top of page
Search

Bryn Noddfa a Maesyneuadd.

  • 13 hours ago
  • 3 min read

Agorodd y drws. Hi oedd y cyntaf i gyrraedd heddiw. Aeth drwadd i’r gegin i lenwi’r ddau deciall. Roedd hi wedi dod i nabod y gegin ac yn gwybod lle’r oedd y tebot mawr, y jwg coffi a’r mygiau’n cael eu cadw. Estynnodd amdanyn nhw a meddwl eto pa mor lwcus oeddan nhw fel Criw Darllen fod Huw a Jon, perchenogion Bryn Nodddfa, yn agor drysau’r gwesty iddyn nhw fel hyn.

 

Clywodd sŵn cyrraedd yn y lolfa a phan aeth drwadd roedd y cadeiriau wrthi’n cael eu symud yn gylch trafod parod, roedd shortbread a theisennau cri ar y bwrdd a chyn pen dim roedd yna dywallt panad. Wrth weld pawb yn ymestyn am eu llyfrau a dechrau setlo, sylweddolodd cymaint roedd y merched yma yn ei roi iddi hi, cymaint roedd hi’n elwa o gyd-ddarllen a thrafod efo nhw a cheisiodd gofio pwy ddywedodd mai dim ond hanner y llyfr mae awdur yn sgwennu ac mai’r darllenydd sy’n sgwennu’r hanner arall. Gwenodd wrth feddwl am y llyfrau roeddan nhw wedi’u sgwennu yn y stafell hon. Ac ia, dyna be ddaru nhw –  ‘sgwennu’ – wrth geisio camu i fydoedd pobl eraill, ystyried pam fod hwn-a-hwn neu hon-a-hon wedi ymddwyn fel-a’r-fel neu wedi gwneud peth-a’r-peth. Sbio ar fyd trwy lygaid pobl eraill. Gweld petha’n wahanol a dod i weld beth mae rhywun ddim yn ei weld. Trio dirnad, trio dallt. A rhywsut wrth wneud hynny efo pawb arall a phobl mewn llyfrau, daeth ar draws llefydd newydd yn ei thu mewn ei hun...oedd, roedd hynny wedi digwydd hefyd ... mmm, ia. Aeth i’w bag ac estyn am lyfr Iwan Rhys, Trothwy. 

 

        *

 

Agorodd y drws. Da oedd cyrraedd a gadael y glaw a’r llwydni oedd wedi cau am bob dim drwy’r dydd. Ac roedd newydd glywed am ddau o’r pentref oedd yn cael trafferth dod adref o Dubai, roedden nhw ar ei meddwl. Ia Dubai... Iran a Trump...  

 

Penderfynodd fynd dros y mynydd i Gapel Maesyneuadd, Trefor. Iddi hi, roedd ’na rywbeth cynnes braf yn yr enw, Maesyneuadd. Dyna enw cartref ei theulu yn Nhanygrisiau ac er na fu erioed dros y trothwy, roedd hi wedi clywed cymaint am y tŷ hwnnw ac wedi meddwl laweroedd am ei hen nain, Laura Jones, oedd yn byw yno. Dynas ymarferol yn gwneud, nid jest dweud, oedd hi. Ond yn Nhrefor, nid yn Nhanygrisiau, roedd hi heddiw.

 

Aeth i eistedd yn y cefn. Mae angen deryn glân... meddyliodd, wastad yn dweud wrth bawb am ddŵad i eistedd yn nes at yr achos yn ei chapel ei hun. Efallai fod galw ar bobol ddiarth yn esgus digonol meddyliodd eto, ac wrth setlo a gosod ei chefn yn erbyn y parad, gwelodd fod Arfon Wyn wedi cyrraedd yn barod ac yn nodio pen a chyfarch pawb fel roeddan nhw’n dŵad i mewn. Roedd hynny’n braf ac roedd Dafydd Tir Du yn gynnas glên ei groeso ar ddechrau’r oedfa hefyd. Ac wedyn chafodd hi ddim amser i stwnshan meddyliau na denig efo nhw i un man. Cafodd ei dal yn syth bin gan onestrwydd ac agosatrwydd geiriau Arfon Wyn. Ac roeddan nhw’n dal efo hi wrth iddi yrru nôl am Lanaelhaeaern, dros bont Gwag y Noe am dopia Llithfaen ac i lawr am Pistyll ac am adra a ddaru nhw ddim mynd wedi iddi gamu dros y trothwy i’r tŷ chwaith. Geiriau fel ‘dwi’n siarad efo mi fy hun yn aml fel mae Pantycelyn yn wneud yn Emyn 750’; geiriau Salm 103 a’i darllen fel gweddi gan ychwanegu ei sylwadau ei hun rhwng ambell gymal neu adnod; anogaeth Dewi Sant ‘i wneud y pethau bychain’, cydio yng ngeiriau Galatiaid 6 sy’n sôn am ‘beidio â blino gwneud daioni’ a geiriau Trump nad oes angen empathi. Ac yn syth bin wedyn daeth geiriau ‘hau hadau gobaith’. Am gân, am gerdd, am emyn,  ac roedd hi’n berffaith siŵr y basech wedi clywed pin yn disgyn wrth iddo godi’i gitâr a chanu. Ac wrth iddi gofio a chadw mewn cof beth ddywedwyd, sylweddolodd y byddai ei chofnod hi o’r oedfa yn ddim ond rhestr foel i rywun arall, dim byd amgenach a dweud y gwir. Yn union fel dweud chwarter stori neu ddarllen hanner llyfr.  

 

Esyllt Maelor

15 Mawrth 2026

 

 

 
 
 

Comments


bottom of page