top of page
Search

Beth a dwf o wreiddyn Jesse?

  • cristnogaeth21
  • Jan 11
  • 2 min read

A ninnau yng nghanol tymor y canu plygain, dw i’n siŵr y bydd nifer ohonon ni wedi canu ‘Ar gyfer heddiw’r bore’n faban bach / y ganwyd gwreiddyn Jesse’n faban bach.’

O Eseia 11:1 y daw’r cyfeiriad at ‘wreiddyn Jesse’.  ‘O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef.’ Brenin Dafydd oedd mab Jesse, a chan fod Dafydd wedi gadael y deyrnas yn y fath lanast, mae Eseia’n cymharu’r deyrnas â chyff, neu foncyff marw. Ond o’r boncyff difywyd hwn mae Eseia’n gweld y blaguryn bach yn tyfu’n fawr a fydd ‘yn sefyll fel baner i’r bobloedd’ (Eseia 11.10).

Mae hanes y sycamorwydden enwog a dorrwyd i lawr ar fur Hadrian yn rhoi darlun byw i ni heddiw o fywyd newydd yn tyfu o gyff marw. Mae yna flagur newydd yn tyfu o’r bonyn ar y mur, ac mae egin blanhigion o’r goeden bellach wedi tyfu’n lasbrennau sy’n cael eu plannu mewn gwahanol leoliadau drwy gynllun ‘Coed Gobaith’. Y gobaith yw gweld coed sycamorwydden newydd mewn llefydd fel canolfan MND Rob Burrow yn Leeds ac mewn safle i gofio trychineb Minnie Pit yn Swydd Stafford. Bywyd newydd yn tyfu o gyff marw.


Rhagfynegi dyfodiad y Meseia adnewyddol mae Eseia, ac o’r cyff marw mae o’n gweld Crist y Meseia – y ‘baban bach’ - yn codi i sefydlu teyrnas lle bydd y tlawd yn cael eu barnu’n gyfiawn, y blaidd yn trigo gyda’r oen, a’r fuwch yn pori gyda’r arth mewn harmoni. Daeth y weledigaeth honno i fod yn rhannol ar ddyfodiad cyntaf y Meseia, a bydd yn cael ei chyflawni’n llwyr ar ei ail-ddyfodiad.


Mae hwn yn ddarlun pwerus o adnewyddiad ac adfywiad. Methiant yn troi’n llwyddiant; rhyfel yn heddwch; anghyfiawnder yn gyfiawnder; bywyd o farwolaeth a ffydd yn lle anobaith – ‘llenwir y ddaear â gwybodaeth yr Arglwydd’ (Eseia 11: 9).


Wrth i ni ganu am wreiddyn Jesse ar drothwy blwyddyn newydd, pa fath o adnewyddiad y mae Duw am i’n heglwysi weithio drosto yng Nghymru a’r byd? Dyma fy nghynnig i:

Yn gyntaf, adnewyddu ein ffydd yn ddyddiol yn Nuw ein Gwaredwr, ac ymrwymo i ddilyn Crist o ddydd i ddydd yn nerth yr Ysbryd Glân.

Yn ail, bod yn agored i Dduw adfywio eglwysi Cymru a gweithio a gweddïo drosto. Mae’n wych clywed am fywyd newydd mewn hen gynulleidfaoedd, ac am blannu eglwysi newydd sy’n denu pobl o’r newydd i ddilyn Crist a thrawsnewid eu cymunedau.

Yn olaf ac nid lleiaf, gwireddu gweledigaeth Eseia o gyfiawnder a heddwch, yn ein cymunedau lleol ac yn ein byd. Tra bod y byd yn anghofio am ddioddefwyr Gasa, rhyfel cartref yn Swdan ac effeithiau newid hinsawdd, yn enwedig ar gyfandir Affrica a rhannau o Asia, gelwir ar Gristnogion i godi eu llais a gweithredu.


Ar gyfer hyn y ganwyd gwreiddyn Jesse’n faban bach. Sut y byddwn ni’n gweithio dros adnewyddiad yn 2026?

Blwyddyn newydd dda i chi i gyd.


Siôn Meredith

 
 
 

Comments


bottom of page