top of page
Search

Brwydr y Deyrnas 2026

  • garethioan1
  • 13 minutes ago
  • 2 min read

Yn ystod 2025 bu mudiadau a gwleidyddion asgell-dde ym Mhrydain yn gynyddol ddefnyddio Cristnogaeth fel arf gwleidyddol.

 

Ymhlith y dorf o 150,000 ym mhrotest 'Unite the Kingdom' yn Llundain ym mis Medi roedd yna Gristnogion yn cario croesau mawr o bren. Eu hawydd yw cymathu'r hyn maen nhw'n ystyried yn Deyrnas Dduw gyda'r Deyrnas Unedig – proses a fyddai'n golygu gwahardd neu alltudio pawb o unrhyw grefydd arall.

 

'Mae'n rhyfel crefyddol,' meddai'r Parchg Brian Tamaki, gweinidog o Seland Newydd wrth y dorf. 'Iesu Grist yn erbyn Satan. Cristnogaeth yn erbyn Islam, Hindŵaeth, Bwdhaeth a phob crefydd ffug arall. Rhaid gwahardd halal, burkas, mosgiau a themlau.'  

 

Môr o ragfarn a chasineb

 

Ar y llwyfan hefyd roedd yr Esgob Ceirion Dewar o Sir Benfro. Mae'n aelod blaenllaw o'r Eglwys Anglicanaidd Gyffesol – enwad sy'n ystyried Eglwys Loegr yn hereticiaid, gan fynnu mai hwy sy'n 'glynu at fynegiant o'r Efengyl nad yw wedi'i lygru na'i gwanhau.'

 

Wrth fendithio'r brotest yn ei wisg ddu a phorffor gyda'i groes a'i bastwn esgobol gwaeddodd: "This day we rise; rise up men and women of courage! We stand today on our own Bannockburn. We stand on our Agincourt. We will not surrender our freedom!"  O diar, diar Mr Dewar!

 

Trefnwyd y brotest asgell dde fwyaf a welwyd ym Mhrydain erioed gan Tommy Robinson, sy'n dweud iddo ganfod Crist yn y carchar y llynedd. Eto, prin fod 'asgell dde' yn ddisgrifiad digonol o'r môr o ragfarn a chasineb â lifodd drwy ganol Llundain y diwrnod hwnnw. A phrin y byddai Iesu o Nasareth, cyfaill yr alltud a'r 'arall,' wedi cymeradwyo'r alwad am anfon ymfudwyr cyfreithlon o Brydain, a chynnal croesgad gyfoes yn erbyn Mwslemiaid.

 

Braw a phryder

 

Cafodd y defnydd o'r Groes i hyrwyddo elfennau eithafol ei gondemnio gan arweinwyr y prif enwadau Cristnogol. Tra'n cydnabod hawl pobl i fynegi barn, gresynwyd bod yr elfennau hiliol a gwrth-Fwslemaidd wedi codi braw ac achosi pryder mewn sawl cymuned. Cyhoeddwyd llythyr agored cyd-enwadol yn datgan bod Iesu'n galw ar Gristnogion i garu cymdogion a gelynion, ac i groesawu'r dieithryn.

 

Fe wnaeth y ffrae barhau dros gyfnod y Nadolig wrth i 'Unite the Kingdom' fynnu: 'Put Christ back in Christmas.' Ymatebodd Eglwys Loegr drwy osod posteri mawr mewn llochesau bws oedd yn datgan: 'Christ has always been in Christmas' ac 'Outsiders welcome.' 

 

Wynebu blwyddyn heriol

 

Ym mlwyddyn etholiadau'r Senedd yma yng Nghymru, yn yr Alban ac yn nifer o gynghorau Lloegr, mae perygl y gwelir crefydd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel arf gan wleidyddion asgell dde i ledaenu'r ensyniad ein bod ni Gristnogion yn cael cam – a hynny er mwyn ceisio creu'r ymdeimlad o baranoia a dicter. Fe allai natur a bwriad yr ymgyrch dros adfer 'gwerthoedd Cristnogol Prydain' gael canlyniadau gwleidyddol a chymdeithasol difrifol.


Onid yw'r camddefnydd o enw Crist i gyflawni amcanion eithafol yn ein herio ni yn 2026 i ddinerthu hynny ar lawr gwlad ac yn genedlaethol trwy gyhoeddi neges Iesu o gariad a goddefgarwch gyda brwdfrydedd newydd?  Yn wir, onid yw'n ddyletswydd arnom ni i wneud hynny? Byddwn yn barod am flwyddyn newydd heriol!

 

Alun Lenny   

4 Ionawr 2026

 
 
 

Comments


bottom of page