Amddiffyn beth rhag pwy?
- 2 days ago
- 2 min read
Tuedd newyddiadurwyr yw bod yn sinicaidd, a’r siniciaeth hwnnw yn caledu wrth i’r blynyddoedd fynd heibio. Mae fel petai yr angen i fod yn “ddiduedd” yn mynd i’r gwaed, ac yn magu adwaith tuag at unrhywun sydd â theimladau cryfion. Chwa o awyr iach felly yw darllen colofn Dylan Iorwerth yn Golwg. Wedi gyrfa hir fel gohebydd, mae Dylan wedi llwyddo i gadw annibyniaeth barn, a’r gallu i weld trwy dwyll-resymeg trwch ein gwleidyddion. Cafwyd enghraifft o’i resymu clir ar fater gwario ar “amddiffyn” yn ei golofn ar y 9fed o Orffennaf., lle mae’n gofyn: “amddiffyn rhag pwy?.... Be yn union ydi’r bygythiad?....ac, yn bwysicach na dim, amddiffyn be?”
Yn ddiweddar, gwelwyd y pen-ddoethyn Trump yn torri bron yr holl wario ar USAID, sef cyfraniad yr Unol Daleithiau i waith dyngarol yn y gwledydd tlotaf, a chynyddu’n aruthrol y gwariant ar arfau rhyfel. Ac fel pe bai am guro Trump ar ei gamp ei hun, gwelwyd Starmer yn gwneud yr un peth – ond bod nifer o’i blaid o’r farn nad oedd torri ar waith dyngarol ar y naill law a chynyddu’r gwariant ar arfau ar y llaw arall yn mynd yn ddigon pell. Ni chofiaf i fawr neb o’r blaid Lafur godi llais yn erbyn y polisi hwn – polisi na fyddai’r Blaid Lafur yn y gorffennol wedi ei oddef am eiliad.
Ond mae fel petai Afreswm wedi gafael yn y sefydliad gwleidyddol, sy’n credu mai paratoi at ryfel yw’r unig ddewis , a’r unig ffordd ymlaen. Ac os ydym yn credu hynny, ac yn gwario mwy a mwy ar arfau rhyfel, gan gynnwys arfau niwclear, nid oes ond un canlyniad yn bosib yn y pen draw, a hynny yw rhyfel. Wedi’r cyfan, oni fyddai’n creu swyddi di-bendraw, ac oni fyddai nifer o gwmnïau blaenllaw yn gwneud elw enfawr? Ac oni fyddai arweinwyr byd fel Donald Trump ac Elon Musk a meistri’r Dyffryn Silicon yn ychwanegu biliynau at eu cyfoeth? Onid yw llwyddiant yn magu llwyddiant, ac yn lles i bawb yn y diwedd? Fel yr awgrymais eisoes, mae Afreswm yn teyrnasu.
Ac yna daeth y newydd ofnadwy am lofruddiaeth Ann Widdecombe. Mae’n anodd ar hyn o bryd i wneud unrhyw synnwyr o’r peth, ond os yn wir mai cymhelliad gwleidyddol oedd y tu ȏl i’r anfadwaith, faint o help oedd hi fod gan y Deyrnas Unedig system amddiffyn Trident? A faint o help oedd holl systemau amddiffyn Prydain, a’r holl arfau niwclear, i rwystro’r ddau Aelod Seneddol a laddwyd rhag cael eu llofruddio yng ngolau dydd, ac i atal y bomio ar strydoedd Llundain? Y ffaith amdani, fel y dywed Dylan, yw fod ein holl gynlluniau amddiffyn yn amherthnasol yn y byd sydd ohoni heddiw.
I ni Gristnogion, mae paratoi at ryfel ar y raddfa y gwnawn ni yn groes i bob rhesymeg. Ein hangen yw paratoi at heddwch, a darganfod ffordd i greu cymod a dealltwriaeth rhwng y gwledydd, a gweld amrywiaeth y ddynoliaeth fel achos i’w ddathlu, ac nid fel achos i gasáu. Casineb yw gwreiddyn pob rhyfel, ac y mae pob miliwn a wariwn ar baratoi at ryfel yn bwydo’r casineb hwnnw yn y pen draw. Rhaid inni, gyda Waldo, ganfod “rhwydwaith dirgel Duw sy’n cydio pob dyn byw, cymod a chyflawn wê, Myfi, Tydi, Efe”.
Dafydd Iwan 19 Gorffennaf 2026

Comments