top of page

Argraffiadau

O dan arweiniad medrus (fel arfer) Anna Jane, cawsom gynhadledd rithiol fendithiol fore Sadwrn ganol Tachwedd. Teitl y gynhadledd hon oedd Gorwelion Newydd. Pennawd hollol addas i gwmni sy’n ystyried eu bod ar daith yn dilyn Iesu. Yr hyn y dylem ei weld ar daith o filltir i filltir yw gorwelion yn newid, gyda gorwel newydd yn dod i’r golwg yn gyson.


Ond dyma’r siaradwr gwadd, John Roberts, ar y dechrau yn ein herio i edrych arnom ein hunain: “Pa mor barod ydym mewn gwirionedd i godi’n llygaid at orwelion gwahanol?” Gofynnodd gwestiwn heriol. “Pa ddiwinydd o ogwydd gwahanol i’n hargyhoeddiad ni a ddarllenwyd gennym yn ddiweddar?” Ac ychwanegodd ei fod wedi hen flino ar glywed dyfynnu Karen Armstrong!


Yn y fan yna dyma fi druan yn cywilyddio’n euog, ac yn falch na fyddai’r Zoom yn fy ngweld i’n gwrido. Ein perygl parod yw bod yn fewnblyg. A’r cwestiwn arall a godwyd yn y drafodaeth oedd pa mor gynhwysol ydym mewn gwirionedd wrth i ni arddel y label “rhyddfrydig”.


Mewn cyfraniadau cryno gan Dafydd Iwan, Cris Tomos, Pryderi Llwyd Jones ac Anna Vivian Jones, trafodwyd tair o’n gweithgareddau ymarferol sef capeli a chartrefi, datblygu adnoddau lleol a chydweithio mewn cenhadaeth. Yr hyn a ddeuai’n amlwg drwy’r cyfan oedd yr argyfwng enbyd sy’n wynebu eglwysi a chenhadaeth Iesu o fewn i Gymru heddiw.


Thema arall a nodwyd yn effeithiol iawn oedd hon: nad chwilio am atebion yw’r flaenoriaeth ond codi’r cwestiynau allweddol. Nid ni biau’r atebion, ond Duw. A daeth y gynhadledd i ben, a ninnau’n clywed y sylw, tragwyddol ei arwyddocâd, fod yn rhaid i ni gael ein galw yn ôl i ymdeimlo â dirgelwch anhraethol Duw.



Commentaires


bottom of page