top of page

Beth â ddathlwn ?


Yn sicr, y bydd rhai darllenwyr yn disgwyl imi ysgrifennu am ein nawdd sant, o gofio ei bod yn Sul Gŵyl Ddewi. Ni allaf yn hawdd ei osgoi. Ond mae gen i broblem - un ymysg llawer gallaf glywed rhai yn sibrwd o dan ei gwynt! Yn hanesyddol nid oedd y Crynwyr cynnar yn dathlu unrhyw ddiwrnod, boed Basg neu'r Nadolig. Ac fe barhaodd y ddisgyblaeth honno am gyfnod hir. Does ond rhaid darllen cyngor a roddwyd yn 1751, a hyd yn oed yn 1883, i weld fod y disgwyliad yn parhau. Y geiriau a ddefnyddid oedd gwaharddiad yn erbyn "amseroedd a thymhorau." Nid oeddent am ddathlu unrhyw ddiwrnod fel diwrnod arbennig. Sail eu tystiolaeth oedd y sicrwydd fod bywyd ynddo'i hunan yn sagrafenaidd, ac oherwydd hynny fod pob dydd a thymor yn sanctaidd. Wedi'r cwbl roedd pob dydd yn ddydd yr Arglwydd.

Nid oedd angen felly gosod unrhyw ddydd neu amser o'r neilltu i ddathlu, gan fod pob eiliad ynddo'i hunan yn efelychiad o egwyddor sylfaenol: "Gwyddom gan ddyfod yr Eiliad Ein geni i'r Awr." Nid oes felly i unrhyw ddiwrnod arbenigedd, ac y dylem gofio fod hoel ein troed ar wyneb y byd i efelychu ein hymroddiad i gydraddoldeb, a thegwch cyfartal. Pwyslais sydd yn fwy modernaidd a pherthnasol heddiw, nac ymlyniad cynnar y Crynwyr wrth wrthod eilunaddoli ac arferion a ystyrid yn baganaidd. Oherwydd, wrth gwrs, erbyn heddiw ceir Crynwyr, fel pawb  arall, yn dathlu gyda'u teuluoedd a'u cyfeillion yn enwedig o gwmpas y Nadolig. Ond dyna fo, prin fod y mwyafrif yn cyplysu'r diwrnod trwy ddweud, "Pen-blwydd hapus Iesu Grist." Seciwlareiddwyd bron y cyfan o'r gwyliau Cristnogol, a phrin, gredwn i fod y rhan fwyaf o Grynwyr erbyn heddiw yn cofio am eu hymlyniad hwythau i eni'r eiliad. Ond beirniadaeth enwadol yw hynny. Felly dydd ein nawdd Sant.

O gofio fy nyddiau yn yr ysgol elfennol yn y 50au mae gennyf ryw frith gof o gyfeiriadau at y diwrnod, ond dim sydd yn aros. Dim dathliadau penodol, a rhaid imi gwestiynu os oedd pobl yn gwisgo cennin Pedr hefyd. Yn fy nyddiau yn yr ysgol ramadeg gallaf fod yn eithaf sicr na cheid unrhyw gyfeiriad at ddiwrnod Dewi Sant. Bellach mae yn dra gwahanol. Rhoddir pwyslais ar ddathlu'r dydd, yn yr ysgolion ac yn gyhoeddus. Ceir gorymdeithiau a chwifio baneri. Nid wyf am feirniadu hynny, a siawns fod angen arddangosiadau o'n cenedligrwydd a'n hunaniaeth, fod i Gymreictod liw a seremoni, myth a stori. Gellir hepgor y fuchedd a bod yn ddiolchgar inni seciwlareiddio Dewi! Dyna'r broblem i rai ond ddim i mi.

 Dylem fodloni ein bod, mewn cymdeithas aml-ffydd, wedi gwahanu dathliad ein nawdd sant o'i ymlyniadau crefyddol, a'i gwneud yn bosibl i Fwslim, Hindŵ, Sikh ac arall, gyd-gerdded yng nghysgod geiriau'r gŵr o Dŷ Ddewi, fel na fyddent yn anghofiedig, ac yn hytrach yn ein clymu bob un ohonom wrth ein gilydd. Gallwn ganu yn gytûn: "Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain, Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr, Daw'r bore ni wel ond brawdoliaeth Yn casglu teuluoedd y llawr." Dyna'r her - allwn ni droi dydd ein nawdd sant i fod yn berthnasol o fewn cymdeithas sydd bellach yn edrych sawl ffordd yn ysbrydol ac yn grefyddol, gan sicrhau hefyd gadw ei berthnasedd inni fel Cymry?


Gethin Evans

Comments


bottom of page