top of page

Banciau’n cau, banciau’n agor.

On’d yw hi’n rhyfedd bod y banciau arferol, y rhai rydym wedi bod yn gyfarwydd â nhw i ddelio gyda’n harian, yn mynd drwy gyfnod o gau’u drysau? Mae nifer ohonynt bellach yn wag neu wedi eu haddasu at bwrpasau eraill.


Yr hyn sydd wedi dod yn fwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf yw’r galw mawr am fanciau o fath arall - banciau bwyd. Tristwch o’r mwyaf yw clywed am amgylchiadau pobl sy’n gorfod dibynnu ar fanciau bwyd i’w cynnal. Clywais gyfweliad dirdynnol ar y radio'r dydd o’r blaen am deulu â thri o blant yn methu cael pen llinyn ynghyd. Dywedodd y fam ei bod yn ceisio sicrhau bod ei phlant yn bwyta’n rheolaidd, ond mai dim ond unwaith y dydd y byddai hi’n bwyta ei hun - er i’w meddyg ei rhybuddio bod yna berygl i’w hiechyd o wneud hynny.


Y gaeaf hwn, er bod yna sôn am fanciau bwyd, a galw mawr amdanyn nhw, mae pryder ychwanegol wedi dod i’r amlwg – sef yr angen i gadw’n gynnes. Clywir am deuluoedd yn gorfod gwneud y dewis amhosib rhwng rhoi bwyd ar y bwrdd neu gynhesu’r tŷ! A gwaetha’r modd, mae’r sefyllfa’n gyffredin ymysg teuluoedd sy’n gweithio, ond nad yw’r cyflog yn ymestyn yn ddigon pell i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol.


Mi sylweddolodd Martin Lewis, yr arbenigwr ar faterion ariannol, nôl ym mis Gorffennaf bod y rhagolygon yn ddrwg ar gyfer y gaeaf. Rhagfynegodd y byddai angen ‘banciau gwres’ arnon ni yn ogystal â banciau bwyd. O ganlyniad, gwelwn bellach ‘Ystafelloedd Cynnes’ yn cael eu sefydlu ar hyd a lled y wlad.


Ar ei lefel symlaf, Ystafell Gynnes neu Warm Space yw man hwylus a neilltuir mewn ardal i aelodau o’r gymuned ddod iddo er mwyn cadw’n gynnes. Ond mae’n medru bod yn llawer mwy na hynny hefyd. Mae yna bobl sy’n byw bywydau unig iawn. Maen nhw wir angen cwmni a’r cyfle i sgwrsio ag eraill. Medr y ddarpariaeth syml yma hefyd fod yn gymorth i rai sydd yn dioddef o iselder. At hynny, gall fod yn gyfrwng i rannu gwybodaeth, cyngor a chymorth pellach. Felly, mae modd i Ystafell Gynnes fod yn amlbwrpas ac yn fodd i helpu pobl mewn nifer o ffyrdd.


Ni fedrwn wadu’r angen. Mae ynom hefyd awydd i geisio ymateb, dybiwn i. Dyna sut oedd hi ym Methlehem Newydd, San Clêr, beth bynnag. Ond, er bod ein prosiect ni, Tŷ Croeso, yn awyddus i helpu a cheisio darparu lle o’r fath, ar ôl dwys ystyried sut i’w weithredu, teimlwyd bod gormod o rwystrau ymarferol i ddefnyddio adeilad y capel i wneud hyn. Felly, er bod ein bwriadau i’w canmol, penderfynwyd yn erbyn defnyddio’r capel.


Ond daeth cyfle i ni wirfoddoli mewn adeilad arall, adeilad sydd ynghanol y dref mewn lleoliad mwy hygyrch, gyda’r adnoddau ymarferol eisoes yn eu lle. Ac er nad yw Tŷ Croeso yn darparu’r Ystafell Gynnes, mae gwirfoddolwyr o’r capel a’r prosiect yn helpu ac yn sicrhau llwyddiant y cynllun mewn partneriaeth ag eraill. Gelwir y prosiect yn Croeso Cynnes.


Yn wyneb argyfyngau cymdeithasol ein dydd mae’n rhaid i’n heglwysi ymestyn allan i’n cymunedau. Nid yw cynnal oedfa ar y Sul yn ddigon mwyach. Mae’n cymunedau angen ein cymorth ac onid yw’n gyfrifoldeb moesol arnom ni i’w gynnig iddynt? Os na allwn ni wneud hynny’n uniongyrchol, beth am inni ffeindio ffyrdd eraill i wneud gwahaniaeth law yn llaw ag eraill yn ein cymunedau.


“Gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni.” (Hebreaid 10: 24).


bottom of page