Blwyddyn newydd dda! Mae cyfnod y Nadolig a throad y flwyddyn yn gyfle blynyddol i ni fyfyrio ar bethau a fu ac a fydd. Mae’r sianeli teledu a radio yn llawn o raglenni sy’n cloriannu’r flwyddyn a aeth heibio ac yn darogan beth a ddaw yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae’n gyfnod hefyd i ni hunan-ymholi – cyfnod i ni bwyso a mesur ble ‘yn ni’n arni’n ysbrydol a faint o‘r gloch yw hi arnon ni’n grefyddol.
Pwysigrwydd holi cwestiynau oedd neges Anna Vivian Jones wrth iddi gyflwyno Grŵp Diwinyddiaeth ac Adnoddau C21 yng nghynhadledd C21 ganol Tachwedd. Dyfynnodd stori o ‘Byw’r Cwestiynau’ – cyfieithiad ei thad, cyn lywydd C21, y Parch Vivian Jones, o’r gyfrol ‘Living the Questions’ (Bravo Ltd, 2012). Yn y stori gofynnodd Iddew i’w Rabbi un diwrnod pam fod pob Rabbi roedd e’n ei adnabod yn ateb ei gwestiynau â chwestiwn arall. “A beth sy’n bod ar gwestiynau?”, oedd ateb crafog y Rabbi.
Gofyn i ni holi’n hunain yn barhaus oedd un o’r heriau a osododd John Roberts i ni yn y gynhadledd honno hefyd. Rhaid gochel rhag llyncu ein propaganda ni’n hunain, meddai, a chael ein hunain mewn rhigol ddiwinyddol. Rhaid i ni gwestiynu ein safbwyntiau a’n daliadau, eu herio’n gyson a chynnal deialog barhaus â ni’n hunain ynghylch ein ffydd a’n cred. Tynnodd sylw i’r defnydd o’r term ‘rhyddfrydig’ yn y rhaglen. Gall y label ‘rhyddfrydig’ fod yr un mor gaethiwus ac unrhyw label arall oedd ei awgrym.
Ysgogodd ei sylwadau mi i ddilyn ei gyngor ac edrych eto ar sut mae C21 yn disgrifio ei hun. Term anodd iawn i’w gyfieithu o’r Saesneg yw ‘progressive’ yng nghyswllt Cristnogaeth. Ateb C21 yw cynnig tri term – radical, rhyddfrydig a blaengar. Mi ddylai’r term ‘rhyddfrydig’ awgrymu parodrwydd i fod yn agored ein meddwl, i gynnal deialog â phawb yn ddiwahân, parodrwydd i ystyried a myfyrio a newid meddwl os oes angen. Mae’r term ‘radical’ yn awgrymu bod awydd ynom i ailystyried doethineb dybiedig o’i gwreiddiau, o’r bôn, ac ailasesu a bo rhaid. Mae’r term ‘blaengar’ yn awgrymu bod awydd ynom i ddod i gasgliadau newydd cyfoes a all ein cynorthwyo i symud ymlaen i’r dyfodol yn gliriach ein meddwl, yn fwy sicr ein traed ac yn fwy perthnasol i’n hoes.
Ehangir ar hynny yn y rhestr o werthoedd y mae C21 yn ei arddel. Ar y wefan nodir bod C21 yn croesawu i’w gymdeithas unigolion o bob enwad Cristnogol yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn aelodau eglwysig. Cred C21 fod lle i drafod y ffydd Gristnogol heb ddisgwyl unffurfiaeth, gan gydnabod bod yna ystod eang o safbwyntiau diwinyddol o fewn y gymdeithas Gristnogol Gymraeg. Ydy, mae C21 yn sefyll yn y traddodiad Cristnogol Cymreig a Chymraeg, ond mae hefyd yn croesawu deialog gydag eraill o bob ffydd a phobl heb ffydd.
Roeddwn i’n falch o’r anogaeth a gafwyd gan John i ail ymweld â’r egwyddorion craidd hyn. Rydw i, beth bynnag, yn ddigon parod i barhau i’w harddel a’u cefnogi. Yr hyn sy’n gwasgu arnaf yw’r cwestiwn hwn: i ba raddau ydw i’n gweithredu arnyn nhw?
Blwyddyn newydd radical, rhyddfrydig a blaengar i chi gyd!
Comments