Dyma un rhan fechan iawn o’r encil a gynhaliwyd yn y Bala ddoe. Yr oedd C21 yn falch o gael cwmni a chyfraniad rhai o aelodau Cymdeithas y Cymod yng Nghymru .Chwarter awr o’r myfyrio tawel dan arweiniad dau yw’r e-fwletin heddiw. 'Gwreiddiau' oedd y thema a'r diweddar D.R. Thomas a Vivian Jones piau'r geiriau.
Meddai Iesu, Pob un sy’n gwrando ar y geiriau hyn o’m heiddo ac yn eu gwneud y mae fel rhywun sy’n adeiladu ei dy ar y graig.’ ( Mathew 7 )
(Tawelwch)
Gwynfyd a gwae yw gwead y cread
o’r plethiad cywrain y nyddir profiad.
Ni bu unrhyw wae nad oedd ynddo wynfyd
Nid llawn yw llawenydd nas profwyd mewn adfyd.
Na chwennych allu rhag iddo lygru -
try grym yn drais ac mae trais yn drysu.
Nid oes dim yn aros ond cariad,
Cariad sy’n creu a chyfannu pob profiad. ( ‘Gwyfyd a gwae’ D.R.Thomas )
Nid ateb i bopeth yw Iesu, er i’r eglwys honni hynny, a dyrchafu ei hun dan gochl ei ddyrchafu ef. Cwestiwn Duw i’r eglwys yw Iesu, yn ôl Rowan Williams. A’r cwestiwn yw : a yw’r eglwys yn fwy na chymuned lwythol, yn gymuned y mae pob trafod ac anghytuno’n bosibl o’i mewn, yn gymuned nad oes neb ynddi’n penderfynu hunaniaeth neb arall, yn gymuned â dioddordeb ganddi ym mhob amrywiaeth ac ymdrech ac angen dynol? Drwy’r cwestiwn hwn gwna Iesu Dduw’n bresennol i ni a thrwom ni i gymunedau dynol eraill. Nid y ‘fy Iesu i’ yw tystiolaeth y ffydd Gristnogol ar draws y canrifoedd ond Iesu ‘ein heddwch ni.’
(‘Helaetha dy Babell ‘Vivian Jones )
( Tawelwch)
Nid y Crist a addoli di
ydyw’r Crist a welaf i –
Dy eilun di yw fy ngelyn i.
Mae d’Arglwydd di yn wyn fel gwlân
a’m Harglwydd i yn ddu fel y frân.
Ai Crist y groes adduriedig hardd
neu’r Crist fu’n chwysu yn yr ardd ?
Ai Crist poenydwyr creulon y chwilys
neu’r Crist a’r waywffon yn ei ystlys ?
Anodd adnabod Ceidwad dyn
pan yw pawb yn ei greu ar ei ddelw ei hun.
(D.R.Thomas )
Gras y dylem fod yn eiddgar am ei gael yw’r gras i ymryddhau oddiwrth pob undonedd ymarferol a chaethiwed syniadol sy’n cyfyngu, yn lleihau, sy’n bychanu, sy’n crebachu’r Efengyl, fel rhigolau,anwybodaeth,myfiaeth,rhagfarn, enwadaeth, llwytholdeb,plwyfoldeb. Bydd gras felly yn ein rhyddhau ni i godi cwestiynau fel y gallwn fod yn agored i werthfawrogi ac i elwa oddi wrth holl brofiadau dyrchafol bywyd....a thrwy hynny gael ein cymhwyso i werthfawrogi’r Efengyl ac i ddweud amdani, a’i chyflwyno yn ei holl gyflawnder.
(‘ Symud Ymlaen’ Vivian Jones ) )
Daeth dyn i’w oed,medd ef,
ar ôl canrifoedd maith
a gwyro lawer gwaith,
o’r diwedd daeth i ben ei daith.
Daeth dyn i’w oed, medd ef.
Daeth dyn i’w oed fel cawr
a herio’i dad a’i frawd
a phwyso ar ei ffawd
a’i ddawn ei hun i bennu ei rawd.
Daeth dyn i’w oed fel cawr.
Pan ddêl i’w oed â Duw
fe wêl mai edau wawn
oedd gwe cynlluniau’i ddawn -
nid yw ei oes ond byr brynhawn.
Pan ddaw i’w oed â Duw.
( D.R. Thomas )
Pan ddechreuais fy mhererindod ceisias hoelio popeth i lawr, diffinio’r Efengyl yn glir a manwl.....ond ymestyn wnaeth gorwelion fy ffydd a dyfnhau wnaeth ei hanfod........Gobethiaf y gall fy ysbryd ymdebygu fwyfwy i’r hyn a dybiaf oedd yspryd Iesu a ddaeth i’r byd hwn yn gryf, ond yn dyner a gwylaidd a chyfeillgar..’ (‘Symud ymlaen’ Vivian Jones )
Meddai Iesu [wrth Pedr] ,’ .......dilyn di fi.’
Ioan 21.22
ความคิดเห็น