top of page

Annie Hughes Griffiths



Wrth weld dagrau mamau Wcrain ar newyddion teledu, a dychmygu hefyd am alar tebyg ar aelwydydd yn Rwsia, ni allaf lai na chofio am ymdrech lew un o famau Cymru, union gan mlynedd yn ôl, i greu byd heb ryfel. Gweddw yr Aelod Seneddol T. E. Ellis, a mam T. I. Ellis, oedd Annie, a briododd wedyn â’r Parchedig Peter Hughes Griffiths. Pan oedd clwyfau miloedd o deuluoedd Cymru yn dal yn ddolurus wedi’r Rhyfel Mawr, fe arweiniodd hi ymgyrch genedlaethol merched Cymru i geisio sicrhau heddwch byd eang, yn arbennig drwy gael yr Unol Daleithiau i ymuno yng Nghyngor y Cenhedloedd. Fe deithiodd ledled y wlad ym 1923. Fe gysylltodd â holl gartrefi Cymru a llwyddo i gael llofnodion 390,296 o ferched ar y ddeiseb.


“Nid amcanion gwleidyddol sydd wrth wraidd ein hymdrech. Siarad yr ydym fel merched Cymru, plant i genedl na fynn gadw dig tuag at na gwlad na phobl, eithr sydd â’u dyhead am ddyfod dydd cydweithrediad ac ewyllys da. Hiraethwn am y bore pan na throir at y cleddyf am ddedfryd yn helyntion y cenhedloedd...

Apeliwn atoch, Ferched Unol Daleithau’r America...i’n cymorthwyo yn ein hymdrech i drosglwyddo i’r oesoedd a ddȇl fyd diryfel yn dreftadaeth dragywydd.”


Mae geiriad yr Apȇl yn ardderchog. Yr unig frawddeg fu’n loes i’m calon oedd honno lle dywedai, pan glywsant am benderfyniad yr Uno Daleithau i ymuno yn y Rhyfel, fod hynny wedi peri “i’n calonnau ddychlamu gan lawenydd.” A’r rheswm am y loes a deimlais i yw’r ffaith mod innau, ynghanol Rhyfel Wcrain, wedi ymateb yn union yn yr un ffordd. Pan glywais am yr Unol Daleithiau a’r Almaen yn penderfynu anfon tanciau ac awyrenau i Wcrain, roeddwn innau wedi dychlamu gan lawenydd. Yn sydyn wedyn gofynnais i mi fy hun: I ble’r aeth dy dipyn heddychiaeth di?


Y dyddiau hyn mae yna alw newydd am gynyddu gwariant ar arfau, er mwyn sicrhau fod Prydain yn parhau i fod yn amlwg fel pŵer nerthol ar lwyfan militariaeth y byd. Duw a’n gwaredo ni! O ble y daw yna Annie arall i ddeisebu pobol Cymru i fod yn amlwg ar lwyfan tosturi a chariad?



Cewch fwy o wybodaeth am Apêl 1923 drwy’r prosiect Heddwch Nain-Mam-gu ar wefan Archif Menywod Cymru: Heddwch Nain-Mamgu (womensarchivewales.org)

bottom of page