top of page
Search

Be' wnawn ni?

11 minutes ago
2 min read

Erbyn hyn yn fy mywyd rwy’n amcangyfrif mod i wedi bod mewn tua 5000 o oedfaon Cristnogol, yn rhan o gynulleidfa neu yn arwain. Roedd y mwyafrif mawr yng Nghymru, yn yr iaith Gymraeg, yn Brotestant, yn y pedwar prif enwad anghydffurfiol ac yn yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Ar draws y profiad hwn roeddwn yn ymwybodol, ond heb wir gymryd sylw o’r ffaith, fod un drefn o oedfa yn amlwg ym mhobman. Yr elfennau cyson oedd darlleniad o’r Beibl (mwy nag un ar brydiau), emyn (pedwar fel arfer), gweddi (ysgrifenedig neu o’r frest), Gweddi’r Arglwydd (ar gân neu gyd-adrodd), pregeth.

Dros y pum mlynedd diwethaf daeth amrywiadau gyda thechnoleg newydd, yn enwedig mewn cyflwyniadau pregeth. Ond at ei gilydd fel hyn mae wedi bod ers blynyddoedd mawr, canrifoedd o bosibl. Yn wir, tase fy rhieni yn medru galw mewn oedfaon ar draws Cymru heddiw, buasent yn gwbwl gyfforddus gyda’r drefn, heblaw am nodi enw gwahanol ar y llyfr emynau, Caneuon Ffydd yn hytrach nag Y Caniedydd. Sut y glaniwyd ar fformat mor berffaith fel na bu galw nac awydd galw am newid neu addasiad dros fwy na chan mlynedd? Rwy’n amau a oes un ateb penodol.

Erbyn heddiw mae ystadegau yn dangos yn glir am y gostyngiad sylweddol yn nifer y boblogaeth sy’n dal i fynd i’r cwrdd yn gyson. Rhag ofn i ni orddigalonni, dylid nodi bod y cyfryw ystadegau yn adlewychu arferion ar draws gwledydd Prydain ac Ewrop. Cofiaf un gweinidog yn datgan ei farn bod y cefnu wedi dechrau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n siŵr bod sawl cynnig ar esboniad, ond  tybed a yw trefn draddodiadol ein hoedfaon yn un ohonynt?


Er mwyn sicrhau bod ein cyfarfodydd ar y Sul yn amrywiol eu cynnwys, apêl, a her, beth am inni fentro ar batrymau nad sy’n debyg o gwbwl i’r hyn a fuasai’n gyfarwydd i’m rhieni ganrif yn ôl?  Yn lle canu pob emyn, beth am ddarllen rhai ohonynt a chynnig sylwadau arnynt? O ran darlleniadau, mae gennym amrywiaeth anhygoel o gyhoeddiadau Cristnogol, yn cynnwys cyfrolau, llyfrau defosiynol, esboniadau ar rannau penodol o’r Beibl, ac ysgrifau gwerthfawr eu cynnwys a’u cyfarwyddyd. Ac a oes rhaid cael pregeth bob tro, gan yr un llais? A beth am rannu ffyrdd creadigol o gynnwys y gynulleidfa mewn ffyrdd ystyrlon?  Rhannu  thema yr oedfa nesaf gyda nhw ymlaen llaw, er enghraifft, cynnig cyfleoedd i drafod a rhoi gwybod  i arweinydd y cyfarfod nesaf parthed y maes yr hoffent gael arweiniad ynddo.


Be’ wnawn ni? Yn y lle cyntaf rhaid cydnabod un o ddeddfau disyfl Natur (Deddf Duw), sy’n cyfeirio at bob organeb (planhigyn, morgrugyn, eliffant, neidr, côr meibion, côr cymysg, clwb clebran, capel, eglwys ac ati), hynny yw, casgliad o bethau byw. Mae’r ddeddf yn dweud os bydd amgylchfyd yr organeb yn newid, rhaid i’r organeb addasu os ydyw am ddymuno parhau. Heb addasu neu newid mewn rhyw ffordd, mae marwolaeth yn anochel.


Mae sawl gwedd ar addasu. Cynnal neges Iesu yw ein braint a’n dyletswydd, nid cynnal ffurf ar ddiwylliant Cymraeg sydd wedi gwasanaethu. Diolch amdano.


Neville Evans 4 Hydref 2026 Croesewir syniadau pellach neu rannu o’ch profiadau chi am oedfaon amrywiol yn y ‘chat’ ar ein tudalen FaceBook.

 
 
 

Comments


bottom of page