top of page

Bleiddgi Lleuwen

Llun y ci ar y daflen oedd wedi fy ngoglis. Ai bleiddgi yw? A fedrwn ddychmygu ei fod yn un o gŵn Annwfn? Un o gŵn hela’r tywysogion cynnar, efallai, neu hyd yn oed un o haid o gŵn arwyr chwedlau’r Mabinogi fedrai newid eu lliw ar amrantiad? Ymddengys mai muriau castell drylliedig sydd yn y cefndir ac nid muriau llaith capel sydd wedi’i esgeuluso.

 

A yw’r siòl sydd ar ysgwyddau Lleuwen wedyn yn taflu cis at siòl fenthyg Siân Owen, Ty’n y Fawnog, yn narlun adnabyddus Curnow Vosper baentiwyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif? Lle mae’r diafol felly?

 

Ta beth, roeddwn i yno ar yr achlysur cyntaf. Clywais ‘Emynau Coll y Werin’ yng nghapel diarffordd Capel Cendy ym mherfeddion gwledig gorllewin Sir Gâr llynedd. Cefais fy swyno. Yn wir, cefais fy syfrdanu. Cofiaf am y llais amrwd, llawn gwewyr hwnnw, yn canu ‘Mi fûm wrth ddrws uffern yn curo’.

 

Roedd y rhain yn canu eu profiadau cyn i Ieuan Gwyllt ffurfioli canu cynulleidfaol a chyflwyno sol-ffa a chynnal Ysgol Gân. Cyflwyno profiadau personol a wnaent ac nid cynnig adloniant. Dyna pam yr af i wrando ar y cyflwyniad yr eilwaith.

 

Mae’n gyfle i fynd yn ôl mewn amser ac i sylweddoli mor gyfoes yw’r amser hwnnw wrth gofio ein bod ninnau mewn cyfnod trothwyol. Fe ddaw yna ias ar hyd y meingefn wrth i ddoe ddod yn fyw.

 

A byddaf am wybod mwy am y ci! Tybiaf fod cefndir y poster yn perthyn i Lydaw lle mae Lleuwen wedi ymgartrefu. Y persbectif yna o edrych ar rywbeth o hirbell. Hwnna ydi o. O safbwynt pellter amser a phellter daearyddol. Mae’n werthfawr wrth wynebu yfory.


Hefin Wyn

3 Tachwedd 2024




Comments


bottom of page