top of page

Amheuon a heriau.

Nid wyf yn amau fy ffydd yn Nuw, ond bron yn ddyddiol gofynnaf beth mae cyfrifoldebau a rhwymedigaethau’r gred honno yn ei olygu yn fy mywyd o ddydd i ddydd.  Byddaf yn herio fy hun os ydw i am fod yn driw i'r hyn rwy’n ei  gredu yw Duw.


Mae ’na ryfel yn Ewrop ac mae ffoaduriaid o Wcráin yn byw yn ein plith yma yn yr Almaen. Mae’r rhan fwyaf wedi colli eu cartrefi, aelodau’r teulu, ffordd o fyw; ydy’ fy ychydig euros... yr hen ddillad... â’r ystrydebau yn ddigon? Mae ’na laddfa yn Gaza, ond fel 'Almaenwr newydd' dwi wedi dysgu’n gyflym bod gwrthwynebiad i Israel - oherwydd ein rhan yn yr holocost - yn gyfystyr â gwrth-semitiaeth, felly rwy’n cywilyddio gyda distawrwydd ansicr. Mae twf di-ildio’r Alternative für Deutschland (AfD) – yr asgell dde eithafol  yr Almaen – yn frawychus ac rwyf wedi bod mewn ambell brotest yn erbyn yr AfD ond heb gymryd rhan yn y ddadl. Nid yw fy Almaeneg llafar, sy’n ddigon da o ddydd i ddydd, yn cynnig ei hun i ddadl wleidyddol!


Mae’r newidiadau gwleidyddol diweddar yn yr Iseldiroedd, Ffrainc a’r Deyrnas Unedig (ymranedig?) yn medru creu ansicrwydd a gallai canlyniad etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau yn ddiweddarach eleni ddod â ni’n agosach at y dyddiau olaf!  Ac y mae her cynhesu byd-eang yn codi cwestiynau personol dwys am ein defnydd o olew ar gyfer gwresogi ein cartref, petrol ar gyfer gyrru ein car, hediadau mewn awyrennau i gael rhywfaint o haul y gaeaf, bwyta llai o gig, gwrthod plastig defnydd-un-tro ac yn gyffredinol yn defnyddio llai o nwyddau prin ein byd?


(Mae un o’r contractwyr sydd wedi adnewyddu ein hen dy/newydd dros y chwe mis diwethaf newydd ffonio i gynnig/ein temtio gyda’r cyfle i 'dalu arian parod' fel y gallwn osgoi talu rhywfaint o dreth – ac arbed rhywfaint o waith papur beichus iddynt).


Rhai dyddiau rwy’n tybio fy mod wedi dewis gweld yr hyn ydw i eisiau ei weld a chlywed yr hyn rydw i eisiau ei glywed - fy nghred yn Nuw yn adlewyrchu’r hyn rydw i eisiau iddo fod. Ar ddyddiau o’r fath rwy’n ceisio cofio a bod yn ymwybodol o’r hyn yw Duw yn fy mywyd. Mae fy ngweledigaeth yn cael ei chymylu gan ddehongli ac ail-ddehongli gwirioneddau Beiblaidd a thraddodiad eglwysig dros y canrifoedd sy’n aml yn creu mwy o ddryswch nag eglurder.


Nid yw Duw fel Tad yn ystyrlon, gan bod fy nhad wedi bod yn ffiaidd o hiliol. Mae Duw fel Brenin yn ddiystyr i wrth-frenhinwr a Duw fel bugail, i fachgen o’r dre, yn golygu dim. Mae Duw fel Creawdwr, i rai gwyddonwyr, yn gwrth-ddweud y wyddoniaeth. A Duw fel Rhyfelwr? Crochenydd? Un sy’n hau? Mynydd? Llew? Yn aml, gall y trosiadau  sydd i fod i gynnig golau ar gymhlethdod ein dealltwriaeth o’r dwyfol fod yn anfuddiol yn fy myd i.


Ond mae ffordd Iesu yn sibrwd: maddau gelynion, sefyll ochr-yn-ochr â’r tlawd, gwneud lle wrth y bwrdd i’r dieithryn, grymuso’r gorthrymedig, dim storio cyfoeth, siarad gwirionedd i herio grym (speak truth to power ) a dim dial na thrais. Dyma’r hyn sydd bron pob dydd yn  fy herio fy nghyfrifoldeb a’m hymrwymiad. Mae credu yn y Duw hwn, fel y datgelwyd gan Iesu, yn cynnig her bob awr o bob dydd. Mae ffydd yn waith caled - ac nid yn llwybr i’r gwangalon

 

John Sam Jones, Effeld, Yr Almaen.

8 Gorffennaf 2024

Comments


bottom of page