Does dim dwywaith amdani, mae’r gwasanaethau Plygain ar gynnydd, a hynny mewn sawl rhan o Gymru. Ond beth tybed yw’r rheswm am hynny? Fel un o’r rhai sydd wedi dechrau canu caneuon Plygain ers rhai blynyddoedd bellach, mi geisiaf gynnig ateb.
Mewn eitem ar adfywiad y Plygain ar ‘Heno’ yn ddiweddar, gofynnodd y gyflwynwraig afieithus i aelod o’r gynulleidfa: “Fyddwch chi’n perfformio heno?”. Roedd y cwestiwn yn fy nharo i’n chwithig iawn, a hynny am y rheswm syml nad yw mynychwyr gwasanaeth Plygain yn ‘perfformio’ o gwbwl. Cymryd rhan mewn gwasanaeth y maen nhw. Ac i ni’r Cymry a fagwyd yn niwylliant yr Eisteddfod, lle mae pob canu yn berfformiad a phob perfformiad yn gystadleuaeth, mae hynny’n ddweud go fawr. Ac i mi mae’r gwahaniaeth hwn rhwng canu Plygain a chanu mewn eisteddfod neu gyngerdd yn rhan fawr o’r rheswm dros apêl y gwasanaethau Plygain.
Ar ben hynny, mae’r profiad o ganu Plygain yn brofiad unigryw. Does dim sôn am ‘liwio’ wrth ganu Plygain, dim ond gadael i’r geiriau a’r alaw wneud y gwaith i gyd. Ac mae’r geiriau’n gyhyrog ac uniongyrchol â chryn grefft ar lawer ohonyn nhw, gyda chyffyrddiadau cynganeddol yn aml yn ychwanegu at eu heffaith.
Fel rheol, mae gweinidog neu offeiriad yn cychwyn y gwasanaeth a gosod yr awyrgylch priodol ar gyfer y cyfarfod. I mi, fel anghydffurfiwr rhonc, mae’r cyfuniad o ffurfioldeb y gwasanaeth eglwysig cychwynnol ac anffurfioldeb cartrefol yr awyrgylch yn cyfuno i greu cyd-destun hynod addas i’r holl achlysur.
Mae’n anodd cymharu arddull y canu Plygain gydag unrhyw fath arall o ganu. Ond pan oeddwn yn gwneud rhaglen am hanes Corsica rai blynyddoedd yn ôl cawsom gyfle i glywed criw o ddynion yn canu yn eu dull traddodiadol nhw mewn eglwys yno. Pedwar o ddynion gyda lleisiau cryfion, yn canu mewn cynghanedd, ac yn canu â’u holl egni, nes bod yr eglwys hynafol yn diasbedain. Ac yr oedd yr effaith yn atgoffa rhywun yn bendant iawn o’n canu Plygain ni yng Nghymru. Byddai’n ddiddorol iawn cael gwybod os oes yna gysylltiad rhwng y ddau draddodiad.
Ond i mi, cyfoeth mwyaf y canu Plygain yw’r geiriau; mae’r ieithwedd ychydig yn hynafol wrth reswm, ond mae crefft y farddoniaeth, a’r odlau mewnol a’r cynganeddion mynych yn cydio, ac yn glynu yn y cof. Ac uwchlaw pob dim, geiriau i’w canu ydyn nhw:
Y gwŷr doethion cywir deithient, ar doriad dydd,
O mor fore y cyfeirient, ar doriad dydd.
Yn hyderus caent eu harwen gan ryfeddol, siriol seren
I ymofyn am y bachgen, ar doriad dydd.
Yno’n hawddgar, iawn anrhegion a ddygasant, enwog weision,
Mewn modd parchus, ddawnus ddynion, ar doriad dydd.
A minnau newydd roi’r geiriau hyn at ei gilydd yn ystod Ionawr eleni, daeth Pobol y Cwm ar fy nhraws, wedi i drigolion Cwm Deri benderfynu cynnal Plygain yn nhafarn y Deri Arms. Wel sôn am gawdel! Dim math o ymdrech i greu awyrgylch o wasanaeth, dim ond rhyw fath o ffug eisteddfod flêr rhwng y trigolion, a chythrel y cystadlu yn amlwg iawn.
Ond yr hyn a’m lloriodd i – a ninnau wedi clywed yr actorion yn canu gyda graen ar rifyn o’r Noson Lawen yn ddiweddar – oedd bod ansawdd y canu yn fwriadol ddi-raen, ac yn amlach na pheidio allan o diwn. Beth bynnag oedd bwriad y cynhyrchwyr a’r sgriptwyr, roedd y cyfan yn dod drosodd fel ymgais i ddilorni’r traddodiad Plygain yn llwyr. Os mai’r bwriad oedd cydnabod y twf diweddar yn y traddodiad hwn, ofnaf fod y cyfan wedi bod yn fethiant eithaf cywilyddus. Gwell lwc y tro nesaf gyfeillion – mae’r Plygain yn haeddu gwell na hyn! Ac yn y byd go iawn, tu allan i furiau’r Deri Arms, mae’r traddodiad ar gynnydd, ac yn cael ei barchu fwyfwy.
Dafydd Iwan
16 Chwefror 2025
Comentarios