda fe: câr Duw, a châr dy gymydog fel dy hun. Mae’r bregeth ar y mynydd yn symudiad oddi wrth gadw rheolau oherwydd traddodiad neu ofn cosb (“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ ...”) i ffordd o fyw hollol wahanol sy’n gwrthod barnu, dal dig neu dalu’r pwyth yn ôl, sef ffordd o fyw sy’n llifo o gariad pur (“... ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi.”).
Sut, felly, ddylen ni ddehongli gorchymyn Iesu i fod yn berffaith? Onid yw hyn hyd yn oed yn anos na chadw’r 613 rheol gwahanol?
Mae’r ateb yn dod o’r trawsffurfiad llwyr y mae ysbryd Iesu’n rhoi i’w ddilynwyr. Bellach, nid yw ‘perffeithrwydd’ yn golygu cadw at bob rheol. Yn hytrach, i’r rhai sydd yn Iesu Grist, mae perffeithrwydd yn golygu byw bywyd sy’n seiliedig yn unig ar gariad. “Carwch, a gwnewch beth bynnag a fynnwch”, meddai Awstin Sant. Doedd e ddim yn awgrymu byd ble mae pawb yn rhydd i ddwyn neu ladd neu dreisio. Ond yn hytrach byd ble mae bywydau perffaith yn llifo o galonnau llawn cariad, ac yn creu teyrnas o faddeuant, llawenydd a thangnefedd. Teyrnas Iesu; teyrnas y nefoedd ar y ddaear.
Mae’n llawer haws dilyn rheolau pendant na phenderfynu ein hunain beth i’w wneud ar sail cariad. Ond wrth i ni aeddfedu fel Cristnogion, dyma’r math o fywyd y mae Iesu’n ein galw ni ato. Dwi’n hoff iawn o waith Ioan o’r Groes, ac yn ei gampwaith ‘Ascent of Mount Carmel’ mae’n disgrifio’r daith ysbrydol y dylai pob dilynwr Iesu ei dilyn. Mae Ioan hyd yn oed yn tynnu llun, map, o’r daith, a dyma beth sy’n fy nharo bob tro: ar gopa’r mynydd, mae’r map yn wag heblaw’r geiriau hyn: “Here there is no longer any way because for the just there is no law; they are a law unto themselves.”
Byddwn ni, felly, yn berffaith – nid oherwydd ein bod ni’n cadw pob rheol a byth yn methu. Byddwn ni’n berffaith achos ein bod ni wedi cael ein perffeithio mewn cariad trwy nerth a gras Iesu Grist. Fel yr ysgrifennodd yr apostol Paul at yr eglwys fore yn Rhufain: “Y mae'r sawl sy'n caru pobl eraill wedi cyflawni holl ofynion y Gyfraith. Oherwydd y mae'r gorchmynion, ‘Na odineba, na ladd, na ladrata, na chwennych’, a phob gorchymyn arall, wedi eu crynhoi yn y gorchymyn hwn: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.”
Rosa Hunt
18 Ionawr 2026
Gellir gweld braslun Ioan o’r Groes o ‘Ascent of Mount Carmel’ wrth ddilyn y ddolen isod: https://www.thecontemplativelife.org/blog/ascent-mount-carmel-st-johns-sketch-mount

Comments