Chwa o awyr iach yn llythrennol oedd croesi’r Preselau o Fwêl Drygarn i gyfeiriad Fwêl Eryr. A hynny eleni yn fwy nag erioed ers dechrau’r arfer yn 2009. Y bwriad drachefn oedd cofio’r arwyr frwydrodd yn ddygn i gadw’r llethrau yn rhydd o filitariaeth. Roedd eleni yn dri chwarter canrif ers ennill y frwydr honno yn 1948. Gweinidogion Anghydffurfiol oedd ar flaen y gad.
O’r herwydd nid amhriodol oedd pwt o ddefosiwn ar ben Bwlch-gwynt cyn mentro ar y saith milltir o daith ar hyd y copa. Cerdded yn hamddenol mewn ysbryd o werthfawrogiad oedd y nod. Doedd sôn am fanylion ‘y brwydro’ ddim yn rhan o’r arlwy. Er hynny, priodol oedd oedi wrth Garn Gyfrwy i wrando ar eiriau ‘Preseli’. Cyfansoddwyd y gerdd ysgytwol yn Lyneham draw pan oedd Waldo yn alltud. Llifodd ohono pan glywodd am y bygythiad i’w gynefin.
Bryd hynny roedd gan bob capel ei weinidog ac roedden nhw’n gewri yn eu cymunedau. Roedden nhw’n ddiwahân yn unedig y tu ôl i arweiniad y Parch R. Parry-Roberts a’r Parch Joseph James, Bedyddiwr ac Annibynnwr – a gwell nodi hynny gan fod hynny o bwys bryd hynny.
Roedd yna heddychwyr rhonc yn eu plith. Ond nid ar y sail hynny y ffurfiwyd Pwyllgor Diogelu’r Preselau. A sylwch ‘diogelu’ nid ‘amddiffyn’. Dioddefodd Parry Bach wawd am ei ddaliadau mewn cyfnod cynt. Methu dygymod â’r profiad o weld tanciau rhyfel yn gwibio nôl ac ymlaen, i saethu at dargedau ar y llethrau, trwy ffenestr ei stydi tra byddai’n llunio ei bregethau oedd yn poeni Joseph.
Mae eu cyfarfyddiad ag uchel swyddogion y fyddin ar dir comin Mynachlog-ddu yn rhan o chwedloniaeth gwerin. Y ddau swyddog, mynych eu medalau rhyfel, am bwysleisio y byddai iawndal ar gael i’r trigolion i brynu ffermydd ffrwythlon ar lawr gwlad. Byddai hynny’n fendith bid siŵr ar ôl ymgodymu â gweundiroedd llwm yr ucheldir dros genedlaethau.
Mynnodd Joseph eu bod yn pwyllo am fod ei gyfaill am offrymu gweddi bwrpasol. Gweddïodd y Monwysyn gwargam am ugain munud dda yn ei Gymraeg rhywiog. Dyma’r dieithriaid yn llyncu eu poeri yn barod i gynnig eu telerau drachefn. Ond dyma’r gŵr o Forgannwg yn traddodi gweddi gyffelyb wedyn yn Saesneg. Roedd hi’n tali-ho.
Pwysleisiodd y ddau ymwelydd nad oedd fawr o faeth i anifeiliaid yn y dirwedd ac mae cystal defnydd â dim fyddai ei droi’n faes ymarfer milwrol parhaol. Mynnodd Parry-Roberts dorri ar eu traws a gorchymyn ei gyfaill i ddweud nad magu anifeiliaid yn unig a wneir yn y gymdogaeth ond magu eneidiau. Fe’u lloriwyd gan resymeg ac ethos Cristnogol oedd yn anghyfarwydd iddynt.
Gofynnodd rhywun yn ddiweddar, o ystyried y tsunami o fewnfudwyr, a fyddai yna arweinwyr cyffelyb ar gael i wrthsefyll bygythiad i’r fro heddiw. Wel, mewnfudwyr oedd y ddau a enwyd uchod – un o Fodedern a’r llall o Ddowlais. O ystyried y seciwlareiddio a thrai'r iaith mae dirfawr angen arweiniad Cristnogol mewn ardal a fu’n arddel y gwerthoedd gorau cyhyd dros gyfnod o ganrifoedd. Mae gwarineb cynhenid o dan fygythiad.
Comments