Bydd pobol yn gofyn imi weithiau pam dwi’n teithio’r wlad ar y Sul i gynnal oedfaon mewn capeli sydd bron yn wag. Mi fyddaf yn rhyw led awgrymu bod gwneud hynny yn llesol i mi, beth bynnag am y gynulleidfa. Rhyw gredu fod pob oedfa, ta waeth beth yw maint y gynulleidfa, yn dysgu rhywbeth i rywun. A dweud y gwir, dyw maint y gynulleidfa ddim yma nac acw imi erbyn hyn, a byddaf yn cael fy hun yn dyfynnu sawl hanes o’r Beibl sy’n awgrymu’n gryf nad oedd Iesu yn rhy hoff o’r torfeydd,
Meddyliwch sawl gwaith yn y Testament Newydd y mae yna sôn am Iesu yn ceisio dianc rhag y dyrfa. Efallai fod ‘dianc’ yn air rhy gryf, ond os oedd cwch yn ymyl, neu fynydd o fewn cyrraedd, roedd yr Iesu yn anelu atyn nhw i gael gwared â’r dyrfa a wasgai arno hyd syrffed.
Fe wyddai’r Iesu fod yn rhaid goddef y torfeydd, ond mewn unigolion roedd ei wir ddiddordeb, nid yn y dyrfa. Unigolion fel y wraig a ddioddefai o’r gwaedlif oedd yn benderfynol o gyffwrdd yng ngodre ei wisg. “Pwy gyffyrddodd â mi?” meddai Iesu. “Be ti’n feddwl?” gofynnai ei ddisgyblion yn anghrediniol, “Ti’n gweld pobol yn gwasgu arnat o bob cyfeiriad a ti’n gofyn pwy gyffyrddodd â mi?!”. Ond fe wyddai Iesu fod yna unigolyn yn y dorf oedd mewn gwir angen amdano, ac ni fodlonodd nes iddo glywed ei stori, tawelu ei hofnau, a gwella’i chlwyf.
Na, nid y dyrfa fawr oedd yn apelio at Iesu, ac nid plesio’r torfeydd oedd ei bwrpas mewn bywyd. Ei ddiddordeb ysol oedd yr unigolyn mewn angen, ac yr oedd yn haws iddo ddod o hyd i’r unigolion hynny mewn mannau diarffordd, ac mewn grwpiau bychain o gyfeillion.
A chyda hynny mewn golwg, be ddysgais i yn y tair oedfa'r Sul diwethaf? Wel, mewn capel go enwog ar Ynys Môn oedd oedfa’r bore - capel mawr a chynulleidfa fechan. Ond erbyn meddwl, dyw’r nifer ddim yn llawer llai nag ydoedd pan euthum yno am y tro cyntaf yn 80au’r ganrif ddiwethaf. Mae’r croeso'r un mor gynnes. Cyn enillydd y Rhuban Glas sy’n chwarae’r organ ac mae ei gwên heulog yn werth ei gweld bob amser. Oedfa gartrefol, a sawl sgwrs hyfryd cyn troi am adref.
Ond cyn troi roedd rhaid clywed am broblem fach a gododd wrth i adeiladwr sy’n codi tŷ am y wal â’r capel gael caniatâd i gario llwyth o bridd a cherrig i gowt y capel – a hwnnw’n llwyth go sylweddol. Roedd yr ofnau’n cynyddu efallai y bydd y llwyth yno am gryn amser i ddod. Oes yna alegori yn fanna yn rhywle dwedwch?
Oedfa’r prynhawn mewn capel bach wrth odre’r Wyddfa - capel y gallech yn hawdd ei golli wrth ei basio. Tair gwraig yn disgwyl amdanaf a’u croeso’n ddi-feth; ond anodd yw cyfiawnhau cadw’r lle i fynd. Ac fel sawl capel bach arall yn ei gyfnod olaf, cadw i fynd bydd yr hanes nes y daw’r cau anorfod. Mae synnwyr cyffredin yn dweud y dylid chwilio am drefniant amgenach, ond mae’n anodd gwrthod - ‘lle bynnag y bo dau neu dri’.
Gyda’r hwyr cynnal oedfa yn ardal y Brifwyl, yn union ar y ffin y bu cymaint o holi yn ei chylch yr haf yma – y ffin rhwng Eifionydd a Llŷn. Cynulleidfa daclus a gwresog, a chroeso cynnes fel bob amser, a theimlad fod y gynulleidfa yn cymryd eu crefydda o ddifri – ond â gwên ar eu hwynebau. Roedd rhai bylchau amlwg yn y gynulleidfa ac roedd ambell i wyneb hoff ar goll, ond yr ysbryd o barhad yno’n gryf. Mae ambell i oedfa yn atgyfnerthu ffydd rhywun, ac mi droes i am adre yn fywiol fodlon fy myd.
Comments