top of page

Byddai’n neis cael y geiriau

“Language is a place to put your feelings”. Dyna ddywed un cymeriad yn nofel Jessica Andrews, Saltwater, sy’n adrodd hanes merch ifanc yn ceisio dod o hyd i’w lle yn y byd.

Mae yna lawer o bwyslais y dyddiau ‘ma ar les dysgwyr yn ein hysgolion. Ac wrth reswm. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan yr OECD ym 2019, mae plant a phobl ifanc y Deyrnas Unedig ymhlith y mwyaf anhapus yng ngwledydd Gorllewin Ewrop. At hynny, mae gan blant a phobl ifanc Cymru mwy o deimladau negyddol a llai o deimladau cadarnhaol na’u cyfoedion yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae’r darlun yma yn un trist dros ben, ac mae ysgolion yn arbrofi gyda dulliau gwahanol o fynd i’r afael â hyn.


Un dull yw helpu eu dysgwyr i ddod o hyd i eiriau i fynegi eu teimladau, ac yna rhoi cyfleoedd iddynt eu defnyddio. Mewn un ysgol gwelais boster o Olwyn Emosiynau ar wal pob stafell ddosbarth, ac mae’r dysgwyr yn cael y cyfle bron yn ddyddiol i ddewis geiriau o’r olwyn i ddweud sut maent yn teimlo. Gall y broses hon ddilysu teimladau dyrys mewn plentyn ac agor drws i drafodaeth bellach, trafodaeth sy’n fuddiol i’w lles meddyliol eu hunain yn ogystal â’u helpu i ddeall eraill yn well.


Yn aml, wrth gwrs, mae gennym ni fel oedolion y geiriau, ond nid o anghenraid yr hyder i’w dweud ar goedd. Dywedodd dyn ar y radio yr wythnos hon y gwyddai, pan aned ei fab, y byddai rhaid iddo ddweud wrtho un diwrnod nad ef oedd ei dad biolegol. Byddai felly yn ymarfer dweud hyn wrtho wrth newid ei gewyn neu ei fwydo. Gwyddai, wrth gwrs, na fyddai’r babi yn ei ddeall. Ond, meddai, “I just had to practise saying the words.”


Clywais sôn mewn sawl lle cyhoeddus yn ddiweddar bod y cyfle i drafod ein ffydd wedi diflannu o’n heglwysi. Nid yw hyn yn wir ym mhob man, wrth gwrs. Yng nghynhadledd Cristnogaeth 21 dydd Sadwrn diwethaf, er enghraifft, clywsom ddau gyflwyniad ysbrydoledig gan John Llewelyn Thomas, Tabernacl, Efail Isaf, ac Annalyn Davies, Bethlehem Newydd, San Clêr, ynglŷn â sut mae eu heglwysi’n gweithredu‘n lleol i helpu’r anghenus.


Cyngor y ddau i eglwysi eraill fyddai’n dymuno gwneud yr un peth oedd i ddechrau trwy drafodaeth ar y cyd am werthoedd a gweledigaeth yr eglwys. Rhaid bod sgyrsiau o’r fath yn tynnu’r eglwys yn agosach at ei gilydd trwy ddod i gyd-ddealltwriaeth am sut y gellid rhoi dysgeidiaeth Iesu Grist ar waith yn eu cymunedau.


Efallai bod angen lle hefyd i drafod yr hyn mae ein ffydd yn ei olygu yn ein bywyd ni. Wrth wrando ar Emyr Lewis yn siarad ar Bwrw Golwg yn ddiweddar, cefais fy nharo gyda’r ffordd hyderus a huawdl yr oedd yn siarad am ei berthynas â Duw. Roedd yn swnio i mi fel petai wedi dod o hyd i’r geiriau i roi mynegiant i’w gred a bod eu hymarfer yn dod yn naturiol iddo.


Fodd bynnag, mae siarad am ffydd mewn ffordd bersonol yn peri swildod a hyd yn oed pryder i lawer yn ein cynulleidfaoedd. Sut allwn fynd ati, felly, i greu gofod diogel lle gallwn godi cwestiynau, mynegi amheuon, a rhannu teimladau mewn modd a fydd yn rhoi i ni’r hyder i siarad yn agored am ein ffydd?


Mewn sgwrs rai misoedd yn ôl gyda ffrind, cytunodd y ddwy ohonom bod gennym ymdeimlad gref o ffydd, ond nad oedd yr un ohonom yn gyffyrddus iawn yn siarad amdano. Pan awgrymais iddi falle bod meddu ar ffydd yn ddigonol, oedodd ychydig cyn dweud, “Ie, ond byddai yn neis cael y geiriau...”


Anna Vivian Jones

bottom of page