top of page
Search

ADNABOD

  • cristnogaeth21
  • 3 days ago
  • 2 min read

Dychmygwch bod ganddoch chi gyfaill sy’n edmygu actor enwog ac yn mwynhau gwylio ei ffilmiau. Fe ŵyr amryw o ffeithiau am yr actor- ble y cafodd ei eni, pwy yw ei deulu, pa fath o fwyd mae’n ffafrio ac ati. Serch yr holl wybodaeth, ydy e wir yn ei adnabod?

 

Nac ydy, siŵr - adnabod amhersonol ydyw. Dywed yr athronydd David Matheson nad oes modd profi adnabyddiaeth o berson heb yr hyn mae’n ei alw’n ‘adnabod gweithredol’. Yr ymarferoldeb hwn yw’r peth sy’n bywháu unrhyw berthynas.

 

Cofiaf fy nhad yn adrodd hanesyn ohono un bore Sadwrn yn y swyddfa bost leol, yn disgwyl ei dro i nesáu at y cownter, pan glywodd waedd o ben draw’r lle: “Hei, dwi’n dy nabod di! Ti’n mynd i’r un Ysgol Sul â fi!” Merch fach oddeutu tair neu bedair oed oedd hi, yn ei adnabod yn IAWN, a hynny’n peri iddo lenwi â balchder. Nid yn unig yr oedd wedi’i adnabod, ond roedd hi wedi gweiddi nerth-ei-phen â gwên fawr ar ei hwyneb! Dyna enghraifft dda o adnabod gweithredol os bu un erioed!

 

Efe a rydd ichi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gyda chwi yn dragwyddol; Ysbryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a’i hadwaenoch ef; oherwydd y mae yn aros gyda chwi, ac ynoch y bydd efe.’ (Ioan 14: 16,17. BWM)

 

Braint yw cael unrhyw fath o brofiad o’r Ysbryd Glân a chael ein cyffwrdd mewn amryfal ffyrdd. Dwi’n hoff iawn o’r gair ‘Diddanydd’ sydd yn Ioan 14:16. ‘Eiriolwr’ ddefnyddir yn y Beibl Cymraeg Newydd. Gwelir yn beibl.net yr ymadrodd ‘yn rhoi un arall ichi fydd yn sefyll gyda chi’, gyda’r troed-nodyn canlynol: ‘sefyll gyda- mae’r gair Groeg yn golygu cysuro, annog, amddiffyn’. Defnyddia rhai beiblau Saesneg eiriau megis ‘Cyfnerthwr’, ‘Hyrwyddwr’, ‘Cefnogwr’. Delweddau apelgar, bob un. Nid peth i’w ofni felly yw Ysbryd Duw, ond rhywbeth i’w groesawu.

 

Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon, a pheidiwch ag ofni.

(Ioan 14:27 BCN)

 

Mae cymaint o Gristnogion ledled y byd yn byw mewn ofn- yn methu arddel eu cred yn gyhoeddus, na rhannu eu hadnabyddiaeth o Iesu Grist. Pam ein bod ni felly mor aml, ynghanol ein bywydau cyfforddus, yn teimlo ‘embaras’ o’n ffydd? Diolch am esiampl y rhai sy’n falch o’u cred yn y Gymru gyfoes ac yn ddewr eu hargyhoeddiad. Da ni, daliwn ein gafael yn ein hadnabyddiaeth o’r Drindod ynghanol popeth, a pharhau i arddel ac ymarferoli’r Cariad sy’n ein hatgyfnerthu’n gadarnhaol a gobeithiol.

 

Dyma emyn o eiddo W.Rhys Nicholas a ysbrydolodd y neges:

 

Ti Ysbryd Glân, Ddiddanydd Eglwys Dduw,

O tyrd i lawr;

Gad inni deimlo’r grymusterau byw

A’u doniau mawr

Yn deffro pawb o’r difaterwch hir,

A chreu llawenydd eto yn ein tir.

Ti, Ysbryd creadigol, dân o’r Nef,

Meddianna ni;

Rhinweddau’r Arglwydd Iôr a’i allu Ef

Ddaw gyda Thi;

Cawn lwyr adnabod Crist a’i ddwyfol werth,

A chreu’r gymdeithas nefol drwy dy nerth.

 

Ti, ysbryd Sanctaidd, sy’n grymuso’r saint

Dan wawd a phoen;

Rho nerth i gyfrif pob crwsâd yn fraint

Er mwyn yr Oen,

A gad in weld yr ymweliadau mawr

Yn creu gorfoledd newydd yma’n awr.

 

Sian Meinir

 
 
 

Comments


bottom of page