Busnes Crefydd
- 4 days ago
- 3 min read
Alla i ddim celu’r ffaith mod i wrth fy modd gyda chanlyniad yr etholiad diweddar i Senedd Cymru. Dwi’n teimlo bod pobl wedi dechrau deall cenedlaetholdeb Cymru heddiw, neu o leiaf yn deall y neges dros gydraddoldeb, gwirionedd, cynaliadwyedd a heddwch.
Mewn cyfarfod diweddar dan y pennawd ‘Trawsnewid y sgwrs gyhoeddus ar ffoaduriaid a mudwyr’ neges y panelwyr oedd: os oeddem am wir groesawu ffoaduriaid a mudwyr i’n plith, roedd rhaid ‘ymgysylltu’. Y geiriau a ddefnyddiwyd oedd ‘get connected’. Mae’r blaid a ddaeth i’r brig wythnos ddiwethaf wedi bod yn ceisio ymgysylltu ers can mlynedd. Ond yr un yw’r neges i ni heddiw, ni sydd am fod yn gymdogol gyda phobl anghyfarwydd i ni – gwneud cysylltiadau a chyfathrebu yw'r allwedd.
Mae ‘comms’ neu gyfathrebu yn air ffasiynol y dyddiau yma. I mi, trefn y cyfathrebu ydy: clywed y neges > gwrando ar y neges > cofio’r neges > meddwl am y neges >siarad am y neges. Dyma’r hyn fydd rhaid i aelodau newydd ein Senedd ni ei wneud.
Pan ddechreuais i ddod yn gyfarwydd â phrosesau gweinyddu’r Crynwyr fe gymerodd dipyn o amser i mi ymgyfarwyddo â’r drefn o Gwrdd Busnes ar gyfer Materion Eglwysig. Cwrdd Addoli ar y Sul neu ar unrhyw ddydd, ie, ond Cwrdd Busnes?
Fel oedolyn roeddwn wedi hen arfer ag eistedd trwy bwyllgorau hirfaith yn aflonydd a rhwystredig, yn profi cadeirio gwael, ail adrodd parhaus, torri mewn, achub y blaen, ac aralleirio rhyw sylw roedd eisoes wedi’i fynegi. Syrffed!
Ond dyma drefn wahanol. Mae Cwrdd Busnes y Crynwyr ar gyfer Materion Eglwysig yn cychwyn gyda munudau o dawelwch. Mae’n cael ei alw’n ‘Gwrdd’ ond fe fydd yna bapurau (e.e. cofnodion y cwrdd blaenorol) ac agenda. Arfer newydd sbon i mi oedd sylweddoli fod pob cofnod yn cael ei ysgrifennu lawr yn y fan a’r lle ar ddiwedd trafod y mater. Does dim o’r drefn o adael i’r Ysgrifennydd edrych dros ei nodiadau ar ôl mynd adref a cheisio cofio beth yn union a ddwedwyd ac a benderfynwyd.
Mewn Cwrdd Busnes gall pob Cyfaill fynegi barn. Yn aml, ceir sawl barn wahanol gyda daliadau cryf ar y naill ochr a’r llall. Wrth drafod yn onest ac agored fe geir penderfyniad i symud ymlaen, neu os yw’n rhy ddyrys down yn ôl at y pwnc rywbryd eto wedi dwys ystyried. Bydd rhaid sicrhau bod y cofnod yn mynegi ‘teimlad y cyfarfod’ a chanfod ffordd ymlaen.
Fe fydd y ffordd ymlaen i’n haelodau etholedig ddim yn hawdd. Mae Crynwyr Cymru yn credu yn y gwerthoedd canlynol: gwirionedd, cydraddoldeb, cynaliadwyedd a heddwch. Dylai’r gwerthoedd hyn fod yn bresennol yn y gwaith o lunio polisïau cenedlaethol, ynghyd â’n harwain yn ein cymunedau a’n bywydau unigol. Falle bod yr isod werth iddyn nhw ei ystyried:
“A ydych yn parchu’r hyn sydd o Dduw ym mhawb er y gall fod wedi ei fynegi mewn ffyrdd anghyfarwydd neu yntau’n anodd ei ddirnad...? Pan fo geiriau’n ddieithr i chwi neu’n tarfu arnoch, ceisiwch synhwyro o ble y daethant, gan ystyried yr hyn fu’n maethu bywydau pobl eraill. Gwrandewch yn amyneddgar, a cheisiwch y gwirionedd fo i chi yn naliadau pobl eraill. Gochelwch rhag beirniadaeth sy’n clwyfo ac iaith sy’n cythruddo...“.
(Rhan o rif 17 o Gynghorion a Holiadau’r Crynwyr).
Duw = y Goleuni, yr Ysbryd neu pa bynnag enw sydd yn rhoi ystyr i chi.
Medi James
24 Medi 2026

Comments