top of page

Barddoniaeth a Ffydd / Crefydd

Sut berthynas sydd gennych chi â barddoniaeth? Fel dywedodd un bachgen 13 oed wrtha i ryw dro, mae barddoniaeth yn gallu bod ‘yn scary’. Yn y dwylo anghywir mae barddoniaeth yn gallu codi ofn. Mae yna enw hyd yn oed am yr ofn hwnnw.


Metroffobia. I’r rhai sy’n dioddef o fetroffobia mae’n bur debyg y gallan nhw olrhain yr ofn hwnnw’n ôl i brofiadau annifyr a ddigwyddodd mewn ysgol. O ganlyniad, mae sawl un yn cysylltu barddoniaeth gyda geiriau fel ‘dwi ddim yn dallt’, ‘boring’ a ‘mond ar gyfer rhai pobol mae o’.


Ac eto, mae barddoniaeth yn gallu cyffwrdd rhywun i’r byw. Mae yna berthnasu ac mae’r perthnasu hwnnw yn gallu ‘chwalu’n ffantastig yn fy mhen neu afael yn dyner yn fy llaw’. A dyna i chi ddyfyniad arall gan ddisgybl ysgol, 13 oed, gyda llaw.


Fel cyn athrawes byddwn yn dadlau fod y broses o sgwennu barddoniaeth nid yn unig yn un o’r ffyrdd gorau i geisio dallt a dod i nabod eich tu mewn chi eich hun ond yn ffordd o drio dod i nabod a deall eraill hefyd. Wrth wynebu dosbarth newydd, sbon cychwyn gyda barddoniaeth fyddwn i a chael pawb i gyfansoddi. I blant, gall creu a gweithio mewn gweithdy barddoniaeth fod yn brofiad cynhyrfus – tydyn nhw yn cael peidio sgwennu i bendraw’r llinell? Tydyn nhw yn cael troi un peth yn rhywbeth arall? Tydyn nhw yn cael gwneud pob math o driciau boed rheiny yn FAWR neu’n fychan bach efo geiriau? Gweithdy nid llawr ffatri yw dosbarth sy’n cyfansoddi barddoniaeth. Ac mae ’na wahaniaeth rhwng y ddau le.


A beth am ymateb i farddoniaeth? Dowch yn ôl at yr hen gwestiwn dadansoddi yna! Sut gawsoch chi’ch hyfforddi? Ai drwy dderbyn nodiadau’r athro, eu dysgu a’u chwydu wedyn mewn arholiad? A’r unig ateb fyddai’n sicrhau yr A* fyddai’r ateb presgripsiwn. Byddai’r holl ymatebion eraill yn cael eu diystyru a’u pw-pwïo.


Beth sydd a wnelo hyn oll â chrefydd neu ffydd?


Hyn. Pobol ydym ni sy’n byw mewn byd pot nwdl, byd dŵr-am-ei-ben-o a dyna fo, job done. Byd gwgl. Does dim atebion gwgl, cyflym, hawdd i gwestiynau mawr bywyd. Does dim un dehongliad, un ystyr, i ddarn o farddoniaeth chwaith. Onid ydan ni yn dod at gerdd gyda’n straeon a’n profiadau ein hunain? Mewn dosbarth o 30 dyweder byddai 30 o ddiffiniadau amrywiol.


Fedrwn ni ddal a dehongli Duw a dweud yn ddigyfaddawd mai ni piau’r ateb iawn? Ydi Duw yn rhy fawr i’w ffitio’n daclus i ‘model answer’? Mae methu dallt Duw yn rhan o’r holl brofiad o drio’i nabod. Codi cwr y llen a wna’r bardd mewn cerdd, rhoi cipolwg ar rywbeth mwy. Ac onid chwilio am gliwiau a wna’r darllenydd er mwyn ceisio deall y gerdd? Gall un cliw, un ddelwedd, ein sgubo a chymryd ein gwynt ni. Tybed oes ’na gliwiau, delweddau, darnau bychan o jig-so yn dod atom yn gwbl annisgwyl? Un digwyddiad bychan, sgwrs ella, sy’n gwneud i chi feddwl o’r newydd?


A down at Grist. Yr Athro. Athro oedd yn rhoi’r disgybl yn ganolog ac yn dysgu iddo feddwl drosto’i hun. ‘Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i...’ meddai gan beri i’r disgybl feddwl am deyrnas nefoedd mewn ffordd annisgwyl a rhyfeddol. Roedd yn procio, yn annog, yn cynnal. Yn dangos na ellir cyflwyno atebion ar blât. Roedd o’n siarad mewn trosiadau a delweddau, am fugail da, am oleuni’r byd, am fara’r bywyd. Ac yn siarad mewn damhegion. Straeon, ffrwyth dychymyg falla, am fab afradlon a samariad trugarog, gan un oedd am i ni ddychmygu a meddwl ac ystyried o’r newydd. Ac fel athro da fyddai o ddim yn diystyru ymateb y disgyblion sy’n barod i wneud hynny, nac yn rhoi llinell goch drwy eu gwaith, sgrwnsho eu hatebion papur, na dweud eu bod yn rong a’u taflu i’r bin. Falla fod gwir ystyr cerdd i’w gael, nid yng ngeiriau’r gerdd ei hun, ond yn y ffordd wnawn ni ymateb i’r geiriau hynny.


Ac oni fyddai cael gafael ar union ystyr cerdd yn ei lladd hi? Onid dal i chwilio, dal i gwestiynu a holi ydan ni fod i wneud? Ac os oes atebion, bosib mai yn y cwestiynau a’r cwestiynu y mae cael hyd iddyn nhw.


bottom of page